SAIL Magazine 2024 [Welsh]

Meddai Siân: “Rydym yn ymddiried yn llwyr yn Ken a byddwn yn gwybod y bydd yn sicrhau bod y rhodd yn cael ei defnyddio’n dda. Ni allwn ei ganmol ef digon, a’r hyn y mae wedi’i wneud i ni ac eraill, drwy ei waith yn y Ganolfan Eifftaidd, yn ogystal â’r cyrsiau ar-lein, a oedd yn fendith lwyr yn ystod Covid.” Meddai Ken: “Mae’n rhodd hynod hael a fydd yn wirioneddol drawsnewidiol i’r Ganolfan Eifftaidd.” Erbyn hyn mae Siân ac Illian wrth eu boddau’n treulio eu hamser yn ymweld â safleoedd hynafol ac yn dysgu am arteffactau a gwybodaeth Eifftaidd mewn amgueddfeydd a darlithoedd.

Gallwch astudio Eifftoleg ym Mhrifysgol Abertawe o hyd: swan.ac/egypt-cy

Neu gallwch ddysgu rhagor am y Ganolfan Eifftaidd yma: swan.ac/eifftoleg

Os hoffech adael rhodd yn eich ewyllys, gallwch ddysgu rhagor neu siarad ag un o’n tîm codi arian: swan.ac/etifeddiaeth

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online