Mae Gwobrau Mentergarwch y Brenin, y gydnabyddiaeth fwyaf i fusnesau yn y DU, wedi cyhoeddi bod Bionema Group Ltd, cwmni deillio o Brifysgol Abertawe, wedi ennill y wobr uchel ei bri yn y categori Arloesedd. Mae’r anrhydedd yn dathlu NemaTrident, cynnyrch arloesol Bionema sy’n rheoli plâu cnydau mewn modd biolegol ecogyfeillgar chwyldroadol. Mae Bionema, sy’n flaenllaw ym maes technoleg bioreolaeth, yn ymrwymedig i leihau’r ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwrteithiau synthetig wrth gynhyrchu bwyd. Cafodd Gwobrau Mentergarwch y Brenin, sef Gwobrau Mentergarwch y Frenhines gynt, eu hailenwi y llynedd i adlewyrchu awydd Ei Fawrhydi’r Brenin i barhau ag etifeddiaeth Ei Mawrhydi’r Frenhines Elizabeth II drwy gydnabod busnesau neilltuol yn y DU. Y rhaglen wobrwyo, sydd bellach yn ei 58ain flwyddyn, yw’r wobr uchaf ei bri i fusnesau yn y wlad, ac mae busnesau llwyddiannus yn gallu defnyddio arwyddlun Gwobrau’r Brenin am y pum mlynedd nesaf. Dechreuodd Bionema Group Ltd fasnachu yn 2013 ac mae’n gweithio ym maes biotechnoleg, gan greu ffyrdd o reoli plâu at ddibenion garddwriaeth, coedwigaeth a diwydiannau eraill. Mae ei arloesedd yn cystadlu â phlaladdwyr cemegol, gan ddefnyddio nematodau microsgopig i ladd pryfed penodol. Ar hyn o bryd, mae ffermwyr yn dibynnu’n drwm ar blaladdwyr cemegol. Fodd bynnag, mae tystiolaeth o ymwrthedd cynyddol i blaladdwyr a phryderon difrifol am yr amgylchedd a diogelwch pobl wedi arwain at reoliadau mwy llym sy’n gwahardd llawer o blaladdwyr rhag cael eu defnyddio.
Archwilio Problemau Byd-eang. A allwn ymddiried mewn gwleidyddion ? Sut rydym yn sicrhau diogelwch bwyd byd-eang ? Pwy sy’n gymwys i gystadlu mewn chwaraeon elît ? Dyma’r cwestiynau sy’n cael eu hateb gan academyddion o Brifysgol Abertawe yng nghyfres nesaf y podlediad ymchwil Archwilio Problemau Byd-eang. Yn y bedwaredd gyfres, 9 pennod o hyd hon, mae academyddion o Brifysgol Abertawe’n esbonio sut mae eu hymchwil arloesol yn mynd i’r afael â heriau byd-eang. Caiff penodau eu rhyddhau bob pythefnos ac maent yn cynnwys: Datgelu hanes hir o lofruddiaethau Galluogi profiadau teithio cynhwysol i deuluoedd Ai dysgu ymdrochol yw’r ateb i wella addysg gofal iechyd ? Cymhwysedd chwaraeon elît a maeth yn seiliedig ar blanhigion Diogelwch bwyd byd-eang - a yw bioblaladdwyr yn cynnig yr ateb ? A ydym yn ymddiried yn ein gwleidyddion ? A ydynt yn ymddiried ynom ni ? Y pris a delir gan bobl leol - cloddio am aur yn Kyrgystan Beth yw effaith byw ar bwys folcano gweithredol ?
Darllenwch yr erthygl lawn yn: swan.ac/bionemagroupltd
Gwrandewch ar ein podlediad yn: swan.ac/APBPodlediad
03
Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online