SAIL Magazine 2024 [Welsh]

GWOBR DYLAN THOMAS

Mae Gwobr Dylan Thomas flynyddol Prifysgol Abertawe, a lansiwyd yn 2006, yn un o’r gwobrau mwyaf mawreddog i awduron ifanc, gyda’r nod o annog talent greadigol amrwd ledled y byd. Mae’n dathlu ac yn meithrin rhagoriaeth lenyddol ryngwladol. Mae’n un o wobrau llenyddol mwyaf mawreddog y DU yn ogystal ag un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i awduron ifanc. Wedi’i dyfarnu am y gwaith llenyddol cyhoeddedig gorau yn yr iaith Saesneg, wedi’i ysgrifennu gan awdur 39 oed neu iau, mae’r Wobr yn dathlu byd rhyngwladol ffuglen yn ei holl ffurfiau gan gynnwys barddoniaeth, nofelau, straeon byrion a drama. Mae’r wobr wedi’i henwi ar ôl yr awdur a aned yn Abertawe, Dylan Thomas, ac mae’n dathlu ei 39 mlynedd o greadigrwydd a chynhyrchiant. Yn un o lenorion mwyaf dylanwadol, rhyngwladol- enwog canol yr ugeinfed ganrif, mae’r wobr yn ei goffáu i gefnogi awduron heddiw ac i feithrin doniau yfory.

Eleni mae Caleb Azumah Nelson wedi’i gyhoeddi fel enillydd Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe, am ei nofel Small Worlds (Viking, Penguin Random House UK). Yn ôl y panel beirniadu eleni, mae Small Worlds yn waith ysgogol sy’n adrodd stori bersonol tad a mab a osodir rhwng de Llundain a Ghana dros dri haf. Mae’r fuddugoliaeth yn cadarnhau bod yr awdur Prydeinig-Ghanaidd, sy’n 30 oed, yn un o sêr cynyddol ffuglen lenyddol, yn dilyn ei nofel gyntaf glodfawr, Open Water, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2022. Meddai Namita Gokhale, Cadeirydd y Beirniaid yn 2024, ar ran y panel: “O blith rhestr fer hynod drawiadol a ddangosodd ehangder o genres a lleisiau newydd cyffrous, roedden ni’n unfrydol wrth ganmol y nofel emosiynol hon a ddaw o’r galon. Mae Caleb Azumah Nelson yn ysgrifennu mewn modd cerddorol, mewn llyfr a luniwyd i’w ddarllen yn dawel a gwrando arno’n uchel i’r un graddau. Mae delweddau a syniadau’n codi fwy nag unwaith mewn modd hyfryd o effeithiol, gan sicrhau bod gan natur symffonig Small Worlds naws ysgogol. Mae’r darllenydd yn cael ei ysgubo i ffwrdd gan gymeriadau dwfn wrth iddyn nhw deithio rhwng Ghana a de Llundain, gan geisio dod o hyd i ryw fath o gartref. Yn heriol yn emosiynol ond yn eithriadol o iachusol, mae Small Worlds yn teimlo fel balm: mae mor onest am gyfoeth ac anawsterau aruthrol byw i ffwrdd o’ch diwylliant.” Y llyfrau eraill ar restr fer y wobr yn 2024 oedd A Spell of Good Things gan Ayòbámi Adébáyò (Canongate Books), The Glutton gan A. K. Blakemore (Granta), Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber), Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books) a Biography of X gan Catherine Lacey (Granta).

05

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online