SAIL Magazine 2024 [Welsh]

C: Oeddech chi’n ymwneud â radio myfyrwyr yn Abertawe? Na, ddim o gwbl. A dweud y gwir, doedd gen i ddim diddordeb mewn radio tan yn llawer diweddarach pan symudais i Fryste gyda fy mand. Yn y pen draw, daeth fy ngyrfa gerddorol i ben oherwydd fy ngwaith cyflwyno ar y radio. C: Rydych chi wedi bod ar y radio ers amser maith. Sut mae rôl radio wedi newid? Mae’r diwydiant radio wedi newid llawer. Roedd llawer o orsafoedd ar un adeg, ond erbyn hyn mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn eiddo i nifer fach o gwmnïau mawr. Mae’n anoddach cael troed i mewn i’r byd radio erbyn hyn. Wedi dweud hynny, dangosodd y cyfnod clo y cysylltiad parhaus rhwng radio a’r gwrandawyr. Roedd pobl yn dibynnu ar y radio am resymau iechyd meddwl ac i gael cysylltiad yn ystod cyfnod anodd. Mae rhestri chwarae’n wych, ond mae rhywbeth arbennig am wrando ar rywbeth byw a theimlo eich bod yn rhan o gymuned. Rwyf wedi gwneud ymdrech bob amser i gael sgwrs barhaus gyda’r gynulleidfa trwy’r cyfryngau cymdeithasol, trwy ddarllen negeseuon ar yr awyr, a thrwy gynnwys cyfraniadau gan y gynulleidfa. Y gynulleidfa sy’n adeiladu ein sioe; maen nhw’n ein hysbrydoli gyda’u syniadau a’u straeon gwych. C: Yn eich barn chi, sut fydd radio’n ymdopi â’r dirwedd sy’n newid ym myd cerddoriaeth? Mae radio’n ymwneud â chysylltiad, trefn a darganfod. Dydyn ni ddim yn canolbwyntio ar gyflwyno cerddoriaeth newydd o reidrwydd. Mae’n gymysgedd o ffefrynnau cyfarwydd a chyflwyno gwrandawyr i ddarganfyddiadau diweddar. Gall Spotify a radio ategu ei gilydd. Efallai y bydd pobl yn clywed cân newydd ar y radio ac yna’n mynd i Spotify i wrando ar yr albwm. Radio yw ffenestr y siop, a gall gwrandawyr archwilio ymhellach ar sail yr hyn maen nhw’n ei glywed.

C: Mae Absolute Radio yn meithrin ymdeimlad o gymuned, ond yw e? Allwch chi rannu enghraifft? Gallaf, gall radio fod yn arf pwerus ar gyfer cysylltu. Rwyf wedi gwneud llawer dros y blynyddoedd i hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chysylltu. Yn ystod y cyfnod clo, bûm yn cynnal cyfarfodydd ar gyfer gwrandawyr a oedd yn teimlo’n unig neu’n ynysig. Roeddwn i’n arfer trefnu digwyddiadau “Dim Swyddfa, Parti Swyddfa” hefyd ar gyfer pobl hunangyflogedig. Mae gweld y cysylltiadau hyn yn parhau hyd yn oed ar ôl y digwyddiadau wedi rhoi llawer iawn o foddhad. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ein helpu i gysylltu â gwrandawyr ac adeiladu ymdeimlad cryfach o gymuned hefyd. C: Fe wnaethoch chi ddilyn cwrs Astudiaethau Americanaidd ac rydych chi’n chwarae gitâr Delta Blues. Yw diwylliant America wedi apelio atoch chi erioed? Yn bendant! Roedd fy nghwrs gradd mewn Astudiaethau Americanaidd yn brofiad anhygoel. Roedd yn bwnc eang a oedd yn ymdrin â phopeth o deledu a ffilm i gaethwasiaeth a Delta Blues. Rwy’n dal i ddilyn chwaraeon a cherddoriaeth Americanaidd ac yn teimlo’n freintiedig o fod wedi dysgu am ddiwylliant America yn Abertawe. Fe ddysgais i sgiliau gwerthfawr hefyd fel addasu a sut i gysylltu â phobl o gefndiroedd amrywiol. Fy chwilfrydedd am bobl yw’r hyn sy’n llywio fy ngyrfa radio.

07

Made with FlippingBook - professional solution for displaying marketing and sales documents online