Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan

Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Beth yw’r Academi Dysgu Dwys? Mae’r Academi Dysgu Dwys Cymru Gyfan ar gyfer Arloesi mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn rhan o Raglen Academïau Dysgu Dwys Llywodraeth Cymru ac mae wedi’i darparu mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe (yr Ysgol Reolaeth), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Comisiwn Bevan. Mae’r rhaglen wedi’i hamlinellu yn ‘Cymru Iachach’, sef y cynllun tymor hir ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru, ac mae wedi’i dyfeisio i wella arweinyddiaeth a datblygu yn y gweithlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Sut mae’n gweithio? Gyda dysgu ar sail achosion sy’n tynnu ar enghreifftiau byd-eang a lleol a phrosiect yn y gweithle, mae’r cwrs MSc 180 credyd mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid), wedi’i ddarparu drwy Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe. Gellir ei astudio ar sail amser llawn neu’n hyblyg dros ddwy flynedd, ac mae wedi’i ddyfeisio ar gyfer y dysgwr proffesiynol prysur. Bydd yn ymarferol, yn berthnasol ac yn seiliedig ar ddamcaniaeth a phrofiad byd-eang.

Ymagweddau Addysgu;

Darperir y cynnwys amser llawn mewn 3 bloc addysgu, ac mae’r cynnwys rhan-amser yn cael ei ddarparu dros 2 flynedd. Dulliau dysgu cyfunol a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer y ddau opsiwn, gan ddefnyddio Zoom (fideo- gynadledda) a Canvas, sef system rheoli dysgu ar y we y mae llawer o brifysgolion yn ei defnyddio bellach. Mae’r cwrs MSc mewn Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid) yn cynnwys y modiwlau canlynol: • Archwilio Diben Sefydliadol • Llywio Arloesi a Newid • Polisi ac Ymarfer Iechyd a Gofal Darbodus • Arloesi Iechyd a Gofal Darbodus • Iechyd a Gofal Cymhleth, Pobl a Systemau • Prosiect ymchwil mewn cyd-destun Iechyd a Gofal Mae pob modiwl yn dibynnu ar werth y credydau, er enghraifft, cynhelir modiwl 15 credyd dros 10 wythnos, • a cheir darlithoedd wedi’u recordio ymlaen llaw ynghyd â nodiadau llais neu destun, wedi’u cefnogi gan: • seminarau wythnosol byw dros Zoom • Un gweithdy dydd Gwener/Sadwrn Gan fydd y cynnwys ar gael ar Canvas, gellir ei lawrlwytho ar adeg sy’n gyfleus i chi, er mwyn cydweddu â’ch gwaith a’ch ymrwymiadau teuluol.

Mae ysgoloriaethau cyfyngedig ar gael: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/add (yn amodol ar gymhwysedd ac argaeledd)

Made with FlippingBook HTML5