YMCHWIL
Nodau ein Cyfadran a’n Hysgol yw creu ymchwil gydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol drwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a mwyaf disglair o bob cwr o’r byd.
Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, ein cefnogwyr diwydiannol a’n myfyrwyr drwy ymgorffori gweithio mewn partneriaeth a chysylltiadau â chyn-fyfyrwyr. O ganlyniad, mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i sawl prosiect mawr sy’n chwarae rôl bwysig wrth lywio’r economi a pholisïau’r llywodraeth.
SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Addysgu diwydiant am ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â marchnadoedd datblygol Dylanwadu ar drafodaethau sy’n llywio polisi
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn amrywiaeth o feysydd i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflawni. Mae ein harbenigedd yn cynnwys:
Dadansoddeg Fusnes Rheoli Adnoddau Dynol Marchnata
Entrepreneuriaeth Arloesi Ymddygiad Sefydliadau
Rheoli ariannol Ymgynghori ar Reoli Twristiaeth
FFOCWS AR YMCHWIL: YR ATHRO BRIAN GARROD, ATHRO MARCHNATA
Mae ymchwil yr Athro Brian Garrod yn canolbwyntio ar farchnata cyrchfannau twristiaeth, yn enwedig o ran materion megis cynaliadwyedd ac ecodwristiaeth: math o dwristiaeth gynaliadwy â phwyslais ecolegol. Mae wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau mewn cyfnodolion ac mae’n gyd-awdur wyth gwerslyfr ar y pwnc. Ar hyn o bryd, mae Brian yn ymchwilio i’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rhwystrau mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu wrth gymryd rhan mewn ecodwristiaeth. Gallwch ddarllen mwy am ei ymchwil yma: swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein- huchafbwyntiau/cyfiawnder-a-chydraddoldeb/ecodwristiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil
Made with FlippingBook HTML5