Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

TROSEDDEG, CYMDEITHASEG A PHOLISI CYMDEITHASOL

TROSEDDEG YN Y 10 UCHAF YN Y DU AM RHAGOLYGON GYRFA (Guardian University Guide 2024)

POLISI CYMDEITHASOL YN Y 5 UCHAF YN Y DU AM BODDHAD MYFYRWYR (Complete University Guide 2024)

Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/gwyddorau-cymdeithasol am yr wybodaeth ddiweddaraf.

CROESO

RYDYM YN CYNNIG:

Croeso cynnes i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.

Cyfleoedd Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Cefnogaeth i drefnu cyfleoedd lleoliad gwaith mewn ystod eang o leoliadau, yn y DU a thramor

Cyfathrebu a gweithio mewn tîm Datrys problemau Rheoli amser SGILIAU I’W CAFFAEL:

Meithrin sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol Elwa o gymorth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:

Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

TROSEDDEG Mae Troseddeg yn un o’r pynciau mwyaf amrywiol, ysgogol a heriol rydym yn eu cynnig ym Mhrifysgol Abertawe. Mae’n tynnu ar ddisgyblaethau megis seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, y gyfraith, a hyd yn oed bioleg, i ymchwilio i broblemau cymdeithasol enbyd: Beth sy’n achosi troseddu? Beth dylem ei wneud amdano? Beth yw’r ffordd orau o gefnogi dioddefwyr? Rydym yn cynnig profiad a chymorth neilltuol i fyfyrwyr, gan ddarparu cymorth cyflogadwyedd, academaidd a phersonol drwy gydol eich gradd. Rydym yn buddsoddi yn nyfodol ein myfyrwyr drwy fannau addysgu, cymdeithasol ac astudio o’r radd flaenaf, yn ogystal â chyfleusterau sy’n arwain y sector.

EIN GRADDAU TROSEDDEG

M2L4 M2LA M2LI

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Bydd y radd Troseddeg israddedig yn rhoi’r cyfle i chi archwilio’r ffactorau niferus sydd ynghlwm wrth ymddygiad troseddol, a sut mae cymdeithas yn ymateb drwy’r system cyfiawnder troseddol. Byddwch yn astudio’r damcaniaethau pwysicaf ym maes troseddu a gwyredd a’u perthnasedd i bolisi, ymchwil ac ymarfer cyfiawnder troseddol cyfoes.

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/troseddeg-cymdeithaseg-polisi- cymdeithasol

TROSEDDEG: Yr 20 uchaf yn y DU yn Gyffredinol (Guardian University Guide 2024)

5S26

Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Bydd ein BSc mewn Troseddeg a Seicoleg yn rhoi i chi hyfforddiant gwyddonol arbenigol yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, ynghyd â dealltwriaeth fanwl o ddamcaniaethu troseddu a gwyredd, ac ymdrechion cymdeithas i ymateb i’r materion hyn.

MLF4 MLFA MLFI

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae’r radd hon mewn Troseddeg a Pholisi Cymdeithasol yn cyfuno dau faes pwnc cyffrous sy’n datblygu’n gyflym ac sydd â dylanwad enfawr ar ein bywydau. Byddwch chi’n archwilio damcaniaethau a dadleuon allweddol ynghylch sut mae cymdeithasau’n diwallu anghenion eu dinasyddion a’r ffyrdd y caiff polisïau cymdeithasol eu llunio gan achosion troseddu a’u heffeithiau ar unigolion a chymunedau.

MLG3 MLGA MLGI

Troseddeg a Chymdeithaseg, BSc (Anrh)

Troseddeg a Chymdeithaseg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Troseddeg a Chymdeithaseg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae ein gradd BSc Troseddeg a Chymdeithaseg integredig yn dod â dwy ddisgyblaeth gwyddor gymdeithasol gyffrous a chyflenwol ynghyd. Byddwch yn astudio datblygiad safbwyntiau Cymdeithasegol a Throseddegol ac yn dysgu pam mae’r rhain mor bwysig yn y gymdeithas gyfoes.

POLISI CYMDEITHASOL Mae Polisi Cymdeithasol yn ddisgyblaeth uchel ei pharch ond dynamig sydd wedi bod yn rhan o’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe ers amser hir, gan gynnig trylwyredd academaidd a pherthnasedd i’r byd go iawn. Mae’r cwestiynau sylfaenol o beth mae ei angen ar fodau dynol a sut mae cymdeithasau’n diwallu’r anghenion hynny wrth wraidd Polisi Cymdeithasol. Mae ein graddau a gydnabyddir yn genedlaethol yn archwilio sut mae cymdeithas yn hyrwyddo lles ei holl aelodau.

EIN GRADDAU POLISI CYMDEITHASOL

L400 L401 L403 L408

Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen Byddwch chi’n archwilio sut mae cymdeithas yn hyrwyddo ac yn sicrhau lles ei haelodau a’r berthynas rhwng unigolion, cymunedau a’r wladwriaeth. Byddwch yn ymchwilio i themâu a gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth, ochr yn ochr â meysydd polisi penodol sy’n effeithio ar ein bywydau beunyddiol, megis iechyd, addysg, tai, cyfiawnder troseddol, nawdd cymdeithasol a thlodi. Caiff anghenion a phrofiadau grwpiau cymdeithasol amrywiol eu hystyried, gan gynnwys dehongliadau o ddosbarth, rhywedd, anabledd, hil ac ethnigrwydd, heneiddio a phobl hwn, plant a theuluoedd.

LL42 LL44 LL45

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh)

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Mae’r radd hon yn cyfuno damcaniaeth wleidyddol ag ymarfer Polisi Cymdeithasol, er mwyn cymhwyso hyn i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Byddwch chi’n archwilio’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth a pholisi cymdeithasol ac yn ystyried sut mae syniadau gwleidyddol yn dylanwadu ar les cyfoes ac yn ymchwilio i sut gall amodau cymdeithasol hybu uchelgeisiau gwleidyddol neu eu tanseilio. Gallwch archwilio amrywiaeth o bosibiliadau o ran gyrfa ar yr un pryd â meithrin sgiliau trosglwyddadwy dymunol. Cewch ddewis modiwl sy’n cynnwys interniaeth gyda Senedd Cymru, gan weithio’n agos gyda Gweinidogion y Llywodraeth. Mae mynediad i’r modiwl hwn ar sail gystadleuol.

CYMDEITHASEG: Ymysg y 5 Uchaf yn y DU am Boddhad Myfyrwyr (Complete University Guide 2024)

CYMDEITHASEG Drwy astudio am radd mewn Cymdeithaseg, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynhwysfawr o’r grymoedd cymdeithasol a diwylliannol sy’n llywio ymddygiad dynol. Bydd y sylfaen ddamcaniaethol hon yn eich galluogi i ddadansoddi’n feirniadol a dehongli cymhlethdodau cymdeithas, gan roi i chi wybodaeth werthfawr am sut mae pobl yn meddwl, yn gweithredu ac yn rhyngweithio â’i gilydd. EIN GRADDAU CYMDEITHASEG

L300 L310 L311 L30F

Cymdeithaseg, BSc (Anrh)

Cymdeithaseg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cymdeithaseg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cymdeithaseg, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Bydd y radd hon yn rhoi i chi’r sgiliau hanfodol sy’n angenrheidiol i nodi a dansoddi’n ddamcaniaethol y ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy’n dylanwadu ar ein cymdeithas sy’n newid yn gyson.

L302

Cymdeithaseg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Drwy astudio am y radd hon, byddwch yn cael hyfforddiant gwyddonol arbenigol yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, ynghyd â’r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol i ddeall ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol.

L304 L305 L307 L303

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae’r radd integredig hon mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn cynnig ymagwedd ryngddisgyblaethol at ddeall materion cymdeithasol a llunio polisi. Drwy archwilio’r rhyngweithiad rhwng strwythurau a pholisi cymdeithasol, byddwch yn meithrin dealltwriaeth gynnil o sut mae cymdeithas yn gweithredu a sut mae polisi yn effeithio ar fywydau pobl, gan roi i chi’r sgiliau i greu newid cadarnhaol.

CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol:

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/troseddeg-cymdeithaseg-polisi- cymdeithasol

SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL

BAGLORIAETH RYNGWLADOL

CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC

TGAU NEU GYFWERTH

TEITL Y CWRS

TROSEDDEG A CHYFIAWNDER TROSEDDOL, BSc (Anrh)* TROSEDDEG A SEICOLEG, BSc (Anrh) TROSEDDEG A PHOLISI CYMDEITHASOL, BSc (Anrh)* TROSEDDEG A CHYMDEITHASEG, BSc (Anrh)* CYMDEITHASEG A SEICOLEG, BSc (Anrh) GWLEIDYDDIAETH A PHOLISI CYMDEITHASOL, BSc (ANRH)* POLISI CYMDEITHASOL, BSc (Anrh)* CYMDEITHASEG A PHOLISI CYMDEITHASOL, BSc (Anrh)* CYMDEITHASEG, BSc (Anrh)*

ABB- BBB

DDM

N/A

32-33

BBB

AAB-BBB

*with or without Year Abroad and Year in Industry variants

Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau disgwyliedig a’ch dewis o gyrsiau, efallai y byddwn yn cynnig lle ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall, anfonwch e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar ar studyFHSS@swansea.ac.uk . Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein studyFHSS@swansea.ac.uk .

MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi ar yr hyn y gallech ei astudio ar ein gradd BSc 3 blynedd safonol mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Mae pob gradd yn cynnig amrywiaeth o fodiwlau. Ewch i’n gwefan i weld yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi ar eich cwrs.

Mae’r rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol ar gael yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/troseddeg-cymdeithaseg-polisi-cymdeithasol

Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd wedi’u cronni o 8 modiwl gorfodol 20 neu 10 credyd TROSEDDEG A CHYFIAWNDER TROSEDDOL, BSc (Anrh):

Troseddeg, Troseddu a Chymdeithas MODIWLAU GORFODOL

Cyflwyniad i’r System Cyfiawnder Troseddol

Dioddefwyr a Dioddefoleg

Cyflogadwyedd a Datblygiad Personol

Sgiliau Astudio yn y Gwyddorau Cymdeithasol

Y Gyfraith, Cyfiawnder Troseddol a Hawliau Dynol

Sylfeini Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol

Y Dychymyg Troseddegol a Chymdeithasegol

MODIWLAU DEWISOL

Cymdeithaseg, BSc (Anrh) Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol BSc (Anrh) MODIWLAU DEWISOL (DANGOSOL) - EWCH I DUDALEN EICH CWRS AM RESTR GYFLAWN O FODIWLAU Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Polisi Anabledd

Troseddu, Cyffuriau ac Alcohol

Tlodi a Chyfiawnder Cymdeithasol

Troseddeg Feirniadol Chwaraeon a Hamdden Y Cyfryngau, Troseddu a Chyfiawnder Troseddol

Hil a Chenedl

Addysg, Polisi a Chymdeithas

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus Prydain

Archwilio Rhywedd

Athroniaeth, Iechyd Meddwl a Salwch

Niwed Cymdeithasol ac Amgylcheddol

Heriau Allweddol mewn Cyfiawnder i Blant

Cyflwyniad i Blismona yng Nghymru a Lloegr Seiberdroseddu ac Ymchwilio Digidol

Cyfalafiaeth a Chyfiawnder

Y Tu Hwnt i Ddynion Gwyn Meirw: Dad-drefedigaethu Ymagweddau Troseddol

Mudiad Cymdeithasol, Polisi Cymdeithasol a Newid Cymdeithasol

Cymdeithaseg Fyd-eang

* Sylwch y bydd y rhestr o fodiwlau dewisol yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs a ddewisir. Bydd y dudalen cwrs gysylltiedig yn cynnwys y rhestr lawn o opsiynau, gan gynnwys unrhyw ragofynion. Gall dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudiaeth ragofyniad ar lefel is.

Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea. ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen .

Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/gwyddorau-cymdeithasol/troseddeg-cymdeithaseg-polisi- cymdeithasol ACHREDU PROFFESIYNOL

Mae’r BSc mewn Troseddeg a Seicoleg a’r BSc mewn Cymdeithaseg a Seicoleg wedi’u dilysu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) ac, ar yr amod y byddwch yn ennill o leiaf 2:2 yn eich gradd, byddwch yn gymwys am Aelodaeth i Raddedigion y BPS ac Aelodaeth Siartredig i Raddedigion (GBC), sef y cam cyntaf tuag at ddod yn Seicolegydd Siartredig.

Gradd wedi’i hachredu gan y BPS yw’r cam cyntaf tuag at yrfa broffesiynol mewn Seicoleg.

N

BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.

Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,

byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith

Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb

Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol

Cwblheais gyfnod yn astudio dramor, ym Mhrifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada. Y rhan orau oedd cael teithio a chyfarfod â llawer o bobl newydd. Galluogodd hynny i mi ehangu fy ngorwelion a thyfu fy rhwydwaith proffesiynol.

Byddwn y sicr oargymell y profiad; dyma oedd fy hoff ran o’m gradd.

HELENA BAILEY Blwyddyn Dramor: Prifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada

N

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT

Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio.

Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd.

Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.

LLEOLIADAU AC INTERNIAETHAU

ˆ

Peidiwch a thanbrisio pwer gwneud interniaeth a’r drysau y gall eu hagor i chi. Ydy, mae’n golygu gwaith ychwanegol, ond mae’r rhagolygon ar ôl y profiad hwn wedi bod yn wych. Yn ail, ewch amdani ac achubwch ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.

AMY WELLINGTON Interniaeth gyda Crimestoppers

PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:

Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!

Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS

CYMDEITHASEG

TROSEDDEG

Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies

CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:

Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau

Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio

Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:

• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.

GYRFAOEDD DYFODOL Cyfiawnder troseddol Addysg Llywodraeth Leol neu Lywodraeth y DU Datblygu Polisi Gwaith cymdeithasol

Heddlu Gwasanaeth Carchar Gwasanaeth Prawf Gwaith Ieuenctid

Gyda gradd Polisi Cymdeithasol, mae cyfleoedd diddiwedd ar gael i raddedigion yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Cyn i mi ddechrau astudio, roeddwn i’n ymwybodol iawn o’r cyfyngiadau ar fy ngyrfa heb radd - mae’r radd yn gallu agor cynifer o ddrysau. I mi, mae’n borth i radd meistr mewn Dulliau Ymchwil. Gobeithio y bydd gen i yrfa hir lle bydda i’n gallu cyfuno’r ddau (Polisi Cymdeithasol a Dulliau Ymchwil).

CHELSEA REILLY Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh.), Rôl: Cynorthwy-ydd Treth (Hyfforddai ACA)

CYMORTH I FYFYRWYR

Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:

Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol

Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni

Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol

Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd

Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

ARIAN A CHYNGOR

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu

SYLWADAU GAN FYFYRWYR

Mae fy nghwrs yn ddiddorol iawn gan gynnig amrywiaeth o fodiwlau sydd o ddiddordeb i mi. Mae pawb yn Abertawe wedi bod mor garedig; mae’r darlithwyr mor gymwynasgar, gallwch chi bob amser cael gair gyda nhw ar ddiwedd darlith neu eu gweld yn yr oriau galw heibio. Bob amser dwi wedi anfon e-bost, dwi wedi cael ymateb cyflym iawn.

GRACE PHILPOTTS Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

Oherwydd y sgiliau a gafodd eu pwysleisio’n benodol yn fy ngradd BSc, fel arddull ac atalnodi, defnyddio ffynonellau empirig, amlinellu pwnc yn glir a nodi a dadansoddi dadleuon o safbwynt beirniadol, roedd gen i fantais dros fyfyrwyr eraill gan fy ngalluogi i raddio â rhagoriaeth ac ennill y wobr am y myfyriwr gorau. Ar ben hyn, ac yn bwysicaf oll, chwaraeodd y sgiliau ymchwil, y cyfleoedd a’r profiad ymarferol ges i yn ystod fy mlynyddoedd fel myfyriwr israddedig rôl bwysig wrth fy mharatoi am fy rôl bresennol fel Swyddog Ymchwil.

DANA DEKEL Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Mwynheais i bob agwedd ar fy ngradd yn fawr. Doedd dim un pwnc na modiwl nad oedd yn ddiddorol. Rhoddodd hwb go iawn i mi gael fy swydd gyntaf â thâl. Byddwn i’n cynghori pobl i wirfoddoli i elusen ochr yn ochr â’u gradd. Mae angen meithrin gwybodaeth academaidd wrth gwrs, ond mae angen profiad ymarferol hefyd i gyd-fynd â hi.

GEORGINA EADON Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Bod yn fyfyrwraig yn Abertawe oedd cyfnod gorau fy mywyd. Cwrddais i â chynifer o bobl a datblygais i gymaint fel unigolyn. Des i o hyd i’m llais a datblygais i, i fod y fenyw gref rydw i heddiw. Dwi’n dwlu ar fy ngwaith. Rwy’n gweithio ar draws pum carchardy ledled Cymru ac yn gweld y mathau gwahanol o garchardai, o’r ddalfa i garchardai preifat ac agored.

REBEKAH SUTTON Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)

Rwy’n mwynhau’r rhaniad rhwng fy nau bwnc. Drwy gymryd cymdeithaseg a seicoleg, dwi’n cael astudio cymdeithas ac unigolion o ddau safbwynt gwahanol, sydd wir wedi estyn fy nealltwriaeth a chynnal fy niddordeb. Mae’r ddau bwnc hefyd yn defnyddio dwy dechneg addysgu wahanol: mae seicoleg yn fwy ffeithiol ac yn seiliedig ar ddamcaniaeth, tra mae mwy o elfen o drafodaeth gan gymdeithaseg. Mae’r rhaniad hwn yn fy ysgogi’n feddyliol ac yn rhoi cyfle i mi ystyried sefyllfaoedd a chysyniadau o ddau safbwynt gwahanol.

MAYA BLACKMORE Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)

CYFLEUSTERAU

HYB CYFLOGADWYEDD Mae myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd dynodedig. Mae gan y tîm hanes o gael swyddi i fyfyrwyr ac yn gallu eich cynorthwyo trwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal â chynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. GOFODAU CYMDEITHASOL A GOFODAU ASTUDIO AR GYFER MYFYRWYR Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol amrywiaeth o ofodau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael ychydig o amser tawel i astudio. Mae nifer o socedi trydanol a phyrth, ynghyd â Wi-Fi ar draws yr adeiladau, yn cynorthwyo mynediad at adnoddau digidol. DARLITHFEYDD AC YSTAFELLOEDD SEMINAR Mae’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf wedi’i gosod yn ein hystafelloedd addysgu, gan gynnwys technoleg cofnodi darlithoedd, i’ch galluogi i ailedrych ar unrhyw un o’ch darlithoedd ar-lein ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael profiad o addysgu mewn darlithfeydd, sy’n gallu dal dros 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai, sy’n gallu dal hyd at 30, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personoledig gyda darlithwyr a thiwtoriaid.

YMCHWIL

Gweledigaeth ymchwil Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yw ysgogi a chyfrannu at dwf economaidd, cynhyrchedd, addysg a ffyniant yn y rhanbarth, yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol yn gymuned ymchwil ddynamig a chefnogol sy’n cwmpasu meysydd polisi amrywiol megis iechyd, addysg, tai, tlodi a’r teulu. Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflawni.

MAE EIN HYMCHWIL YN SEILIEDIG AR DAIR PRIF THEMA: Polisi ac Ymarfer Addysgol Heneiddio Arloesol Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd

FFRAMWAITH RHAGORIAETH YMCHWIL (REF 2021) Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn gwerthuso effaith ymchwil sefydliadau addysg uwch ym Mhrydain. Wrth siarad am ein perfformiad, meddai’r Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Jonathan Bradbury, a’r Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, yr Athro Gareth Jenkins: “Perfformiodd ein Huned Asesu yn eithriadol o dda yn asesiad effaith REF 2021, gan ennill lle ymysg y 10 sefydliad gorau am ei hamgylchedd ymchwil ryngddisgyblaethol; ar ben hynny, barnwyd bod 81% o ansawdd ymchwil cyffredinol yn ‘arwain y ffordd yn fyd-eang’ neu’n ‘rhagorol yn rhyngwladol’. Mae’n bleser mawr gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd weld bod y cyd-gyflwyniad hwn sy’n cwmpasu addysg, cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gan y panel o arbenigwyr.”

PROSIECTAU YMCHWIL

Gwella Gwybodaeth, Cyngor a Gwasanaethau Tai i Bobl Hyn

Datblygu Ymarfer wedi’i Gyfoethogi gan Dystiolaeth (DEEP) Caiff ymarfer ar sail ymchwil ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd ei hyrwyddo’n eang. Fodd bynnag, mae ei droi’n realiti yn dal i fod yn her, yn rhannol oherwydd bod ymarferwyr yn gyffredinol yn ystyried bod gwybodaeth sy’n deillio o ymarfer yn fwy perthnasol nag ymchwil academaidd ac yn aml maent yn ystyried nad yw ymchwil yn hygyrch, a’i bod yn guddiedig gan iaith a therminoleg gymhleth. Amcan DEEP oedd mynd i’r afael â hyn. O ganlyniad i’r astudiaeth datblygwyd ymagwedd at ddefnyddio tystiolaeth ymchwil sy’n gyfranogol, yn ystyrlon ac yn effeithiol.

Mynd i’r Afael â Thwyllo drwy Gontract, Rhith-awduron a Melinau Traethodau mewn Addysg Uwch Bu’r Athro Phil Newton a’r Athro Michael Draper a’u tîm yn cynnal arolygon ac ymchwil ar raddfa fawr ac yn dadansoddi barn myfyrwyr a staff academaidd am dwyllo drwy gontract a chyfreithlondeb melinau traethodau. Dangosodd yr ymchwil fod melinau traethodau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon ar hyn o bryd ac na fyddai cyfraith bresennol y Deyrnas Unedig yn effeithiol. Bu’r tîm yn ymchwilio i sylfaen cyfraith newydd a fyddai’n mynd i’r afael â holl gyfyngiadau’r ddeddfwriaeth bresennol ac yn cynnig cyfraith o’r fath.

Mae Ffrainc a’r Deyrnas Unedig yn wynebu her poblogaeth sy’n heneiddio. Gan fod pobl yn byw bywydau hwy, mae angen i ni nodi atebion i’r pwysau mae’r newid demograffig hwn yn eu rhoi ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig o ran darpariaeth tai addas. Ar y cyd â sefydliadau ymchwil a sefydliadau’r llywodraeth yn Ffrainc, arweiniodd Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby astudiaeth am sut mae’r Deyrnas Unedig a Ffrainc yn ceisio rheoli’r heriau hyn, a pha wersi y gellir eu dysgu.

SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL

STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.

EICH CAMAU NESAF

MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.

HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.

TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.

EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £

CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!

ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.

MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.

AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.

MAI LLETY

Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau

CHWARAEON

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:

•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian

DARPARIAETH GYMRAEG

DIWYLLIANT

Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personol sy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.

DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR

I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!

Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored

CYSYLLTWCH Â NI

Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU

E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk

www.swansea.ac.uk/cy/gwyddorau- cymdeithasol

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Chwiliwch am Prifysgol Abertawe

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5