Mwynheais i bob agwedd ar fy ngradd yn fawr. Doedd dim un pwnc na modiwl nad oedd yn ddiddorol. Rhoddodd hwb go iawn i mi gael fy swydd gyntaf â thâl. Byddwn i’n cynghori pobl i wirfoddoli i elusen ochr yn ochr â’u gradd. Mae angen meithrin gwybodaeth academaidd wrth gwrs, ond mae angen profiad ymarferol hefyd i gyd-fynd â hi.
GEORGINA EADON Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)
Bod yn fyfyrwraig yn Abertawe oedd cyfnod gorau fy mywyd. Cwrddais i â chynifer o bobl a datblygais i gymaint fel unigolyn. Des i o hyd i’m llais a datblygais i, i fod y fenyw gref rydw i heddiw. Dwi’n dwlu ar fy ngwaith. Rwy’n gweithio ar draws pum carchardy ledled Cymru ac yn gweld y mathau gwahanol o garchardai, o’r ddalfa i garchardai preifat ac agored.
REBEKAH SUTTON Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, BSc (Anrh)
Rwy’n mwynhau’r rhaniad rhwng fy nau bwnc. Drwy gymryd cymdeithaseg a seicoleg, dwi’n cael astudio cymdeithas ac unigolion o ddau safbwynt gwahanol, sydd wir wedi estyn fy nealltwriaeth a chynnal fy niddordeb. Mae’r ddau bwnc hefyd yn defnyddio dwy dechneg addysgu wahanol: mae seicoleg yn fwy ffeithiol ac yn seiliedig ar ddamcaniaeth, tra mae mwy o elfen o drafodaeth gan gymdeithaseg. Mae’r rhaniad hwn yn fy ysgogi’n feddyliol ac yn rhoi cyfle i mi ystyried sefyllfaoedd a chysyniadau o ddau safbwynt gwahanol.
MAYA BLACKMORE Troseddeg a Seicoleg, BSc (Anrh)
Made with FlippingBook HTML5