Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

CYFLEUSTERAU

HYB CYFLOGADWYEDD Mae myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd dynodedig. Mae gan y tîm hanes o gael swyddi i fyfyrwyr ac yn gallu eich cynorthwyo trwy gydol eich astudiaethau, yn ogystal â chynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. GOFODAU CYMDEITHASOL A GOFODAU ASTUDIO AR GYFER MYFYRWYR Mae gan Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol amrywiaeth o ofodau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael ychydig o amser tawel i astudio. Mae nifer o socedi trydanol a phyrth, ynghyd â Wi-Fi ar draws yr adeiladau, yn cynorthwyo mynediad at adnoddau digidol. DARLITHFEYDD AC YSTAFELLOEDD SEMINAR Mae’r dechnoleg addysgu ddiweddaraf wedi’i gosod yn ein hystafelloedd addysgu, gan gynnwys technoleg cofnodi darlithoedd, i’ch galluogi i ailedrych ar unrhyw un o’ch darlithoedd ar-lein ar unrhyw adeg. Byddwch yn cael profiad o addysgu mewn darlithfeydd, sy’n gallu dal dros 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai, sy’n gallu dal hyd at 30, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personoledig gyda darlithwyr a thiwtoriaid.

Made with FlippingBook HTML5