YMCHWIL
Gweledigaeth ymchwil Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yw ysgogi a chyfrannu at dwf economaidd, cynhyrchedd, addysg a ffyniant yn y rhanbarth, yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae gwaith cymdeithasol a pholisi cymdeithasol yn gymuned ymchwil ddynamig a chefnogol sy’n cwmpasu meysydd polisi amrywiol megis iechyd, addysg, tai, tlodi a’r teulu. Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflawni.
MAE EIN HYMCHWIL YN SEILIEDIG AR DAIR PRIF THEMA: Polisi ac Ymarfer Addysgol Heneiddio Arloesol Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd
FFRAMWAITH RHAGORIAETH YMCHWIL (REF 2021) Mae’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn gwerthuso effaith ymchwil sefydliadau addysg uwch ym Mhrydain. Wrth siarad am ein perfformiad, meddai’r Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yng Nghyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yr Athro Jonathan Bradbury, a’r Deon Cysylltiol Ymchwil, Arloesi ac Effaith yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd, yr Athro Gareth Jenkins: “Perfformiodd ein Huned Asesu yn eithriadol o dda yn asesiad effaith REF 2021, gan ennill lle ymysg y 10 sefydliad gorau am ei hamgylchedd ymchwil ryngddisgyblaethol; ar ben hynny, barnwyd bod 81% o ansawdd ymchwil cyffredinol yn ‘arwain y ffordd yn fyd-eang’ neu’n ‘rhagorol yn rhyngwladol’. Mae’n bleser mawr gan Gyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol a’r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd weld bod y cyd-gyflwyniad hwn sy’n cwmpasu addysg, cymdeithaseg a pholisi cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gan y panel o arbenigwyr.”
Made with FlippingBook HTML5