Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

PROSIECTAU YMCHWIL

Gwella Gwybodaeth, Cyngor a Gwasanaethau Tai i Bobl Hyn

Datblygu Ymarfer wedi’i Gyfoethogi gan Dystiolaeth (DEEP) Caiff ymarfer ar sail ymchwil ym maes gofal cymdeithasol ac iechyd ei hyrwyddo’n eang. Fodd bynnag, mae ei droi’n realiti yn dal i fod yn her, yn rhannol oherwydd bod ymarferwyr yn gyffredinol yn ystyried bod gwybodaeth sy’n deillio o ymarfer yn fwy perthnasol nag ymchwil academaidd ac yn aml maent yn ystyried nad yw ymchwil yn hygyrch, a’i bod yn guddiedig gan iaith a therminoleg gymhleth. Amcan DEEP oedd mynd i’r afael â hyn. O ganlyniad i’r astudiaeth datblygwyd ymagwedd at ddefnyddio tystiolaeth ymchwil sy’n gyfranogol, yn ystyrlon ac yn effeithiol.

Mynd i’r Afael â Thwyllo drwy Gontract, Rhith-awduron a Melinau Traethodau mewn Addysg Uwch Bu’r Athro Phil Newton a’r Athro Michael Draper a’u tîm yn cynnal arolygon ac ymchwil ar raddfa fawr ac yn dadansoddi barn myfyrwyr a staff academaidd am dwyllo drwy gontract a chyfreithlondeb melinau traethodau. Dangosodd yr ymchwil fod melinau traethodau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig yn gyfreithlon ar hyn o bryd ac na fyddai cyfraith bresennol y Deyrnas Unedig yn effeithiol. Bu’r tîm yn ymchwilio i sylfaen cyfraith newydd a fyddai’n mynd i’r afael â holl gyfyngiadau’r ddeddfwriaeth bresennol ac yn cynnig cyfraith o’r fath.

Mae Ffrainc a’r Deyrnas Unedig yn wynebu her poblogaeth sy’n heneiddio. Gan fod pobl yn byw bywydau hwy, mae angen i ni nodi atebion i’r pwysau mae’r newid demograffig hwn yn eu rhoi ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn enwedig o ran darpariaeth tai addas. Ar y cyd â sefydliadau ymchwil a sefydliadau’r llywodraeth yn Ffrainc, arweiniodd Dr Sarah Hillcoat-Nallétamby astudiaeth am sut mae’r Deyrnas Unedig a Ffrainc yn ceisio rheoli’r heriau hyn, a pha wersi y gellir eu dysgu.

Made with FlippingBook HTML5