Troseddeg, Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol

POLISI CYMDEITHASOL Mae Polisi Cymdeithasol yn ddisgyblaeth uchel ei pharch ond dynamig sydd wedi bod yn rhan o’r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe ers amser hir, gan gynnig trylwyredd academaidd a pherthnasedd i’r byd go iawn. Mae’r cwestiynau sylfaenol o beth mae ei angen ar fodau dynol a sut mae cymdeithasau’n diwallu’r anghenion hynny wrth wraidd Polisi Cymdeithasol. Mae ein graddau a gydnabyddir yn genedlaethol yn archwilio sut mae cymdeithas yn hyrwyddo lles ei holl aelodau.

EIN GRADDAU POLISI CYMDEITHASOL

L400 L401 L403 L408

Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh)

Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Polisi Cymdeithasol, BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen Byddwch chi’n archwilio sut mae cymdeithas yn hyrwyddo ac yn sicrhau lles ei haelodau a’r berthynas rhwng unigolion, cymunedau a’r wladwriaeth. Byddwch yn ymchwilio i themâu a gwerthoedd megis cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb, tegwch a dinasyddiaeth, ochr yn ochr â meysydd polisi penodol sy’n effeithio ar ein bywydau beunyddiol, megis iechyd, addysg, tai, cyfiawnder troseddol, nawdd cymdeithasol a thlodi. Caiff anghenion a phrofiadau grwpiau cymdeithasol amrywiol eu hystyried, gan gynnwys dehongliadau o ddosbarth, rhywedd, anabledd, hil ac ethnigrwydd, heneiddio a phobl hwn, plant a theuluoedd.

LL42 LL44 LL45

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh)

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor

Gwleidyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Mae’r radd hon yn cyfuno damcaniaeth wleidyddol ag ymarfer Polisi Cymdeithasol, er mwyn cymhwyso hyn i sefyllfaoedd yn y byd go iawn. Byddwch chi’n archwilio’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth a pholisi cymdeithasol ac yn ystyried sut mae syniadau gwleidyddol yn dylanwadu ar les cyfoes ac yn ymchwilio i sut gall amodau cymdeithasol hybu uchelgeisiau gwleidyddol neu eu tanseilio. Gallwch archwilio amrywiaeth o bosibiliadau o ran gyrfa ar yr un pryd â meithrin sgiliau trosglwyddadwy dymunol. Cewch ddewis modiwl sy’n cynnwys interniaeth gyda Senedd Cymru, gan weithio’n agos gyda Gweinidogion y Llywodraeth. Mae mynediad i’r modiwl hwn ar sail gystadleuol.

Made with FlippingBook HTML5