Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Y GYFRAITH – CYRSIAU PROFFESIYNOL CAMPWS SINGLETON

150

Y GYFRAITH YN Y BYD (QS World University Rankings 2023)

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) PGDip ALl RhA • Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol LLM ALl

• Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch LLM ALl RhA • Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol LLM ALl

PAM ABERTAWE? • Byddi di'n elwa o'n cysylltiadau ardderchog â chwmnïau cyfreithiol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. • Mae gennym ni dîm Cyflogadwyedd a Lleoliadau Gwaith dynodedig, sy'n trefnu digwyddiadau gyda'n hacademyddion er mwyn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau allweddol i ti. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn deall pwysigrwydd o dy baratoi ar gyfer dy yrfa gyfreithiol. Dyna pam mae ein rhaglenni proffesiynol wedi'u cynllunio i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnat i lwyddo. Gyda’n cymorth, gelli di fagu’r hyder i gymryd y cam nesaf yn dy yrfa, boed mynd i'r byd gwaith, dilyn hyfforddiant pellach, cychwyn ar gontract hyfforddi neu sefyll Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Rhaglenni Ôl-raddedig proffesiynol wedi'u haddysgu gan arbenigwyr gyda llu o brofiad a gwybodaeth ymarferol. • Addysgu mewn cyfleusterau sy'n arwain y sector. • Cymorth bugeiliol a chyflogadwyedd ardderchog, gan dy baratoi di ar gyfer dy yrfa. • Dwy radd LLM wedi’u cynllunio i dy helpu i ddatblygu dy sgiliau ac i baratoi ar gyfer yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithiwr (SQE): – LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol – Cynlluniwyd ar gyfer graddedigion y gyfraith a luniwyd yn unol â gofynion SQE 1 a 2 – LLM yn Y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol – Cwrs trosi ar gyfer graddedigion nad ydynt yn gweithio yn y gyfraith a luniwyd yn unol â gofynion SQE 1

• Ceir amrywiaeth o gymorth ariannol i dy helpu i ymgymryd â rhaglen broffesiynol: – Bwrsariaethau i raddedigion Abertawe, yn ogystal â chyn-fyfyrwyr prifysgolion Cymru – Ysgoloriaethau sy'n agored i ddeiliaid cynigion LLM – Cyllid drwy Gyllid Myfyrwyr ar gyfer unrhyw un o’n rhaglenni LLM Darganfydda fwy: abertawe.ac.uk/y-gyfraith/cycp/ cymorth-proffesiynol

Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50

98

Made with FlippingBook - Online magazine maker