Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Y GYFRAITH – LLONGAU A MASNACH CAMPWS SINGLETON

Y GYFRAITH YN Y BYD (QS World University Rankings 2023) 150

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cyfraith Fasnach Ryngwladol LLM ALl RhA • Cyfraith Fasnachol Ryngwladol LLM ALl RhA • Cyfraith Fasnachol a Morwrol Ryngwladol LLM ALl RhA

• Cyfraith Forwrol Ryngwladol LLM ALl RhA • Cyfraith Olew, Nwy ac Ynni Adnewyddadwy LLM ALl RhA • Eiddo Deallusol ac Arloesi LLM ALl RhA • TechGyfreithiol a Chyfraith Fasnachol LLM ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Rydym yn elwa o gysylltiadau rhagorol â chyflogwyr ac yn cynnig ystod o fentrau, megis darlithoedd gwadd, sgyrsiau i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, digwyddiadau rhwydweithio, ffair gyrfaoedd LLM flynyddol ac ymweliadau â chwmnïau cyfreithiol blaenllaw yn Llundain. • Bydd gen ti fynediad at gystadlaethau dadlau mewn ffug lys barn ac ysgolion haf dramor i fireinio dy sgiliau. • Mae ein modiwl Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol (LACM17) wedi cael ei gydnabod gan Sefydliad Siartredig y Cyflafareddwyr (ClArb). Mae hyn yn golygu bydd myfyrwyr LLM sy'n cwblhau'r modiwl Cyflafareddu Masnachol Rhyngwladol yn llwyddiannus yn Abertawe'n gymwys i gyflwyno cais i dderbyn lefel Aelod Cysylltiol CIArb. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Hawliau Dynol, LLM • Seiberdroseddu a Therfysgaeth, MA CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae Ysgol y Gyfraith yn gartref i amgylchedd academaidd ffyniannus ac mae’n ymroddedig i ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil, sy'n darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr. Mae ein hystod o raddau LLM mewn cyfraith llongau a masnach yn cynnig arbenigedd arbenigol sy'n dy baratoi ar gyfer llwyddiant mewn marchnad fyd-eang. Ymdrocha mewn amgylchedd cyfeillgar, croesawgar a phroffesiynol gyda chymuned amrywiol o fyfyrwyr rhyngwladol o bob rhan o'r byd.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Addysgu gan academyddion sydd ar flaen y gad o ran ysgolheictod eu meysydd, y mae eu haddysgu medrus ac arloesol yn pontio'r bwlch rhwng y byd academaidd ac ymarfer.

• Cymorth bugeiliol a chyflogadwyedd rhagorol a chymuned ryngwladol fywiog. • Ystod o weithgareddau a

mentrau allgyrsiol a fydd yn rhoi'r sgiliau a'r profiad y mae eu hangen arnat i lwyddo.

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

100

Made with FlippingBook - Online magazine maker