Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

IEITHOEDD MODERN, CYFIEITHU A CHYFIEITHU AR Y PRYD CAMPWS SINGLETON

IEITHOEDD MODERN YN Y BYD (QS World University Rankings 2023) 350

RHAGLENNI YMCHWIL

• Astudiaethau America Ladin MA drwy Ymchwil ALl RhA • Cyfieithu PhD/MPhil ALl RhA • Cyfieithu Llenyddol MA drwy Ymchwil ALl RhA • Ieithoedd Modern MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

• Ieithoedd Modern Prifysgol Abertawe ac Université Grenoble Alpes PhD ar y Cyd ALl RhA • Sgrinio/Llwyfannu Ewrop MA drwy Ymchwil ALl RhA

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, MA/PGDip • Cyfieithu ac Addysgu Iaith Tsieinëeg-Saesneg, MA • TAR Uwchradd gyda SAC: Ieithoedd Tramor Modern (Ffrangeg, Sbaeneg), PGCert CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau • Rydym yn cynnig hyfforddiant ôl-raddedig er mwyn ehangu datblygiad academaidd a phroffesiynol ac yn hwyluso rhaglenni seminar, gweithdai a chynadleddau rhyngwladol. PAM ABERTAWE? • Mae gennym gyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n bodloni safonau'r diwydiant, ynghyd â rhwydwaith byd-eang cadarn o sefydliadau allanol i helpu i lywio dy astudiaethau. • Rydym yn dod â sefydliadau a mudiadau o bedwar ban byd ynghyd i greu a datblygu rhaglenni rhyngwladol arloesol, cydweithrediadau a phartneriaethau strategol â phrifysgolion o safon fyd-eang. • Mae gan ein rhaglenni MA a addysgir hanes hir o ysbrydoli ieithyddion cyffredinol ardderchog i ddod yn gyfieithwyr a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol.

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd MA ALl RhA • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig) MA ALl RhA • Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes) MA ALl

• Cyfieithu Proffesiynol MA ALl RhA • Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig) MA ALl RhA • Cyfieithu Proffesiynol (Estynedig gydag Université Grenoble Alpes) MA ALl • Technoleg Cyfieithu PGCert ALl

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae ein rhaglenni cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ôl-raddedig yn gyfle ardderchog i ddatblygu sgiliau iaith. Mae ein staff arbenigol, sydd â phrofiad helaeth o'r diwydiant gwasanaethau ieithoedd, wedi cynllunio ein rhaglenni a addysgir i fod yn ymarferol ac yn berthnasol i dy yrfa. Rydym ni'n ymfalchïo yn ein gallu i gynnig cyfran uchel o asesiadau sy'n seiliedig ar brosiectau i sicrhau dy fod yn barod i gamu i’r diwydiant yn hyderus. Mae gan ein staff, sy'n gwneud ymchwil hefyd, ddiddordebau amrywiol, o ieithyddiaeth i dechnolegau cyfieithu, gan ddarparu amgylchedd dysgu deinamig a diddorol. Fel myfyriwr ymchwil, byddi di'n rhan o'n cymuned gefnogol a deallusol ysgogol, a bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau a chymorth ar gael i ti.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae gennym gyfleusterau rhagorol, gan gynnwys Ystafell Cyfieithu ar y Pryd gyda'r feddalwedd ddiweddaraf, labordai iaith gydag offer sain a gweledol, a'r meddalwedd dilyn symudiad y llygaid o'r radd flaenaf ar gyfer ymchwil i gaffael iaith. • Caiff pob myfyriwr fynediad at sianeli iaith ac archif helaeth o ffilmiau mewn ieithoedd tramor.

• Mae dysgu ac addysgu ar ein graddau'n cael eu hatgyfnerthu gan weithgareddau allgyrsiol a drefnir gan gymdeithasau iaith dan arweiniad myfyrwyr Prifysgol Abertawe, caffis

iaith wythnosol a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Mae aelodau staff yn yr Adran yn cefnogi'r holl ddigwyddiadau hyn.



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50 Proffil Myfyriwr

gweler y dudalen nesaf

105

Made with FlippingBook - Online magazine maker