LLENYDDIAETH SAESNEG AC YSGRIFENNU CREADIGOL CAMPWS SINGLETON
YN Y BYD 150
(QS World University Rankings 2023) IAITH A LLENYDDIAETH SAESNEG
RHAGLENNI YMCHWIL
• Llenyddiaeth Saesneg MA drwy Ymchwil ALl RhA • Llenyddiaeth Saesneg PhD/MPhil ALl RhA
• Ysgrifennu Creadigol PhD/MPhil ALl RhA
PAM ABERTAWE? • Mae galw mawr am lawer o'n staff i roi eu barn arbenigol ar raglenni radio a theledu, ac maent yn ysgrifennu'n rheolaidd ar gyfer y papurau newydd o safon ac adolygiadau o bwys. • Amrywiaeth eang o weithgareddau allgyrsiol, gan gynnwys sesiynau dan arweiniad ysgrifenwyr gwadd a gweithwyr proffesiynol o'r diwydiant. • Mae Campws Singleton yn gartref i Ganolfan Celfyddydau Taliesin a Chreu Taliesin, sef theatr ddeinamig, sinema a mannau creu cynhwysol ar y campws. • Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil yn rhan o'n Canolfan y Graddedigion, sy'n darparu cymorth bugeiliol a gweinyddol. Mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth sgiliau ymchwil, yn ogystal â hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i'r gymuned ymchwil ôl-raddedig. • Ganed un o feirdd gorau'r ugeinfed ganrif yn Abertawe, sef Dylan Thomas, ac mae'r brifysgol yn cynnal Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dylan Thomas bob blwyddyn – gwobr gyfoethocaf y byd i awduron o dan 40 oed. Mae'r cyswllt hwn â'r diwydiant llenyddol wrth wraidd rhaglen Ysgrifennu Creadigol Abertawe ac mae'n cysylltu myfyrwyr ag asiantiaid, chynhyrchwyr. Mae’r Sefydliad Diwylliannol, y mae ei aelodau’n rheoli Gwobr Dylan Thomas, yn cynnal sgyrsiau a gweithdai drwy gydol y flwyddyn. golygyddion, cyhoeddwyr, awduron, perfformwyr a
RHAGLENNI A ADDYSGIR
• Llenyddiaeth Saesneg MA ALl RhA • Llenyddiaeth Saesneg Cymru MA ALl RhA
• Ysgrifennu Creadigol MA ALl RhA • Ysgrifennu Creadigol (Estynedig) MA ALl RhA
Dechreua daith lenyddol drwy ddilyn ein rhaglenni Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ôl-raddedig, dan arweiniad tîm o awduron ac academyddion nodedig sydd ag arbenigedd mewn ystod hynod eang o genres a sgiliau ysgrifennu. Mae’r rhaglenni arloesol hyn yn meithrin amgylchedd cydweithredol a rhyngddisgyblaethol sy’n dy annog di i estyn ffiniau dy greadigrwydd. Byddi di’n ennill amrywiaeth o sgiliau, yn dod yn rhan o gymuned ymchwil ddeinamig, yn cymryd rhan mewn trafodaethau ymchwil bywiog sy’n cynnwys sawl genre amrywiol ac yn derbyn gwasanaeth mentora personol, a fydd yn dy baratoi di at yrfa wobrwyol yn y byd llenyddol.
YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Amrywiaeth eang o opsiynau a modiwlau sy'n elwa o arbenigedd ymchwil unigol aelodau staff. • Mae’r adran Llenyddiaeth Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol hefyd yn gartref i ganolfannau ymchwil cyffrous, megis Canolfan Ymchwil Llenyddiaeth ac Iaith Saesneg yng Nghymru (CREW). Fel yr arweinydd rhyngwladol cydnabyddedig yn y maes hwn o astudiaethau llenyddol a diwylliannol, mae CREW wedi datblygu rhaglen addysgu ac ymchwil helaeth. Caiff
sy'n gweithio ar bynciau hanesyddol, ieithyddol, a llenyddol o'r Cynfyd Diweddar i tua 1800. Mae ei haelodau wedi cael symiau sylweddol o gyllid gan AHRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, ac Ymddiriedolaeth Wellcome dros y blynyddoedd diwethaf. • Mae'r Ganolfan Ymchwil i'r Rhywiau
a Diwylliant mewn Cymdeithas (GENCAS) yn gorff ymchwil rhyngddisgyblaethol sy'n dwyn
ynghyd staff a myfyrwyr ôl-raddedig o bob rhan o'r Brifysgol sy'n ymchwilio i rywedd, gan alluogi aelodau i rannu eu harbenigedd a chydweithio.
fudd o adnoddau unigryw, gan gynnwys dyddiaduron Richard
Burton, papurau Raymond Williams, a llyfr nodiadau a ailddarganfuwyd yn ddiweddar yn perthyn i Dylan Thomas. • Mae'r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Canoloesol a Chyfnod Modern Cynnar (MEMO) yn cynorthwyo staff academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig
CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 50
Meddyliau Mawr gweler y dudalen nesaf
107
Made with FlippingBook - Online magazine maker