Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MARCHNATA CAMPWS Y BAE

ACHREDIAD Y SEFYDLIAD MARCHNATA SIARTREDIG

CIM

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Marchnata Strategol MSc ALl RhA

Mae'r MSc mewn Marchnata Strategol wedi'i ddatblygu i ddarparu dealltwriaeth gynhwysfawr o farchnata modern, lle byddi di'n ennill sgiliau ymarferol a damcaniaethol i'w defnyddio mewn unrhyw ddiwydiant. Mae ein rhaglen yn pwysleisio cyfrifoldeb cymdeithasol, cynaliadwyedd, a chyflogadwyedd, gan sicrhau y byddi di'n graddio gyda'r sgiliau i greu strategaethau marchnata arloesol a moesegol ar gyfer y dyfodol. Ar ôl cwblhau'r elfennau a addysgir o'r cwrs, cei di gyfle i ymgymryd â phrosiect marchnata sy'n seiliedig ar waith, gan roi dy sgiliau a dy wybodaeth newydd ar waith. Mae ein MSc hefyd yn rhan o Raglen Gradd Achrededig y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sy’n golygu y gallai ein myfyrwyr, ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, raddio gydag eithriadau o asesiadau CIM proffesiynol, gan leihau’r amser y byddai’n ei gymryd i ennill cymhwyster cydnabyddedig CIM.

PAM ABERTAWE? • Yn addas i raddedigion marchnata a busnes neu weithwyr proffesiynol gyda gradd israddedig berthnasol sy'n cwmpasu cysyniadau marchnata craidd. • Wedi'i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), corff proffesiynol byd-eang. • Mannau addysgu ac astudio yn adeilad yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddo ar Gampws y Bae. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Cyfryngau Digidol, MA • Cyfathrebu a Newyddiaduraeth Chwaraeon, MA • Cyfathrebu, Arferion y Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, MA • Newyddiaduraeth Ryngwladol, MA • Rheoli (Marchnata), MSc •Rheoli Twristiaeth Ryngwladol, MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cyfle i gwblhau lleoliad gwaith tri mis, neu gelli di ddewis y llwybr mwy traddodiadol a chwblhau traethawd estynedig mewn agwedd arbenigol ar farchnata. • Ar ôl cwblhau'r MSc bydd gan fyfyrwyr eithriadau ar gyfer Tystysgrif neu Ddiploma Marchnata'r CIM.

• Cymorth eithriadol i fyfyrwyr ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at y tîm gyrfaoedd. • Mae ein holl fyfyrwyr yn elwa o rannu'r safle arloesol ar Gampws y Bae â phartneriaid diwydiannol.

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

109

Made with FlippingBook - Online magazine maker