Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MATHEMATEG CAMPWS Y BAE

(QS World University rankings 2023) MATHEMATEG YN Y BYD 250

RHAGLENNI YMCHWIL

• Mathemateg MSc drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA

• Prosesau Stocastig: Damcaniaeth a Chymhwyso MRes ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Cyflawnodd Gwyddorau Mathemategol 100% ar gyfer effaith flaenllaw a byd-eang yn ei gyhoeddiadau ymchwil (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021). • Mae ein cwrs Gwyddor • Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd mathemategol, ac mae’r rhan fwyaf wedi’u cydnabod gan yr Academi Addysg Uwch gyda naill ai Cymrodoriaeth neu Uwch-gymrodoriaeth. • Mae gan ein hadran gyfleusterau chyfrifiadurol yn adeilad y Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5 miliwn, gan roi mynediad i fyfyrwyr i leoedd a ddyluniwyd i fathemategwyr. o’r radd flaenaf ar gyfer y gwyddorau mathemategol a Actiwaraidd wedi’i achredu gan Sefydliad a Chyfadran yr Actiwarïaid. • Rydym ni’n rhoi pwyslais cryf ar gynyddu cyflogadwyedd, ac mae llawer o’n graddedigion yn mynd ymlaen i gyflogaeth gydag amrywiaeth eang o sefydliadau, gan gynnwys: AXA, BA, Deutsche Bank, Shell Research, Zurich Financial Services, awdurdodau iechyd, a llywodraeth leol.

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Mathemateg a Chyfrifiadureg ar gyfer Cyllid MSc ALl RhA

• Gwyddor Actiwaraidd MSc ALl RhA • Gwyddor Data Gymhwysol MSc ALl • Mathemateg MSc ALl RhA

Dechreua ar dy astudiaethau ôl-raddedig mewn mathemateg yn Abertawe gyda'n hadeilad Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5 miliwn, sy'n cynnig cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gyfer addysgu ac ymchwil. Mae ein tîm o arbenigwyr yn arbenigo mewn meysydd amrywiol, gan gynnwys Algebra a Thopoleg, Dadansoddi Stocastig, Addysg Mathemateg, Biofathemateg, Mathemateg Gyfrifiadurol, a Dadansoddi a Hafaliadau Differol Rhannol Aflinol. Fel myfyriwr, bydd gen ti fynediad i'n cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys mannau rhwydweithio ac ysbrydoli, a chei gyfle i gydweithio â phartneriaid diwydiannol ar heriau'r byd go iawn.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein rhaglenni MSc yn ddelfrydol os wyt ti am ehangu dy wybodaeth BSc drwy amrywiaeth ehangach o bynciau, a dangos dy sgiliau llenyddiaeth ymchwil drwy draethawd estynedig. • Gelli di ddisgwyl astudio elfennau gwahanol ar fathemateg, megis elfennau mathemategol cyfrifiadura a damcaniaethau ystadegol.

• Byddi di’n datblygu dy sgiliau ymchwil, rheoli prosiect a marchnata, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig. • Pan fyddi di’n graddio, byddi di’n fathemategwr gwybodus gyda’r sgiliau profedig i gyflawni prosiect sylweddol yn annibynnol, gan roi mantais

unigryw i ti yn y farchnad swyddi, sy’n dod yn fwyfwy cystadleuol.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • TAR Uwchradd gyda SAC: Mathemateg, PGCert

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

111

Made with FlippingBook - Online magazine maker