Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

PLANT A PHOBL IFANC CAMPWS SINGLETON

81 % YSTYRIR BOD

YMCHWIL MEWN ADDYSG, CYMDEITHASEG & PHOLISI CYMDEITHASOL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021)

RHAGLENNI YMCHWIL

• Plant a Phobl Ifanc PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Rydym yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig wedi'u llywio gan y diweddaraf mewn ymchwil ac arloesi a addysgir gan staff sy’n ymgymryd ag ymchwil. • Elwa o’n partneriaethau rhyngwladol a'n hymagwedd gydweithredol unigryw at ymchwilio a dysgu. • Rydym yn cynnig rhaglen arloesol sydd wedi'i gwreiddio'n dda gyda darlithwyr academaidd profiadol ac ymroddedig.

• Astudiaethau Plentyndod MA/PGDip/PGCert ALl RhA

• Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig MA/PGDip/PGCert ALl RhA

Mae dilyn gradd meistr mewn Astudiaethau Plentyndod yn cynnig cyfle boddhaus i gefnogi plant a’u teuluoedd ar draws lleoliadau amrywiol. Mae'r rhaglen yn darparu dealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant yn y gymdeithas gyfoes a chynllunio a darparu polisïau a gwasanaethau i deuluoedd. Mae’r cwrs MA mewn Chwarae Datblygiadol a Therapiwtig yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i ti ar gyfer ymarfer chwarae heb gyfarwyddiadau mewn addysg, iechyd a gwyddorau cymdeithasol, er enghraifft ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gan ein staff academaidd gysylltiadau cryf â rhwydweithiau cenedlaethol a rhyngwladol er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn elwa ar y datblygiadau ymchwil, polisi ac ymarfer diweddaraf, gan arwain yn y pen draw at welliannau i blant, rhieni, ymarferwyr, rheolwyr, a llunwyr polisi.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Addysg, MA • Doethur mewn Addysg, EdD

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, gyda llawer o gyfleoedd i wneud cysylltiadau ar draws disgyblaethau. • Amgylchedd cydweithredol a chefnogol i ddatblygu dy wybodaeth a dy sgiliau yn y sector. • Cei fynediad i dîm addysgu cyfeillgar, gwybodus a chefnogol sy'n arwain myfyrwyr drwy'r modiwlau.

• Cymorth i uwchsgilio a galluogi myfyrwyr i gyflawni eu llwyddiant academaidd. • Cei dy herio i ymestyn dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o blant.

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

119

Made with FlippingBook - Online magazine maker