Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

RHEOLI CAMPWS Y BAE

ASTUDIAETHAU BUSNES & RHEOLI 150

RHAGLENNI YMCHWIL

(Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2023)

• Doethur mewn Gweinyddu Busnes DBA RhA • Rheoli Busnes MSc drwy Ymchwil ALl RhA

• Rheoli Busnes PhD/MPhil ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Addysgir ein graddau ôl-raddedig gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth broffesiynol ac academaidd ym meysydd busnes a rheoli allweddol. • Dewis o achrediad gyda chorff proffesiynol, sy'n gallu rhoi hwb i dy yrfa. • Ar gael i ymgeiswyr heb brofiad blaenorol o bynciau sy'n gysylltiedig â busnes neu reoli. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Marchnata Strategol, MSc • Rheoli Adnoddau Dynol, MSc • Rheoli Ariannol Rhyngwladol, MSc • Rheoli Twristiaeth Ryngwladol, MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Busnes Rhyngwladol MSc/PGDip/ PGCert ALl RhA • Rheoli MSc/PGDip ALl RhA • Rheoli (Busnes Cynaliadwy) MSc ALl RhA • Rheoli (Busnes Digidol) MSc ALl RhA • Rheoli (Chwaraeon) MSc ALl RhA • Rheoli (Cyfryngau) MSc ALl RhA * • Rheoli (Cyllid) MSc ALl RhA • Rheoli (Dadansoddeg Busnes) MSc ALl RhA

• Rheoli (Deallusrwydd Artiffisial) MSc ALl RhA • Rheoli (Marchnata) MSc ALl RhA • Rheoli (Menter ac Arloesi) MSc ALl RhA • Rheoli (Rheoli Adnoddau Dynol) MSc ALl RhA • Rheoli (Rheoli Gweithrediadau a Chyflenwi) MSc ALl RhA • Rheoli (Rheoli Rhyngwladol) MSc ALl RhA

Rydym wedi datblygu'r rhaglenni MSc ar gyfer myfyrwyr o unrhyw gefndir gradd israddedig, gydag addysgu ymarferol, wedi'i arwain gan ymchwil gan dîm o arbenigwyr yn y diwydiant. Ymuna â’n cymuned ffyniannus o fyfyrwyr ôl-raddedig byd-eang ac elwa o'n Gampws y Bae arloesol gyda chyfleusterau TG o’r radd flaenaf a meddalwedd arbenigol i gefnogi dy astudiaethau. Mae ein rhaglenni a addysgir wedi'u cynllunio i wella dy gyflogadwyedd a dy ragolygon gyrfa.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cymorth rhagorol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at dîm o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfa. • Pwyslais ar ymchwil ynghyd ag addysgu ymarferol gan dîm o arbenigwyr rheoli.

• Byddi di’n elwa o gysylltiadau cryf ag amrywiaeth o sefydliadau proffil uchel, gan gynyddu cyfleoedd i rwydweithio.

* Addysgir y cwrs ar Gampws Singleton a Champws y Bae. Gelli di ddechrau’r rhaglen hon ym mis Ionawr hefyd, gweler tudalen 64

MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler y dudalen 50



Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

123

Made with FlippingBook - Online magazine maker