Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

RHEOLI ADNODDAU DYNOL CAMPWS Y BAE

ASTUDIAETHAU BUSNES & RHEOLI 150

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

(Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2023)

• Rheoli Adnoddau Dynol MSc ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Caiff pob modiwl ei addysgu gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth broffesiynol ac academaidd. • Fe'i datblygwyd mewn ymgynghoriad â gweithwyr proffesiynol Adnoddau Dynol ac mae wedi'i deilwra ar gyfer graddedigion ac ymarferwyr rheoli sydd eisoes yn gyfarwydd â chysyniadau ac arferion Adnoddau Dynol. • Cymorth penodol i fyfyrwyr, gan

Dechreua ar daith i ddatblygu dy sgiliau rheoli gyda'n rhaglen MSc Rheoli Adnoddau Dynol, sy'n cynnig gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth ymarferol ar arferion gwaith yr 21ain ganrif. Ein nod yw dy helpu i ddod yn rheolwr adnoddau dynol ymaddasol, strategol ac arloesol. Rydym yn darparu'r modd y gelli wneud penderfyniadau gwybodus sy'n ystyried goblygiadau tymor byr a hirdymor. Gyda ffocws ar ddatblygiad a lles gweithwyr, byddi di'n dysgu sut i reoli unigolion a gweithluoedd yn effeithiol, gan sicrhau cynaliadwyedd dy sefydliad.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Pwyslais ar ymchwil ynghyd ag addysgu ymarferol gan dîm o arbenigwyr yn y sector. • Cyfleusterau sy'n arwain y sector, ynghyd â mannau addysgu ac ystafelloedd astudio dynodedig, a chyfleusterau TG helaeth, i gyd ar gael ar Gampws y Bae arloesol. • Cymorth eithriadol i fyfyrwyr, ochr yn ochr â dy astudiaethau, gan gynnwys mynediad llawn at y tîm gyrfaoedd.

• Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i dy alluogi i ddod yn weithiwr adnoddau dynol proffesiynol eithriadol; sy'n gweithredu gydag uniondeb ac sy'n gwneud cyfraniadau cadarnhaol ac ystyrlon o fewn sefydliadau. • Opsiwn i fod yn Aelod Cysylltiol o’r CIPD a defnyddio’r teitl Assoc CIPD ar ôl ei gwblhau'n llwyddiannus, gall roi hwb i dy yrfa.

gynnwys mynediad at dîm o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd.

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gweinyddu Busnes, MBA • Rheoli, MSc

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

MAE ACHREDIADAU'N CYNNWYS:

125

Made with FlippingBook - Online magazine maker