RHEOLI IECHYD A GOFAL UWCH (YN SEILIEDIG AR WERTH) CAMPWS Y BAE
YMAGWEDD DYSGU CYFUNOL
RHAGLENNI YMCHWIL
• Doethur mewn Gweinyddu Busnes DBA RhA
RHAGLENNI A ADDYSGIR
PAM ABERTAWE? Drwy ei Hacademi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth a gydnabyddir yn rhyngwladol, Prifysgol Abertawe yw'r unig sefydliad sy'n cynnig gradd meistr â llwybr penodol mewn damcaniaeth Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth a'r cyfle i'w rhoi ar waith yn ymarferol yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol, a gwyddorau bywyd. Mae’r modiwlau’n cael eu haddysgu gan ymarferwyr ac academyddion o’r radd flaenaf sydd â phrofiad helaeth o weithio yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd, yn ogystal â’r byd academaidd.
• Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (yn Seiliedig ar Werth) MSc/PGDip ALl RhA
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn angerddol am ysgogi trawsnewid byd-eang mewn gofal iechyd. Drwy ein Hacademïau Dysgu Dwys, ein cenhadaeth yw i rymuso gweithwyr proffesiynol fel ti i fod y genhedlaeth nesaf o arweinwyr arloesol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. P’un a wyt yn gweithio ym maes iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector, neu’r diwydiannau gwyddorau bywyd, rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r offer sydd eu hangen arnat i ailwampio systemau gofal iechyd, gwella canlyniadau i gleifion a defnyddwyr gwasanaethau, a sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau o gwmpas y byd. Ymuna â ni ar y daith gyffrous hon tuag at ddyfodol gwell i ofal iechyd.
YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Nod y radd meistr hon yw galluogi unigolion i ymgyfarwyddo'n llwyr â pharadeim trawsnewidiol o Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth; sut i’w roi ar waith yn ymarferol ar lefel poblogaeth ac unigolion, gan gyflawni canlyniadau o bwys, defnyddio technolegau digidol, cymhwyso modelau costio newydd, defnyddio ymagweddau caffael arloesol a mabwysiadu ymagwedd llwybr gofal gyfannol. • Byddi di’n datblygu'r sgiliau angenrheidiol i roi strategaeth arloesol sy’n Seiliedig ar Werth ar waith mewn sefydliad a bydd gen ti gyfle i roi dy ddysgu ar waith wrth i ti astudio.
Mae modiwlau nodweddiadol yn cynnwys: • Archwilio Pwrpas Sefydliadol. • Iechyd a Gofal Darbodus – Polisi ac Ymarfer. • Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth: Datblygu Strategaeth. • Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth: Rhoi Strategaeth ar Waith. • Ymchwil mewn Cyd-destun Iechyd a Gofal.
HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Rheoli Iechyd a Gofal Uwch (Arloesi a Thrawsnewid), MSc
CYLLID Mae'r Brifysgol a Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau
Darllen y llyfryn Academi Iechyd a Gofal sy'n Seiliedig ar Werth:
MAE’R ACHREDIADAU’N CYNNWYS:
YN GYSYLLTIEDIG Â:
127
Made with FlippingBook - Online magazine maker