Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

SEICOLEG A NIWROWYDDONIAETH CAMPWS SINGLETON

(Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) AMGYLCHEDD YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL 100 %

RHAGLENNI YMCHWIL

• Niwrowyddoniaeth Feddygol PhD ALl RhA • Seicoleg MSc drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA

• Seicoleg Iechyd PhD/MPhil ALl RhA • Ymchwil Addysg y Proffesiynau Iechyd DProf/MRes ALl RhA

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gofal Iechyd Cymunedol, Iechyd y Cyhoedd a Gofal Iechyd Sylfaenol • Gwaith Cymdeithasol • Iechyd y Cyhoedd a'r Boblogaeth • Meddygaeth, Gofal Iechyd a Nyrsio • Proffesiynau Perthynol i Iechyd • Y Gwyddorau Meddygol a Bywyd PAM ABERTAWE? • Caiff ein cyrsiau seicoleg a niwrowyddoniaeth eu haddysgu yn yr Ysgol Seicoleg ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. • Byddi di'n elwa o amgylchedd addysgu ac ymchwil amrywiol, lle bydd llawer o gyfleoedd i greu cysylltiadau rhyngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol. • Byddi di yng nghwmni arbenigwyr byd-eang ym meysydd meddygaeth, iechyd a gwyddor bywyd, y mae 85% o’u hymchwil wedi cael ei chydnabod am arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol gan Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2021). CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Dulliau Ymchwil mewn Seicoleg MSc ALl RhA • Niwrowyddoniaeth Wybyddol MSc ALl RhA

• Seicoleg Fforensig MSc ALl • Seicoleg Glinigol ac Iechyd Meddwl MSc ALl RhA

Wedi ein lleoli mewn amgylchedd ymchwil ffyniannus sy'n ysgogi staff academaidd, swyddogion ymchwil a myfyrwyr fel ei gilydd, mae Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe wedi ennill enw rhagorol yn y DU ac yn rhyngwladol fel un o Ysgolion Seicoleg Gorau yn y DU o ran effaith ein hymchwil yn y byd go iawn. Ystyrir bod 100% o'n heffaith ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol (REF2021). Yn yr Ysgol Seicoleg, rydym ni'n blaenoriaethu profiad myfyrwyr a datblygiad gyrfa drwy fuddsoddi'n barhaus mewn isadeiledd ymchwil, cyfleusterau a staff. Rydym ni hefyd yn cynnal perthnasoedd cryf ag ysbytai, darparwyr addysg a phrifysgolion ym mhedwar ban byd. Ymuna â ni i fwynhau amgylchedd dysgu neilltuol a fydd yn dy helpu di i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth i lwyddo yn dy yrfa.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Elwa o fodiwlau ac addysgu a gynlluniwyd ac a gaiff eu llywio gan ein hymchwil. • Byddi di’n cael dy addysgu gan

• Mynediad i gyfleusterau ymchwil o'r radd flaenaf gan gynnwys: – Ystafell trydanenceffalograffi dwysedd uchel (EEG). – Ystafelloedd arsylwi cymdeithasol. – Olrhain y llygaid. – Seicoffisiolegol, ysgogiad cerrynt uniongyrchol trawsgreuanol (tDCS). – Labordy cwsg, cyflyru ac hyd oes gyda'r holl gyfarpar angenrheidiol. – Mwy nag 20 ystafell ymchwil aml-bwrpas.

academyddion blaenllaw sy’n adnabyddus am ddefnyddio’r gwyddorau i gyflawni newid er budd cleifion a'r gymdeithas.

• Addysg ryngbroffesiynol, gan elwa o dechnoleg ddysgu ymdrochol arobryn gwerth £5.2 miliwn.

Proffil Myfyriwr gweler y dudalen nesaf

129

Made with FlippingBook - Online magazine maker