Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

TWRISTIAETH CAMPWS Y BAE

YN Y SAFLE 151-160

(Tablau Prifysgolion y Byd QS fesul Pwnc 2023 RHEOLI LLETYGARWCH & HAMDDEN

RHAGLENNI YMCHWIL RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Rheoli Twristiaeth Ryngwladol MSc ALl RhA

PAM ABERTAWE? • Addysgir ein graddau ôl-raddedig gan ein hacademyddion o'r radd flaenaf sydd â gwybodaeth broffesiynol ac academaidd mewn agweddau allweddol ar fusnes a rheoli. • Cyngor personol a phwrpasol diderfyn ar yrfaoedd gan ein tîm cyflogadwyedd ymroddedig o arbenigwyr a chynghorwyr gyrfaoedd. • Byddi di’n astudio yn adeilad yr Ysgol Reolaeth y buddsoddwyd £22 miliwn ynddo. • Hanes ardderchog wrth helpu ein myfyrwyr i gael swyddi gwerthfawr mewn sefydliadau o bob maint, o fusnesau bach i gorfforaethau mawr, yn lleol ac yn fyd-eang. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Gweinyddu Busnes, MBA • Marchnata Strategol, MSc • Rheoli Adnoddau Dynol, MSc CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Ymuna â'n rhaglen MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol a byddi di'n rhan o gymuned sy'n rhannu gwerthoedd Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Gyda ffocws ar fusnes, rheoli, a'r gwyddorau cymdeithasol, byddi di'n ennill mewnwelediadau a sgiliau i werthuso'n feirniadol ddyfodol twristiaeth yn y DU a ledled y byd. Mae ein rhaglen yn pwysleisio twristiaeth gyfrifol, gan dy baratoi i eiriol dros arferion twristiaeth gynaliadwy ar bob lefel. Byddi di'n barod i gael effaith gadarnhaol yn y diwydiant twristiaeth, gan wneud gwahaniaeth mewn cymunedau lleol a hyrwyddo twristiaeth gyfrifol ledled y byd.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Cyfle i gael profiad o gyrchfannau sefydledig a rhai sy'n dod i'r amlwg drwy gyfres o ymweliadau maes. • Cei di elwa o ystafell ddosbarth fwy personol, sy'n rhoi cyfle i academyddion addysgu gynnig cymorth pwrpasol ac yn cynnal cymhareb ragorol rhwng myfyrwyr a staff cymorth.

• Cei di dy addysgu gan academyddion arbenigol sy'n gwneud ymchwil arloesol yn y diwydiant twristiaeth. • Mannau addysgu ac ystafelloedd astudio dynodedig a chyfleusterau TG helaeth, i gyd ar gael ar Gampws y Bae arloesol.

137

Made with FlippingBook - Online magazine maker