Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

02

GWNA GAIS A DERBYN DY GYNNIG

Gelli wneud cais yn uniongyrchol i Brifysgol Abertawe ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau ôl-raddedig (gyda rhai eithriadau). Fel arfer, byddi di’n clywed a ydym wedi cynnig lle i ti astudio ar y cwrs neu’r cyrsiau rwyt wedi’u dewis o fewn 9 diwrnod gwaith. Gelli wneud cais erbyn diwedd mis Gorffennaf (ar gyfer mynediad ym mis Medi) ac ar ddiwedd mis Hydref (ar gyfer mynediad ym mis Ionawr) fan bellaf. Paid â’i adael yn rhy hwyr oherwydd y gelli golli cyfleoedd am ysgoloriaethau.

LLINELL AMSER Y CAIS P’un a yw dy gwrs yn dechrau ym mis Medi neu ym mis Ionawr, mae’n syniad da i ti ddechrau meddwl am opsiynau astudio ôl-raddedig o leiaf chwe mis cyn i’r cwrs ddechrau.

01

DECHRAU CYNLLUNIO Wyt ti am barhau i astudio dy bwnc presennol neu astudio mewn maes hollol wahanol ? Byddai’n syniad da meddwl hefyd beth fyddai orau i ti – gradd wedi’i haddysgu neu radd ymchwil. Mae’n syniad da cysylltu â dy ganolwyr a pharatoi datganiad personol cyn dechrau dy gais. Bydd ein nosweithiau agored ôl-raddedig yn rhoi cyfle i ti archwilio dy holl opsiynau ar ein campysau sydd ger y traeth. Darganfydda fwy:  abertawe.ac.uk/ol-raddedig/diwrnodagored

03

DERBYN DY GYNNIG Rho wybod i ni o fewn 28 diwrnod i sicrhau dy fod yn cael lle ar y cwrs o dy ddewis.

142

Made with FlippingBook - Online magazine maker