Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

DY GYMUNED YMCHWIL

Mae Abertawe’n gartref i gymuned ymchwil ffyniannus sy’n cyfuno ymchwil o safon fyd-eang ag ethos croesawgar, cynhwysol a chydweithredol ynghyd â phwyslais ar ymchwil sy’n cynnig buddion go iawn i’n byd. Mae ein swyddfa ymchwil ôl-raddedig yn cydlynu gweithgareddau ôl-raddedig rhyngddisgyblaethol a chymorth ar draws y Brifysgol. Rydym yn gweithio i sicrhau bod myfyrwyr yn cael y profiad gorau posib drwy ddarparu mynediad at gyfleoedd cyllid a datblygu, darparu hyfforddiant ac adnoddau i dy gefnogi i ddatblygu dy sgiliau proffesiynol a dy sgiliau ymchwil a thrwy gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau a arweinir gan fyfyrwyr.

DY GEFNOGI I DDATBLYGU Rydym yn cynnig rhaglen hyfforddi a datblygu gynhwysfawr i ymchwilwyr ôl-raddedig, gan dy gefnogi i ddatblygu’r sgiliau, yr wybodaeth a’r rhinweddau er mwyn rhagori yn dy ymchwil a dy yrfa yn y dyfodol. FFRAMWAITH HYFFORDDIANT Mae ein fframwaith hyfforddiant, sy’n cynnwys deg thema wahanol, wedi’i gynllunio i gefnogi dy ddatblygiad fel ymchwilydd a dy ddatblygiad proffesiynol ar bob cam yn ystod dy ymgeisyddiaeth.

DARGANFYDDA FWY:

abertawe.ac.uk/ymchwil/ gwnewch-ymchwil-gyda-ni/ ymchwil-ol-raddedig

22

Made with FlippingBook - Online magazine maker