YMUNA Â’N
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn coleddu’r ymdeimlad o berthyn sy’n dod yn sgil bod yn rhan o’n cymuned ôl-raddedig fywiog. Mae ein graddedigion yn dyst i hyn, wrth iddynt ymuno â’r rhengoedd o filoedd o gyn-fyfyrwyr sydd wedi gwneud eu marc ar y byd gan ddefnyddio’r sgiliau a’r profiadau a enillwyd yn Abertawe. Rydym yn ymfalchïo’n fawr yng nghyflawniadau ein graddedigion, sydd wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr busnes, yn bencampwyr chwaraeon, ac yn arloeswyr ymchwil sy’n torri tir newydd. Ymuna â ni heddiw a dod yn aelod gwerthfawr o’n cymuned ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe.
ANDREW TEILO, MA Cymraeg. Dosbarth 2021. ACTOR abertawe.ac.uk/cyn-fyfyrwyr/proffiliau-cyn-fyfyrwyr
“Penderfynais astudio am radd Meistr oherwydd roeddwn am ymestyn fy hun! Roeddwn hefyd am ‘gymhwyso’, rywfodd, yn y Gymraeg, neu, yn y man lleiaf, ddefnyddio’r Gymraeg fel cerbyd i’m hastudiaethau. Yr holl flynyddoedd hynny yn ôl, roeddwn yn rhy oriog fel disgybl ysgol i benderfynu ar lwybr bywyd i mi fy hun, ac yn fuan wedyn cymerai fy mywyd proffesiynol fy holl egni, a hynny am nifer fawr o flynyddoedd. Er hynny, ro’n i’n ymwybodol iawn ar hyd yr amser fy mod wedi ‘gadael rhywbeth ar ei ôl’; gadael hefyd i ryw gyfle amhenodol ddianc trwy’m dwylo, fy mod heb wireddu rhyw ‘botensial’. Yn fras, ymgais i unioni hynny oedd fy mhenderfyniad i geisio gradd MA i mi fy hun.”
34
Made with FlippingBook - Online magazine maker