Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

LLETY YNG NGHANOL Y DDINAS Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod Prifysgol Abertawe bellach yn gweithio mewn partneriaeth â dau ddarparwr llety annibynnol blaenllaw sef Seren, a true Swansea.

true SWANSEA

Gyda golygfa heddychlon ar draws afon Tawe, mae llety myfyrwyr true Swansea yn lleoliad delfrydol ar gyfer bywyd prifysgol yn y ddinas. Yn daith fer o’r ddau gampws, ar Heol Morfa yng nghanol y ddinas, mae true Student yn cynnig ystafelloedd en suite mewn fflatiau i 5 a 6 ac ystafelloedd preifat ar ffurf stiwdios, â chegin fach ac ystafell ymolchi en suite foethus. Mae ein hystafelloedd stiwdio ar gael i ddau berson, felly mae’r rhain yn opsiwn gwych os wyt ti am fyw gyda dy bartner (sylwer, rhaid i’r ddau denant fod yn fyfyrwyr amser llawn).

SEREN

Yng nghanol y ddinas gyferbyn â Gorsaf Drên Abertawe, mae Seren yn cynnig llawer mwy nag ystafelloedd gwely mewn adeilad. Hanner ffordd rhwng Campws Parc Singleton a Champws y Bae, bydd gen ti ddewis o gyfleusterau gwahanol i’w defnyddio pryd bynnag rwyt ti eisiau. Mae gan bob ystafell wely ystafell ymolchi en suite a theledu clyfar 32”. Hefyd, ceir cegin a rennir sydd â lolfa a theledu clyfar 55” Mae ystafelloedd stiwdio hefyd yn cynnwys cegin fach yn yr ystafell.

42

Made with FlippingBook - Online magazine maker