Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Pwnc gradd Meistr Simon a Matthew oedd Peirianneg Fecanyddol a thrwy eu prosiect ymchwil, gwnaethant ddarganfod y gallent wneud effaith yn y maes. Cwmni newydd yw Airview Enginering sy’n tynnu Co2 yn uniongyrchol o’r atmosffer er mwyn darparu dulliau ar raddfa lai a mwy cost-effeithiol o ddal carbon â’r nod o gynyddu eu defnydd yn sylweddol ledled y byd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Amcan y cwmni yw cael effaith ystyrlon ar lefelau’r nwyon niweidiol a geir yn yr atmosffer. Mae eu technoleg dal Co2 yn ffrwyth tair

blynedd o arloesi a datblygu blaengar. Y bwriad yw y bydd modd defnyddio eu technoleg ar raddfa, mewn ffordd fodiwlaidd y gellir ei rhoi ar waith yn gyflym er mwyn cynorthwyo wrth ehangu eu cynnyrch. Mae Simon a Matthew wedi cael eu cefnogi gan y Tîm Mentergarwch ers y dechrau ac, yn ôl y ddau, mae’r cymorth a’r cyllid hwn, ynghyd â’r strwythur, y ddarpariaeth a’r mynediad at adnoddau drwy gydol eu cwrs Peirianneg Fecanyddol wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu eu busnes. Maent wedi llwyddo i sicrhau dros hanner miliwn o bunnoedd o grantiau gan gyllidwyr megis Innovate UK, sydd wedi eu galluogi i ddechrau datblygu eu cyfleuster peilot cyntaf. Maent yn nodi bod gwydnwch yn nyddiau cynnar dy fusnes yn allweddol i’w lwyddiant ond, os oes gen ti syniad da, ni ddylai dim dy atal rhag cyflawni dy nodau. Mae Airview Engineering yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy ddefnyddio gwybodaeth a sgiliau o dy radd ôl-raddedig i ddatrys problemau’r byd go iawn.

SIMON OLIVER a MATTHEW TUCKER, Peirianneg Fecanyddol MEng

CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR:

Found from website recreated PMS

45

Made with FlippingBook - Online magazine maker