Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

GWNEUD CYNALIADWYEDD YN RHAN HANFODOL O

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ffodus bod gennym amrywiaeth eang o gynefinoedd i’w mwynhau, o draethau i goetir a pharciau, ac rydym yn angerddol am ddatblygu cynaliadwy er lles ein cymuned leol, y DU a’r byd ehangach. GWIRFODDOLI Mae’r Tîm Cynaliadwyedd yn gweithio’n galed i gynnig llawer o gyfleoedd gwahanol i gymryd rhan. Drwy ddod a chymryd rhan yn ein sesiynau rheolaidd i lanhau’r traethau, ein partïon gwaith a monitro bywyd gwyllt, bydd gen ti’r cyfle i gwrdd â phobl newydd, gwella dy gyflogadwyedd a chodi dy ymwybyddiaeth o faterion mwyaf dybryd heddiw. abertawe.ac.uk/discovery

(2021/22)

Plastigau, gan gynnwys poteli plastig untro, yw’r math o sbwriel a ddarganfyddir amlaf ar draethau’r DU ac nid oes rhaid i ti edrych yn bell i’w canfod yn sbwriel ein trefi a’n mannau gwyrdd hefyd. Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol gynaliadwy flaenllaw ac rydym wrth ein bodd yn gallu cefnogi Refill (cynllun sy’n darparu gorsafoedd ail-lenwi dŵr mewn lleoliadau ledled Abertawe a’r Brifysgol) gyda’n partneriaid yn Abertawe Plastig Am Ddim ac Undeb y Myfyrwyr. Mae Swyddogion Undeb Myfyrwyr wedi bod yn brysur iawn yn cefnogi lansio’r ymgyrch; bellach, mae gennym o leiaf

Mae gwirfoddoli fel myfyriwr ôl-raddedig yn anhygoel oherwydd mae’n rhoi’r cyfle i ddod i adnabod a theimlo fel rhan o’r brifysgol a’r gymuned ehangach. Mae hyn yn wir yn achos ôl-raddedigion sy’n newydd i Abertawe ac sydd yma am gyfnod byr yn unig. Mae ‘Discovery’, elusen wirfoddoli a arweinir gan fyfyrwyr

30 o orsafoedd Ail-lenwi ar draws ein campysau Bae a Pharc Singleton i’r gymuned gyfan eu defnyddio.

Prifysgol Abertawe, yn caniatáu i ti gwrdd â phobl o’r gymuned leol a’r brifysgol, a chael effaith gadarnhaol ar yr un pryd. Lizzie Wilde Niwrowyddoniaeth Wybyddol, MSc GWOBR DINESYDD BYD-EANG Os oes gen ti ddiddordeb mewn ailgylchu, bioamrywiaeth, lles neu unrhyw beth yn y canol, mae gennym ni rywbeth i ti! Ein rhaglen ymgysylltu â myfyrwyr flaenllaw yw’r Wobr Dinesydd Byd-Eang Mae cwblhau’r wobr yn cyfrannu at dy gofnod academaidd ac mae’n addysgu ystod eang o sgiliau i ti. abertawe.ac.uk/cynaliadwyedd

Teifion Maddocks Rheolwr Cynaliadwyedd, Prifysgol Abertawe

YN Y DU YN Y BYD

4 YDD 47 AIN

(Times Higher Education Impact Rankings 2023)

4 TH IN THE UK 47 TH WORLDWIDE (Times Higher Education Impact Rankings 2023) 4 TH IN THE UK 11 TH WORLDWIDE (Times Higher Education Impact Rankings 2023) 4 TH IN THE UK 47 TH WORLDWIDE (Times Higher Education Impact Rankings 2023)

61

Made with FlippingBook - Online magazine maker