Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

YN Y DU 10

ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD CAMPWS SINGLETON

ASTUDIAETHAU AMERICANAIDD

RHAGLENNI YMCHWIL

(Times Good University Guide 2023) ¨

• Astudiaethau Americanaidd MA drwy Ymchwil/MPhil ALl RhA • Astudiaethau Americanaidd PhD ALl

HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Cysylltiadau Rhyngwladol, MA • Gwleidyddiaeth, MA • Hanes, MA • Hanes, MA drwy Ymchwil/ PhD/MPhil • Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth, MA • Hanes Modern, MA • Rhyfel a Chymdeithas, MA CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau dy ddatblygiad academaidd a phroffesiynol. Byddi di'n cael manteisio ar fannau astudio dynodedig â chyfleusterau TG a chei dy annog i fod yn rhan o'n cymuned ymchwil fywiog. • Wedi'i leoli ar gampws Parc Singleton, byddi di'n gallu mwynhau bywyd campws i'r eithaf, gan elwa o amrywiaeth eang o wasanaethau, gweithgareddau a chlybiau – i gyd mewn lleoliad hyfryd ar lan y môr, yn agos at ganol dinas fywiog a hanesyddol. PAM ABERTAWE? • Cei di fynediad at ein casgliadau llyfrgell helaeth i gefnogi dy anghenion ymchwil. Mae hyn yn cynnwys Casgliad Allan Milne o dros 3,000 o ffynonellau cynradd ac eilaidd mewn perthynas â Rhyfel Cartref America – un o'r casgliadau mwyaf o'i fath yn y DU. • Bydd ein staff yn dy gefnogi drwy

Ymchwilia mewn i fyd hynod ddiddorol a chymhleth yr Unol Daleithiau gyda'n rhaglen Astudiaethau Americanaidd. Gyda ffocws ar hanes, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a diwylliant, mae ein rhaglen MA drwy Ymchwil, MPhil neu PhD yn ymdrin â themâu megis mewnfudo, democratiaeth, caethwasiaeth, imperialaeth, amlddiwylliannaeth, hil ac ethnigrwydd, hanes trefol, yr economi, a therfysgaeth. Nid yw'r themâu hyn yn gyfyngedig i'r gorffennol yn unig, ond maent yn parhau i lywio'r byd rydym yn byw ynddo heddiw. Gad inni dy helpu i archwilio a dadansoddi tirwedd amlochrog yr Unol Daleithiau trwy ddull personol a deniadol o ddysgu.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Prifysgol Abertawe yw'r ganolfan Astudiaethau Americanaidd fwyaf blaenllaw yng Nghymru, sy’n cydweithredu â nifer o brifysgolion ledled yr Unol Daleithiau ar brosiectau ymchwil, yn ogystal â chynnig rhaglen lawn o siaradwyr gwadd. • Mae MA drwy Ymchwil, PhD neu MPhil mewn Astudiaethau Americanaidd yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â phrosiect sylweddol wedi'i arwain gan eu diddordebau personol. Mae ein staff academaidd yn ysgrifennu ac yn cyhoeddi'n eang ac yn cynnig goruchwyliaeth arbenigol unigol ar draws amrywiaeth helaeth o bynciau mewn amgylchedd ymchwil byw a deinamig.

• Byddi d'n astudio amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil, gan gynnwys llenyddiaeth, hanes, gwleidyddiaeth a llywodraeth, ffilm a diwylliant America. • Gall raglen MA drwy Ymchwil, PhD neu MPhil mewn Astudiaethau Americanaidd, arwain at yrfa yn y byd academaidd, mewn addysg, llywodraeth neu yn y sector preifat.

¨ Safleoedd sy’n benodol i israddedigion sy’n cynnwys asesu ansawdd ymchwil sefydliad.

66

Made with FlippingBook - Online magazine maker