Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

BIOWYDDORAU CAMPWS SINGLETON

(QS World University Rankings 2023) 350 YN Y BYD BIOWYDDORAU

RHAGLENNI YMCHWIL

• Biowyddorau MRes ALl RhA

• Gwyddorau Biolegol MPhil/PhD ALl RhA DoB

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Mae gennym ni gysylltiadau dylanwadol mewn sefydliadau

• Bioleg Amgylcheddol: Cadwraeth a Rheoli Adnoddau MSc ALl RhA

rhyngwladol a chenedlaethol megis Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Mamaliaid Prydain a Chanolfan Gwlypdiroedd Naturiol Cymru i ychwanegu gwerth at dy astudiaethau. • 11eg yn y DU am Ansawdd Ymchwil (The Complete University Guide 2024). • Ystyrir 90% o'n hallbynnau ymchwil yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021). • Bydd myfyrwyr yn elwa o'n cyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy sy'n cynnwys labordai a reolir, gyda systemau dyfrol ailgylchredeg. • Mae hefyd gennym ni gwch arolygu dosbarth catamarán 18 metr a chanolfan ddelweddu sy'n unigryw yn y byd sy'n dangos gwybodaeth ddimensiynol o ddata olrhain anifeiliaid. • Mae rhai o'n graddedigion diweddar wedi symud ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus fel Ecolegwyr, Swyddogion Hydrometreg a Thelefetreg, Tacsonomyddion Dyfynforol a Swyddogion Bywyd Gwyllt ac Addysg. CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

Mae Abertawe'n cynnig amgylchedd eithriadol i fyfyrwyr Biowyddorau gyda chanolfannau ymchwil o'r radd flaenaf, labordai llawn offer, a pharcdir ac arfordir syfrdanol. Mae Cwm Tawe, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Phenrhyn Gŵyr gerllaw (sy'n safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU), yn darparu cynefinoedd amrywiol i fyfyrwyr eu harchwilio a dysgu oddi wrthynt. Mae'n lleoliad delfrydol i fyfyriwr y Biowyddorau ffynnu ynddo, gan ei wneud yn ddewis rhagorol i unrhyw un sydd am ddilyn gyrfa yn y maes hwn.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ein rhaglenni’n canolbwyntio ar y perthnasoedd rhwng organeddau byw a'r amgylcheddau tirol, dŵr croyw a dyfrol, ynghyd â rhyngweithio sy'n ganlyniad prosesau naturiol ac anthropogenig. • Rydym ni'n cynnal ymchwil ar draws y gwyddorau naturiol, sy'n cyfuno gwyddoniaeth sylfaenol a chymhwysol i roi amgylchedd ymchwil cynhwysfawr. • Mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar bedair thema, sydd wedi'u hintegreiddio yn ein cenhadaeth addysg: Systemau Morol a Dŵr Croyw, Ymddygiad Ecoleg ac

• Byddi di'n cael dy addysgu gan amrywiaeth o arbenigwyr ysbrydoledig y biowyddorau, gan gynnwys Dr Richard Unsworth, ymgynghorydd ar gyfres fyd-enwog y BBC, Blue Planet II a'r Athro Carlos Garcia de Leaniz, sy'n arbenigwr mewn ymddygiad, cadwraeth ac ecoleg eogiaid ac sy'n arweinydd prosiect AMBER Ewropeaidd aml-bartner.

Esblygiad, Bioamrywiaeth ac Ecosystemau, Cynnyrch Naturiol ac Adnoddau Amgylcheddol.

68

Made with FlippingBook - Online magazine maker