Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

CEMEG CAMPWS SINGLETON

97.9 % CYHOEDDIADAU YMCHWIL YN ARWAIN Y BYD NEU'N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL (Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSTYRIR BOD

RHAGLENNI YMCHWIL

• Cemeg MSc drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

Mae Cemeg yn ffynnu yn Abertawe, gan bontio amrywiaeth eang o feysydd, a disgwylir y bydd ein hymchwil yn lluosi'n gyflym dros y tair blynedd nesaf. Mae ein grwpiau ymchwil ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar bedair thema: Ynni; Iechyd; Moleciwlau a Deunyddiau Newydd ac Uwch; a Dŵr a'r Amgylchedd. Mae'r mentrau hyn yn mynd y tu hwnt i ffiniau disgyblaethau traddodiadol ac yn integreiddio meysydd craidd o gemegolion organig, anorganig, ffisegol a dadansoddol, yn ogystal â thorri ar draws disgyblaethau eraill sy'n ymwneud â pheirianneg, meddygaeth a gwyddoniaeth.

PAM ABERTAWE? • Mae gan ein Hadran Gemeg

gyfleusterau o’r radd flaenaf gan gynnwys Hyb Cemeg pwrpasol sy’n cynnwys labordai addysgu modern, mannau ymchwil a mynediad i amrywiaeth eang labordy ymarferol yn ein Canolfan Nanodechnoleg gwerth £22 miliwn a’n Canolfan ar gyfer Deunyddiau Lled-ddargludol Integredig newydd gwerth £30 miliwn. o isadeileddau ymchwil. • Gelli di elwa o’n profiad • Byddi di’n cael profiad o dechnolegau sydd ar flaen y gad, ac yn rhyngweithio ag arbenigwyr o fyd diwydiant, yn datblygu set sgiliau eang a rhwydwaith o gysylltiadau a fydd yn gwella dy gyfleoedd cyflogaeth, megis yn y diwydiant lled-ddargludyddion sy’n ehangu’n gyflym. • Mae ein hymchwil yn hanfodol i helpu cwmni sydd wedi'i leoli yn Abertawe i ddatblygu ei dechnoleg micronodwyddo a dod â'r dechnoleg honno i'r farchnad. Rydym yn gweithio gyda chwmni lled-ddargludyddion arweiniol i arallgyfeirio ei bortffolio o gymwysiadau a'i wybodaeth am brosesau, gan ei alluogi i ehangu i farchnadoedd newydd. HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Peirianneg Electonig a Thrydanol, MSc • TAR Uwchradd gyda SAC: Cemeg, PGCert CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae ymchwil effaith uchel eisoes yn cael ei gwneud mewn canolfannau o’r radd flaenaf yn Abertawe, gan gynnwys: Y Ganolfan NanoIechyd, Y Sefydliad Sbectrometreg Màs, Sefydliad y Gwyddorau Bywyd, Y Sefydliad Ymchwil i Ddiogelwch Ynni, a'r Ganolfan Nanodechnoleg Aml-ddisgyblaethol, y Ganolfan ar gyfer Technolegau Dŵr ac Ymchwil Amgylcheddol Uwch. • Mae gennym gysylltiadau eithriadol â diwydiant (gyda pherthnasoedd cydweithredol diwydiannol eang ym maes lled-ddargludyddion, dur, nwyddau fferyllol a synhwyro), ynghyd ag agenda ar gyfer cynhyrchu effeithiau economaidd- gymdeithasol hirdymor sy'n deillio o ymchwil gymhwysol.

• Rydym ni’n gweithio’n agos gydag adrannau eraill ar draws y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, gan alluogi myfyrwyr a staff i feithrin amgylchedd o ragoriaeth ymchwil. • Ar gyfer ein rhaglenni ymchwil, rydym ni’n gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys iawn y mae eu diddordeb ymchwil yn canolbwyntio ar thema Ynni Cemeg; Cemeg Iechyd, Bwyd a Chyffuriau; Cemeg Deunyddiau; Cemeg Lled-ddargludyddion a Chemeg Arwyneb; a Sbectrosgopeg.

70

Made with FlippingBook - Online magazine maker