Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

Y CLASURON, HANES YR HENFYD AC EIFFTOLEG CAMPWS SINGLETON

YN Y BYD YN Y SAFLE 51-90 Y CLASURON A HANES YR HENFYD

RHAGLENNI YMCHWIL

• Y Clasuron MA drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA • Eifftoleg MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

• Hanes yr Henfyd MA drwy Ymchwil/ PhD/MPhil ALl RhA

(QS World University Rankings 2023)

CYLLID Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ôl-raddedig ar gael: a bertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau HEFYD, GELLI DI YSTYRIED • Astudiaethau Canoloesol, MA • Hanes, MA • Hanes Cyhoeddus a Threftadaeth, MA • Hanes Modern, MA • Bydd yn rhan o gymuned ymchwil ffyniannus ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys Grŵp Ymchwil OLCAP (Object and Landscape Approaches to the Past), Canolfan Ymchwil KYKNOS ar gyfer llên naratif yr henfyd. • Datblyga sgiliau rhyngbersonol trwy gymryd rhan yn ein cymdeithasau myfyrwyr gweithgar, gan gynnwys ein cymdeithasau'r Henfyd a Hanes, a thrwy fanteisio ar gyfleoedd gwirfoddoli yn y Ganolfan Eifftaidd. PAM ABERTAWE? • Ymuna â chymuned ôl-raddedig glos a chael dy addysgu gan academyddion a gydnabyddir yn rhyngwladol. • Elwa o fynediad at ein hadnoddau unigryw megis amgueddfa ar-gampws Prifysgol Abertawe, Y Ganolfan Eifftaidd a'i chasgliadau o eitemau Groegaidd-rufeinaidd ac Eifftaidd.

RHAGLENNI A ADDYSGIR

• Hanes yr Henfyd a Diwylliant Clasurol MA ALl RhA

• Llên Naratif yr Henfyd MA ALl RhA

Dechreua dy astudiaethau ôl-raddedig gan ganolbwyntio ar hanes, diwylliant, ieithoedd neu lenyddiaeth yr henfyd. Mae ein cyrsiau hynod ddiddorol a thrylwyr yn cynnwys gwareiddiadau hen Roeg, Rhufain a'r Aifft, a'u cymdogion, gan ddefnyddio tystiolaeth hynafol a syniadau modern i archwilio'r cymeriad, effaith, etifeddiaeth a threftadaeth y gwareiddiadau hynafol hyn. YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Byddi di’n datblygu sgiliau a gwybodaeth arbenigol i wella dy ddealltwriaeth o'r henfyd. • Cei ddewis o amrywiaeth helaeth o • Mae'r meysydd arbenigedd presennol yn cynnwys: hanes, cymdeithas a diwylliant yr hen Aifft, a'i rhyngweithiadau â thiriogaethau

cyfagos yn Nubia a'r Dwyrain Agos; llenyddiaethau naratif hynafol; Cyprus fel croesffordd o ddiwylliant hynafol; bwyd yn y diwylliant Rhufeinig; Pompeii a Dinasoedd Vesuvius; rhyngweithiadau rhwng y bydoedd Groegaidd a Rhufeinig a thiriogaethau cyfagos ar draws Affro-Ewrasia o'r cyfnod hynafol hyd at y cynfyd hwyr; crefyddau Groeg a Rhufain a Christnogaeth gynnar; diogelu treftadaeth ddiwylliannol hynafol mewn cylchfaoedd rhyfeloedd modern. • Mae prosiectau PhD presennol a phrosiectau a gwblhawyd yn ddiweddar yn cynnwys: creu a chylchredeg amwledau yn nelta'r Nîl yn y mileniwm cyntaf cyn yr oes gyffredin; ideolegau o lywodraeth yn yr hen Aifft; cynrychioliadau o Bersiaid mewn nofelau Groeg hynafol; ethnigrwydd a ffederaliaeth yng Ngwlad Roeg hynafol; trawsnewidiadau'r llys Rhufeinig yn y cyfnod hynafol hwyr.

fodiwlau ar draws disgyblaethau hanes a diwylliant, ieithoedd a llenyddiaeth, gan roi cyfle i ti ganolbwyntio ar dy ddiddordebau personol a'r hyn sy'n tanio dy frwdfrydedd. • Bydd dy adnoddau astudio yn cynnwys y brif lyfrgell sydd â digonedd o ddeunydd gan gynnwys ffynonellau llenyddol a dogfennol hynafol, cyhoeddiadau archeolegol, epigraffeg a phapurolegol, ynghyd â deunydd ysgolheigaidd modern perthnasol. Mae casgliadau'r llyfrgell yn cynnwys ystod eang o gyfnodolion cyffredinol ac arbenigol, a nifer gynyddol o adnoddau digidol arbenigol. Mae gan fyfyrwyr fynediad hefyd at gasgliadau ac adnoddau’r Ganolfan Eifftaidd ar y campws. Cynigir hyfforddiant arbenigol hefyd drwy'r canolfannau ymchwil. • Byddi di’n gweithio ochr yn ochr â goruchwylwyr sy'n gwneud ymchwil o'r radd flaenaf mewn llawer o feysydd pwnc amrywiol, gan fireinio a datblygu dy sgiliau ymchwil dy hun.

72

Made with FlippingBook - Online magazine maker