Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

MEDDYLIAU MAWR

PENNAETH ADRAN: YMCHWILYDD BLAENLLAW AR NEWID SYDYN YN YR HINSAWDD Mae Siwan Davies yn Athro mewn Daearyddiaeth ac mae hi’n astudio lludw folcanig i ddatblygu ein

Dywedodd yr Athro Davies: “Mae hwn yn ymchwil o bwys yng ngwyddorau’r hinsawdd a gall defnyddio gronynnau o lwch microsgopig ddarparu atebion sydd wedi bod tu hwnt ein gafael hyd yma. Mae’r gwaith yn gyffrous ond yn heriol hefyd ac rwy’n dwlu arno. Mae hefyd yn wefr arwain ac ysbrydoli tîm o ymchwilwyr tuag at ein nodau gwyddonol.” Mae’r Athro Davies hefyd yn cyflwyno ei gwaith i’r cyhoedd ac yn gyflwynydd cyfres ddogfen hynod lwyddiannus ar S4C sef “Her yr Hinsawdd”. Teithiodd ledled y byd er mwyn rhannu profiadau cymunedau sydd eisoes yn teimlo effaith newid yn yr hinsawdd a’u hymateb nhw i heriau’r dyfodol. Ar ben hyn, mae’r Athro Davies hefyd yn cyfrannu at addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe a ledled Cymru ac yn ymwneud â gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

dealltwriaeth o newidiadau sydyn yn ein hinsawdd dros y canrifoedd. Mae hi’n wyddonydd arloesol ac wedi derbyn Gwobr Philip Leverhulme (2011) a Chronfa Lyell (2013). Mae hi hefyd yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Magwyd yr Athro Davies yn Nhrefdraeth, Sir Benfro, ac ar ôl graddio mewn Daearyddiaeth o Brifysgol Rhydychen, cwblhaodd radd Meistr a PhD yn Royal Holloway, Prifysgol Llundain yn 2002. Yn dilyn penodiadau ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Stockholm a Phrifysgol Copenhagen, ymunodd â Phrifysgol Abertawe fel Darlithydd yn 2004 a chamodd ymlaen yn ei gyrfa academaidd yn gyflym, gan dderbyn Cadair Bersonol yn 2012. Mae ei hymchwil wedi sicrhau cyllid gan NERC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Cyngor Ymchwil Ewrop (ERC) a’r Gymdeithas Frenhinol. Nod ei gwaith ymchwil yw defnyddio haenau o lwch folcanig yng nghreiddiau iâ’r Ynys Las ac Antarctica, a chofnodion morol i asesu

CYLLID Mae’r Brifysgol a Llywodraeth Cymru yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau

ymateb yr atmosffer a’r cefnforoedd yn ystod newidiadau hinsawdd sydyn y gorffennol.

Mae fy ngwaith ar ronynnau lludw microscopig yn gyffrous ond hefyd yn heriol a dwi wrth fy modd yn ei wneud. Mae hefyd yn wefr arwain ac ysbrydoli tîm o ymchwilwyr tuag at ein nodau gwyddonol.

84

Made with FlippingBook - Online magazine maker