Prifysgol Abertawe Prosbectws Ol-raddedig 2024

AR GARREG Y DRWS Ar Benrhyn Gŵyr, cei lonydd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y Deyrnas Unedig, ymlacio ar draethau arobryn ac archwilio harddwch naturiol cefn gwlad, ac mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog cwta 30 munud i ffwrdd yn y car. Mae’r rhanbarth yn cynnig rhai o leoliadau gorau’r DU ar gyfer cerdded ar lwybrau arfordirol, syrffio, beicio, chwaraeon dŵr, dringo creigiau a golff; i’r rhai sy’n mwynhau chwaraeon antur, neu os yw’n well gen ti dro hamddenol ar y traeth, mae rhywbeth at ddant pawb. SIOPA Gelli di ddewis o siopau a brandiau mawr y stryd fawr a siopau bach annibynnol, siopau arbenigol ac arcedau traddodiadol. Gelli ymweld â siopau dillad dylunwyr yn y Mwmbwls, siopa am ddillad yr oes a fu yn Uplands, neu godi cynnyrch o Gymru ym marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol y ddinas. Mae Siop Tŷ Tawe yng nghanol y ddinas yn gyfleus ar gyfer llyfrau, cardiau, anrhegion a nwyddau Cymraeg. CARTREF I DYLAN THOMAS Fel y dywedodd mab enwocaf Abertawe, Dylan Thomas: “Abertawe yw’r gorau o hyd”, a gelli ddilyn olion traed y bardd ledled y ddinas, o gaffis i dafarnau a pharciau. Er bod Abertawe yn gartref i Dylan Thomas, mae’n bwysig cofio am ein beirdd a llenorion Cymraeg sydd â chysylltiadau â’r ddinas a'r brifysgol. I enwi dim ond rhai, Grug Muse enillydd Llyfr y Flwyddyn 2022 (categori barddoniaeth), y Prifardd Tudur Hallam sy’n Athro yn yr Adran Gymraeg, Kate Bosse-Griffiths yr Eifftolegydd ac awdures, ac wrth gwrs, Saunders Lewis y dramodydd ac ysgolhaig adnabyddus.

Bannau Brycheiniog, Cymru

Y CELFYDDYDAU Mae Abertawe’n ganolfan fywiog ar gyfer celf ac mae Oriel Glynn Vivian yn cael ei chydnabod yn eang fel prif leoliad arddangosfeydd celf yn y ddinas. Mae mynediad am ddim i holl amgueddfeydd ac orielau celf cenedlaethol Cymru, felly gelli ymdrochi yn ein hanes, neu gymryd rhan yn un o’r teithiau niferus sy’n cael eu trefnu gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe. CANOLFAN Y CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton yn dangos ffilmiau'n rheolaidd, rhai poblogaidd a rhai mwy amgen eu natur. Mae ganddi gaffi a bar ac yma ceir y Ganolfan Eifftaidd arobryn sy’n gartref i gasgliad o dros 5,000 o arteffactau o’r Hen Aifft. CERDDORIAETH A GWYLIAU Mae Cymru’n enwog fel ‘gwlad y gân’ ac fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, chei di ddim dy siomi gan y dewis o gerddoriaeth sydd ar gael yn y ddinas gan gynnwys y llu o gigiau Cymraeg ar draws y ddinas ac yn Nhŷ Tawe! Mae Abertawe yn cynnal nifer o wyliau a digwyddiadau cerddorol mewn amrywiaeth o leoliadau. Mae rhai enwau mawr wedi perfformio yn Arena Abertawe newydd sbon, ym Mharc Singleton a stadiwm Swansea.com gan gynnwys: Syr Elton John, The Kooks, Kaiser Chiefs, ac Anne-Marie.

07

Made with FlippingBook - Online magazine maker