RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL
SAFLEOEDD PRIFYSGOL 2023
O’N HAMGYLCHEDD YMCHWIL SYDD WEDI’I GRADDIO’N ARWAIN Y BYD NEU’N RHAGOROL YN RHYNGWLADOL 100%
Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth am yr wybodaeth ddiweddaraf.
CROESO
Croeso cynnes i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.
Cyfleoedd am Flwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Cwrs teilwredig yn addas i’ch diddordebau a’ch nodau gyrfaol Cyngor a chymorth gyrfaol pwrpasol RYDYM YN CYNNIG:
Cyfathrebu a gweithio mewn tîm Datrys problemau Rheoli amser SGILIAU I’W CAFFAEL:
Meithrin sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwobrwyol Elwa o gymorth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:
Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol
RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL A hoffech chi rôl mewn diwydiant cyffrous ac amrywiol, sy’n falch o’i gyfleoedd gyrfaol gwych ar draws y byd? Ar ôl Covid, mae’r diwydiant teithio a thwristiaeth yn parhau i adfer yn gyflym. Mae gweithgaredd gwirioneddol fyd- eang, twristiaeth, yn dod o dan ddylanwad – ac yn cael effaith sylweddol ar – amrywiaeth o ffactorau economaidd, gwleidyddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Bydd y cwrs hwn yn archwilio’r materion hyn yn fanylach ac yn helpu i ddatblygu’r wybodaeth a’r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i arwain at newid cadarnhaol yn y diwydiant twristiaeth ac ar gyrchfannau yn lleol ac ar draws y byd. EIN GRADDAU
N800 N801 N802
Rheoli Twristiaeth Ryngwladol , BSc (Anrh) Rheoli Twristiaeth Ryngwladol , BSc (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Rheoli Twristiaeth Ryngwladol , BSc (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
Ydych chi’n chwilio am radd a fydd yn gwneud i chi sefyll allan o blith eich cystadleuwyr ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau sy’n hanfodol mewn amrywiaeth o leoliadau twristiaeth, boed hynny mewn meysydd cyhoeddus, preifat neu nid er elw? Gyda chynllunio, marchnata a rheoli effeithiau’n gyfrifol yn ganolog i’r cwrs, byddwch yn dod ar draws achosion sy’n dod â lleoliadau’n fyw. Hefyd, cewch brofiad o gyrchfannau lleol a thramor trwy amrywiaeth o ddarlithoedd gwadd ac ymweliadau maes, bob un â’r nod o’ch helpu i ddeall cymhlethdodau rheoli cyrchfan neu fenter twristiaeth.
CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol:
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/twristiaeth
TEITL Y CWRS
SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL
BAGLORIAETH RYNGWLADOL
CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC
TGAU NEU GYFWERTH
RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL , BSc (Anrh)*
Saesneg a Mathemateg Isafswm Gradd C (4)
DDM neu uwch
ABB- BBB
32-33
* gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo
Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion trwy dair Safon Uwch neu ddwy Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau. Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y mae disgwyl iddynt gael gradd B neu uwch yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig yn cael cynnig gyda gostyngiad o un radd e.e. byddai cynnig AAB yn troi’n ABB a gradd B yn y Cymhwyster Prosiect Estynedig. Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@abertawe.ac.uk .
I gael rhagor o wybodaeth, sganiwch y côd QR neu ewch i’n gwefan.
swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/twristiaeth
MODIWLAU Bydd y modiwlau sydd wedi’u rhestru isod yn rhoi blas i chi ar yr hyn y gallech ei astudio yn ein gradd BSc (Anrh.) 3 blynedd mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol. Ewch i’n gwefan am yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi o fewn y rhaglen. Mae rhestr lawn o’r holl opsiynau gorfodol a dewisol ar gyfer y cwrs penodol hwn i’w cael yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/twristiaeth
RHEOLI TWRISTIAETH RYNGWLADOL , BSC (Anrh):
Blwyddyn 1 (Lefel 4): Mae ein blwyddyn gyntaf orfodol o 120 credyd yn cynnwys 8 modiwl, bob un ohonynt yn werth 15 credyd yr un, gan ddatblygu sylfaen graidd mewn amrywiaeth o bynciau’n gysylltiedig â thwristiaeth a busnes. Busnes Twristiaeth Rheoli Pobl SEMESTER 1 Marchnata Sgiliau Allweddol ar gyfer Busnes Rheoli Gweithrediadau Rheoli yn yr Oes Ddigidol SEMESTER 2 Twristiaeth a Chymdeithas Cyd-destun Byd-eang Trefniadaethol BLYNYDDOEDD 2 A 3 (ENGHREIFFTIOL) – EWCH I DUDALEN EICH CWRS AM RESTR LAWN O’R MODIWLAU: Gan gydnabod cymhlethdodau’r diwydiant twristiaeth, mae’r cwrs yn cynnig cyfres o fodiwlau gorfodol a dewisol yn gysylltiedig â thwristiaeth yn eich ail flwyddyn a’ch blwyddyn olaf, gan ganolbwyntio ar egwyddorion allweddol twristiaeth gydag amrywiaeth o fodiwlau busnes dewisol yn eu hategu.
Ymddygiad Defnyddwyr MODIWLAU DEWISOL Marchnata Rhyngwladol
Twristiaeth ar Waith MODIWLAU GORFODOL
Sefydliadau Twristiaeth Twristiaeth Gynaliadwy Cynllunio Twristiaeth
e-Fusnes
Marchnata Digidol
Dylunio a Rheoli Profiad Ymwelwyr
Cynaliadwyedd a Rheolaeth Amgylcheddol
Entrepreneuriaeth ar gyfer Profiadau Twristiaeth
Arweinyddiaeth
• Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. • Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen . • Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/ysgol-reolaeth/rheoli-busnes
PROFIAD MYFYRWYR Cymuned:
Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!
Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn. CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS
BUDDSODDI A CHYLLID
MERCHED MEWN BUSNES
TWRISTIAETH
BUSNES
Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies
BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.
Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,
byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith
Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb
Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol
Cwblheais gyfnod yn astudio dramor, ym Mhrifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada. Y rhan orau oedd cael teithio a chyfarfod â llawer o bobl newydd. Galluogodd hynny i mi ehangu fy ngorwelion a thyfu fy rhwydwaith proffesiynol.
Byddwn y sicr oargymell y profiad; dyma oedd fy hoff ran o’m gradd.
HELENA BAILEY Prifysgol Dalhousie yn Nova Scotia, Canada
BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.
Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir.
MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.
Y profiadau a’r bobl rydw i wedi cwrdd â nhw yn ystod fy mlwyddyn mewn diwydiant fu’r rhan orau o fy lleoliad. Roeddwn i’n ffodus iawn bod yn rhan o ddau dîm anhygoel a gallu dysgu o feddyliau mor anhygoel a chael cyfleoedd a phrofiadau byddwn i fyth wedi’u cael fel arall.
ASHLEIGH CLEWER Intern Marchnata a Chynnwys ar gyfer Disney Music Group / Intern Cyhoeddusrwydd ar gyfer Searchlight Pictures
CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:
Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau
Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio
Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:
• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.
GYRFAOEDD YN Y DYFODOL MEWN TWRISTIAETH
Rheolwr Llety neu Atyniad Rheolwr neu Farchnatwr Cyrchfan Cynlluniwr neu Reolwr Digwyddiad
Darparwr Gweithgareddau Awyr Agored Cynlluniwr neu Ymgynghorydd Twristiaeth
Fe wnes i Flwyddyn mewn Diwydiant ym Microsoft ac roedd yn brofiad bendigedig! Ces i gyfle i fyw mewn ty cymdeithasol gyda saith intern arall, bob un yn gweithio i Microsoft. Roedd y rôl yn amrywiol a hyblyg tu hwnt, o reoli cyllidebau i weithredu strategaethau a rhaglenni, roedd yn gwneud y gwaith yn ddiddorol. Yn ogystal, ces i gyfle i gadeirio’r pwyllgor interniaid a mynd i nifer o ddathliadau a digwyddiadau tei du. O fy Mlwyddyn lwyddiannus mewn Diwydiant, llwyddais i sicrhau Rôl Raddedig gyda Microsoft, sy’n dechrau ym mis Medi. ˆ
MAX INGHAM Rôl Raddedig ym Microsoft
ENGHREIFFTIAU BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT
MOLLY WYATT Cwmni: Gymshark Rôl: Lleoliad Gwaith
ANGELIKA KONSTANTINOVA Cwmni: Microsoft Rôl: Rheolwr Prosiect
MEGAN ORAM Cwmni: Disney International Rôl: Intern Marchnata
CANISHA CHAKADYA Cwmni: Google Rôl: Lleoliad Gwaith Haf
CYMORTH I FYFYRWYR
Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:
Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol
Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni
Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol
Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd
Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr
ARIAN A CHYNGOR
I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu
SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Un rheswm pam roedd Rheoli Twristiaeth Ryngwladol yn berffaith i mi oedd oherwydd y cyfle i astudio dramor am flwyddyn, rhywbeth roeddwn i wastad wedi bod eisiau ei wneud ac mae’n cyd-fynd yn wych â’r radd.
CHRIS ROBERTS Myfyriwr Rheoli Twristiaeth Ryngwladol
Yn sicr byddwn i’n argymell y cwrs hwn i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudiaethau twristiaeth ac sydd eisiau datblygu eu harbenigedd. Mae’r cwrs yn cynnig amrywiaeth wych o safbwyntiau sy’n bwysig iawn i’r diwydiant twristiaeth a’i ddyfodol. Hefyd, fe wnes i wir fwynhau’r amgylchedd dysgu, a oedd yn rhan enfawr yn fy llwyddiant yn y radd hon.
JESSICA SCHWITTAY Myfyriwr Rheoli Twristiaeth Ryngwladol
YMCHWIL
Nodau ein Cyfadran a’n Hysgol yw cynhyrchu ymchwil gydweithredol, flaengar ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf ledled y byd. Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, ein cefnogwyr diwydiannol a’n myfyrwyr trwy weithio mewn partneriaeth a thrwy berthnasoedd â chyn-fyfyrwyr. O ganlyniad, mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i nifer o brosiectau ymchwil mawr sy’n chwarae rhan bwysig wrth lywio’r economi a pholisïau’r llywodraeth.
SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Hysbysu diwydiant am ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg Dylanwadu ar drafodaethau sy’n llywio polisi
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu ac mae gennym arbenigedd mewn amryw faes i helpu llywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno. Mae ein harbenigedd ym maes Rheoli Twristiaeth yn cwmpasu:
Twristiaeth Antur Twristiaeth Dreftadaeth Y Newid yn yr Hinsawdd Twristiaeth Forol
Datblygiad Twristiaeth a’i Heffeithiau Twristiaeth Gynaliadwy Eco-dwristiaeth Marchnata a Chynllunio Twristiaeth
SBOTOLAU AR YMCHWIL: YR ATHRO BRIAN GARROD, ATHRO MARCHNATA
Mae ymchwil yr Athro Brian Garrod yn canolbwyntio ar farchnata cyrchfannau twristiaeth, yn enwedig o ran materion fel cynaliadwyedd ac eco-dwristiaeth: math o dwristiaeth gynaliadwy â ffocws ar ecoleg. Mae wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau mewn cyfnodolion ac mae’n gydawdur wyth gwerslyfr ar y pwnc. Mae ymchwil bresennol Brian yn edrych ar y rhwystrau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu wrth gael at eco-dwristiaeth a’r ffordd orau o allu mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.
Gallwch ddarllen rhagor am ei ymchwil yma: www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ ein-huchafbwyntiau/cyfiawnder-a-chydraddoldeb/ecodwristiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil
CYFLEUSTERAU
YSTAFELL CYFRYNGAU: Mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i swît creu cynnwys fideo a digidol cwbl weithredol y gall pob myfyriwr yn yr Ysgol gael mynediad iddi. Mae ein Hystafell Gyfryngau yn amgylchedd perffaith i chi ddatblygu’r sgiliau digidol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ac sy’n dod yn fwyfwy defnyddiol yn y gweithle, megis: datrys problemau, creadigrwydd, llythrennedd cyfryngau cymdeithasol a pharodrwydd i ddysgu.
CANOLFAN CYFLOGADWYEDD Mae myfyrwyr yn elwa o gael mynediad i Dîm
Cyflogadwyedd pwrpasol. Mae gan y tîm hanes da o gael myfyrwyr i mewn i gyflogaeth a gallant eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau yn ogystal â chynnig cefnogaeth am 5 mlynedd ar ôl graddio. MANNAU CYMDEITHASOL AC ASTUDIO I FYFYRWYR Mae gan yr Ysgol Reolaeth amrywiaeth o fannau cynllun agored y gallwch eu defnyddio i ymlacio a chymdeithasu rhwng darlithoedd neu gael rhywfaint o amser astudio tawel. Mae socedi a phorthladdoedd trydanol lluosog, ynghyd â WiFi ym mhob rhan o’r adeilad, yn cynorthwyo mynediad i adnoddau digidol. YSTAFELLOEDD DARLITHIO A SEMINAR Mae gan ein hystafelloedd addysgu y dechnoleg addysgu ddiweddaraf, gan gynnwys technoleg recordio darlithoedd, er mwyn galluogi myfyrwyr i wylio eu darlithoedd eto ar-lein. Gallwch gael eich addysgu mewn darlithfeydd sy’n gallu cynnal mwy na 150 o fyfyrwyr, ac ystafelloedd seminar llai i hyd at 30 o fyfyrwyr, ar gyfer eich gwaith grwp a sesiynau mwy personol gyda darlithwyr a thiwtoriaid.
G
SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL
STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.
EICH CAMAU NESAF
MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.
HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.
TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.
EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £
CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!
ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.
MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.
AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.
MAI LLETY
Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.
I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk
YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau
CHWARAEON
Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:
•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian
DARPARIAETH GYMRAEG
DIWYLLIANT
Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personolsy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.
DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR
I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!
Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored
CYSYLLTWCH Â NI
Ysgol Reolaeth Campws y Bae
Abertawe SA1 8EN Cymru, DU
E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk
swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth
DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL
Chwiliwch am Prifysgol Abertawe
Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24Made with FlippingBook HTML5