YMCHWIL
Nodau ein Cyfadran a’n Hysgol yw cynhyrchu ymchwil gydweithredol, flaengar ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr gorau a disgleiriaf ledled y byd. Rydym yn meithrin cysylltiadau gydol oes â’n cymuned ymchwil, ein cefnogwyr diwydiannol a’n myfyrwyr trwy weithio mewn partneriaeth a thrwy berthnasoedd â chyn-fyfyrwyr. O ganlyniad, mae’r Ysgol Reolaeth yn gartref i nifer o brosiectau ymchwil mawr sy’n chwarae rhan bwysig wrth lywio’r economi a pholisïau’r llywodraeth.
SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Hysbysu diwydiant am ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n gysylltiedig â marchnadoedd sy’n dod i’r amlwg Dylanwadu ar drafodaethau sy’n llywio polisi
ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu ac mae gennym arbenigedd mewn amryw faes i helpu llywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno. Mae ein harbenigedd ym maes Rheoli Twristiaeth yn cwmpasu:
Twristiaeth Antur Twristiaeth Dreftadaeth Y Newid yn yr Hinsawdd Twristiaeth Forol
Datblygiad Twristiaeth a’i Heffeithiau Twristiaeth Gynaliadwy Eco-dwristiaeth Marchnata a Chynllunio Twristiaeth
SBOTOLAU AR YMCHWIL: YR ATHRO BRIAN GARROD, ATHRO MARCHNATA
Mae ymchwil yr Athro Brian Garrod yn canolbwyntio ar farchnata cyrchfannau twristiaeth, yn enwedig o ran materion fel cynaliadwyedd ac eco-dwristiaeth: math o dwristiaeth gynaliadwy â ffocws ar ecoleg. Mae wedi cyhoeddi dros 50 o erthyglau mewn cyfnodolion ac mae’n gydawdur wyth gwerslyfr ar y pwnc. Mae ymchwil bresennol Brian yn edrych ar y rhwystrau y mae pobl ag anableddau yn eu hwynebu wrth gael at eco-dwristiaeth a’r ffordd orau o allu mynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.
Gallwch ddarllen rhagor am ei ymchwil yma: www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ ein-huchafbwyntiau/cyfiawnder-a-chydraddoldeb/ecodwristiaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil
Made with FlippingBook HTML5