Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a CC

CYFRYNGAU, CYFATHREBU, NEWYDDIADURAETH A CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS

AM BROFIAD MYFYRWYR 1 (TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024) YN Y DU AF

AM FODDHAD MYFYRWYR 1 (COMPLETE UNIVERSITY GUIDE 2024) YN Y DU AF

AM ANSAWDD ADDYSGU 1 (TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024) YN Y DU AF

Rydym wedi gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir yn ddefnyddiol ac yn gywir. Roedd yr holl wybodaeth yn gywir adeg ei hargraffu. Fodd bynnag, mae’n bosib y gallai newidiadau i raglenni, lleoliad astudio, cyfleusterau neu ffioedd godi. Ewch i swansea.ac.uk/cy/diwylliant-cyfathrebu am yr wybodaeth ddiweddaraf.

CROESO

Croeso cynnes i Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe, lle mae addysgu dynamig ac ymchwil o fri yn mynd law yn llaw. Mae ein Hysgol fywiog yn dod â thîm o arbenigwyr at ei gilydd sy’n arbenigwyr yn eu meysydd, yn cyflwyno addysg o’r radd flaenaf ac ymchwil sy’n torri tir newyddl. Mae ein sefydliadau a’n rhwydweithiau ymchwil amrywiol yn mynd i’r afael â chyfres o heriau byd-eang sy’n effeithio ar gymdeithas ac yn cyfrannu at ein cenhadaeth ddinesig. Credwn mewn grym dysgu yn y byd go iawn, ac mae ein cymuned academaidd ymroddgar yn annog ein myfyrwyr i archwilio cymwysiadau ymarferol damcaniaethau academaidd, tra’n darparu cymorth sylweddol mewn darlithoedd, seminarau, ac fel tiwtoriaid personol. Mae ein myfyrwyr yn rhan annatod o’n cymuned, ac rydym yn falch o groesawu myfyrwyr o bob cefndir sy’n cyfrannu at ein diwylliant bywiog. O gynorthwyo â phrosiectau ymchwil, i gynnal cymdeithasau a threfnu digwyddiadau, caiff ein myfyrwyr gyfle i gyfrannu’n weithgar at ein cymuned, gan greu cysylltiadau ystyrlon ag unigolion o’r un anian. Ein nod yw darparu profiad dysgu eithriadol sy’n meithrin rhagoriaeth, yn eich galluogi i feddwl yn annibynnol, ac yn eich paratoi ar gyfer eich dewis lwybr gyrfa. P’un a fyddwch chi’n troi’r tudalennau, yn mynd i’n gwefan, neu’n dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol, rwy’n gobeithio y gallwn eich ysbrydoli i astudio yn Abertawe ar gwrs sy’n gweddu i chi.

Cyfleoedd Blwyddyn Dramor a Blwyddyn mewn Diwydiant Cyfleoedd Semester Dramor Cyfleoedd Interniaeth Hyfforddiant gan Weithwyr Proffesiynol y Diwydiant. RYDYM YN CYNNIG:

Meddwl yn feirniadol a dadansoddi Dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol o Newyddiaduraeth, Ffilm, Cysylltiadau Cyhoeddus a’r cyfryngau chwaraeon Cyfathrebu a gwaith tîm, creu cynnwys amlgyfrwng ymarferol Sgiliau marchnata a strategaeth brand SGILIAU I’W CAFFAEL:

Meddu ar sgiliau ar gyfer gyrfaoedd gwerth chweil Manteisio ar gefnogaeth ac arweiniad helaeth Cymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau ac ymchwil yr Ysgol MAE EIN MYFYRWYR YN:

Yr Athro Ryan Murphy Deon Gweithredol y Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol

CYFRYNGAU, CYFATHREBU, NEWYDDIADURAETH A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS Mae adran Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe yn cynnig rhaglenni gradd sy’n cwmpasu ystod lawn o lwybrau cyfryngau a chyfryngau digidol, gyda hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a staff academaidd o fri byd-eang. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith a rhaglen weithredol o weithdai a seminarau gyda siaradwyr gwadd. EIN GRADDAU

P300 P304 P407 P302

Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar y cwrs hwn, cewch archwilio ymarfer cyfryngau creadigol, cynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata, gan agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous i chi yn y sector hwn sy’n datblygu’n gyflym. Rydym yn cynnig strwythur gradd hyblyg gydag ystod eang o fodiwlau arbenigol, gan gynnwys: ysgrifennu ffuglen, cynhyrchu ffilmiau, cysylltiadau cyhoeddus digidol a strategaeth, marchnata a brandio. Mae’r rhaglenni hyn yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i’ch nodau gyrfa yn y dyfodol tra’n datblygu eich diddordebau unigol.

P500 P502 P50I

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Nod y rhaglen hon yw eich arfogi â set o sgiliau dadansoddol, ymarferol a chyflogadwyedd tair-ffordd, a fydd yn eich helpu i ymuno â’r farchnad swyddi graddedigion yn haws. Y tu hwnt i thema graidd newyddiaduraeth, byddwch yn cael cyfleoedd i archwilio arfer y cyfryngau creadigol, cyfryngau digidol a chymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, theori cyfryngau, cyfraith y cyfryngau, chwaraeon a ffilm.

PP23 PP24 PP47 PP22

Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Archwiliwch fydoedd Cysylltiadau Cyhoeddus ac ymarfer cyfryngau creadigol ar y cwrs hwn, sy’n achrededig gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, gan agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous i chi yn y sector hwn sy’n datblygu’n gyflym. Mae ein staff addysgu yn cynnwys ymchwilwyr rhyngwladol arbenigol ynghyd â staff sydd â phrofiad proffesiynol ar draws meysydd cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, brandio, cynhyrchu fideos, dylunio gwe a chreadigol a newyddiaduraeth, gan roi cymysgedd heb ei ail i chi o brofiad academaidd a diwydiannol.

P360 P36A P36I P36F

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae’r rhaglen radd hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel crëwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol, ar draws y cyfryngau chwaraeon cyfoes.

Mae’r cwrs hynod ymarferol hwn yn eich galluogi i astudio pynciau fel newyddiaduraeth chwaraeon, sylwebaeth chwaraeon, a hyrwyddo chwaraeon. Trwy’r astudiaeth ddamcaniaethol o ffandom, newyddiaduraeth chwaraeon, hunaniaeth genedlaethol a naratifau chwaraeon, byddwch yn gweld sut mae ein diddordeb parhaus mewn chwaraeon wedi llywio’r dirwedd gyfryngol.

QP5H QP5J QP5I

Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh) Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae’r BA (Anrh) Cymraeg, Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus yn cyfuno dwy ddisgyblaeth ac yn darparu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a sgiliau sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau. Ar y cwrs gradd BA cyd-anrhydedd hwn, byddwch yn dysgu am lenyddiaeth, iaith a diwylliant Cymru tra hefyd yn archwilio meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i astudio amrywiaeth eang o lenyddiaeth gan gynnwys dramâu, straeon byrion a nofelau, yn ogystal â barddoniaeth o’r traddodiad canoloesol i eiriau barddoniaeth brotest fodern.

Cymraeg

Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Iaith Saesneg a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

PQ91 PQ00 PQ9I

Mae astudio’r Iaith Saesneg a’r Cyfryngau yn rhoi cyfle i chi archwilio sut mae iaith yn cael ei defnyddio a sut mae cymdeithasau’n cyfathrebu, ochr yn ochr ag agweddau amrywiol ar ymarfer cyfryngau creadigol, gan gynnwys radio, fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata. Mae ein graddedigion Iaith Saesneg a’r Cyfryngau yn cael eu cyflogi ledled y byd. Mae ganddynt yrfaoedd mewn newyddiaduraeth, y cyfryngau, busnes, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, marchnata digidol, darlledu, teledu a radio, cyhoeddi ac addysgu.

(COMPLETE UNIVERSITY GUIDE 2024) 8 fed (TIMES GOOD UNIVERSITY GUIDE 2024) 11 eg (GUARDIAN UNIVERSITY GUIDE 2024) 3 ydd

YN Y DU AM RAGOLYGON GRADDEDIGION - CANLYNIADAU

YN Y DU AR GYFER CYFATHREBU A’R CYFRYNGAU

YN Y DU AM FODDHAD ADDYSGU

Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QP33 QP34 QP31

Bydd ein rhaglen BA Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg yn cyfuno sgiliau cyfryngol ymarferol ynghyd ag archwilio llenyddiaeth ac ysgrifennu.

Byddwch yn archwilio theori a thechnegau sy’n berthnasol i gyfryngau modern ac ymarfer digidol, gan gynnwys cynhyrchu radio a fideo, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, theori’r cyfryngau, cyfraith y cyfryngau a ffilm. Byddwch hefyd yn astudio ystod eang o genres llenyddiaeth sy’n ymestyn o’r Oesoedd Canol i ffuglen gyfoes, ysgrifennu proffesiynol creadigol, rhywedd a diwylliant, barddoniaeth, a llenyddiaethau cenedlaethol a byd-eang.

Y Cyfryngau a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) Y Cyfryngau a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QP53 QP54

QP55

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio’r gwahanol agweddau ar iaith, llenyddiaeth, bywyd a diwylliant Cymru ochr yn ochr ag astudio’r Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, yna hon yw’r radd i chi. Mae ein rhaglen radd Cyfryngau a Chymraeg yn cynnig y cyfle i chi ennill sylfaen gadarn mewn iaith a llenyddiaeth gyda chyfle i arbenigo mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac ieithyddiaeth gymdeithasol.

Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth gref o hanes a theori ym meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o arferion cyfredol ac esblygol a’r effaith y maent yn ei chael ar gymdeithas a byd busnes.

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/cyfryngau- cyfathrebu-newyddiaduraeth-cysylltiadau-cyhoeddus/ I gael rhagor o wybodaeth, sganiwch y côd QR neu ewch i’n gwefan.

CANLLAW I OFYNION MYNEDIAD Byddwn yn ystyried eich cais ac yn defnyddio eich cyflawniad blaenorol, datganiad personol UCAS, graddau disgwyliedig, geirda a’ch cyfuniad o bynciau i osod telerau pob cynnig. Mae’r tabl isod wedi’i fwriadu fel trosolwg a chanllaw. Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am ofynion mynediad i’ch cwrs penodol: swansea.ac.uk/cy/ israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/cyfryngau-cyfathrebu-newyddiaduraeth-cysylltiadau-cyhoeddus/

TEITL Y CWRS

SAFON UWCH NEU GYNNIG CYFATEBOL

BAGLORIAETH RYNGWLADOL

TGAU NEU GYFWERTH

CYNNIG NODWEDDIADOL CYFATEBOL BTEC

Y CYFRYNGAU A CHYFATHREBU, BA (Anrh)* NEWYDDIADURAETH, Y CYFRYNGAU A CHYFATHREBU, BA (Anrh)* CYSYLLTIADAU CYHOEDDUS A’R CYFRYNGA, BA (Anrh)* CHWARAEON, Y CYFRYNGAU A DIWYLLIANT, BA (Anrh)*

N/A

ABB-BBC

DDM-DMM

32-33

IAITH SAESNEG A’R CYFRYNGAU, BA (Anrh)*

Y CYFRYNGAU A LLENYDDIAETH SAESNEG, BA (Anrh)* CYMRAEG, CYFRYNGAU A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS, BA (Anrh)*

ABB-BBC

DDM-DMM TGAU o leiaf gradd C (4) Cymraeg angenrheidiol.

32-33

Bydd angen Cymraeg Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Cymraeg Ail Iaith ond nid ar gyfer Siaradwyr Cymraeg Iaith Gyntaf.

Y CYFRYNGAU A’R GYMRAEG (LLWYBR AR GYFER MYFYRWYR AIL IAITH), BA (Anrh)*

* gyda Blwyddyn Dramor neu Flwyddyn mewn Diwydiant, neu hebddo

Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau disgwyliedig a’ch dewis o gwrs, efallai y byddwn yn cynnig lle i chi ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall - a bydd cwblhau’r cwrs yn arwain at Flwyddyn 1 o’ch dewis gwrs. Dysgir y flwyddyn sylfaen hefyd ar Gampws Singleton. Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.

Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B.

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@swansea.ac.uk .

ACHREDU PROFFESIYNOL

Mae ein graddau Cysylltiadau Cyhoeddus wedi’u hachredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus ac yn cael eu haddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant.

MODIWLAU Bydd y modiwlau a restrir isod yn rhoi blas i chi o’r hyn y gallech ei astudio ar ein gradd 3 blynedd Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh). Mae pob gradd yn cynnig modiwlau amrywiol. Ewch i’n gwefan i weld yr opsiynau manwl sydd ar gael i chi o fewn eich cwrs. Mae rhestr lawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol ar gyfer eich cwrs penodol i’w gweld yma: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/cyfryngau-cyfathrebu-newyddiaduraeth- cysylltiadau-cyhoeddus CYFRYNGAU A CHYFATHREBU, BA (Anrh) Rhennir y modiwlau ar gyfer y cwrs hwn yn 7 llwybr unigryw; Diwylliant y Cyfryngau, Cyfryngau Digidol, Newyddiaduraeth, Ffilm, Chwaraeon, Cysylltiadau Cyhoeddus ac Ymarfer Creadigol. Gall myfyrwyr ddilyn pa bynnag lwybr sy’n cyd-fynd â’u diddordebau a’u hamcanion, neu gallant ddewis cymysgedd o fodiwlau o’r llwybrau i ennill amrywiaeth o sgiliau. Gallwch astudio 80 credyd neu fwy o’r cwrs hwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pob blwyddyn o’r cwrs yn cynnwys modiwlau cyfrwng Cymraeg pwrpasol o fewn pob llwybr.

Blwyddyn 1 (Lefel 4): 120 credyd yn cynnwys 6 modiwl 20 credyd. Byddwch yn astudio pedwar modiwl gorfodol ym mlwyddyn 1. Dau yn Semester 1 a dau yn Semester 2.

Cyflwyniad i Hanes y Cyfryngau SEMESTER 2 MODIWLAU GORFODOL

SEMESTER 1 MODIWLAU GORFODOL

Cyflwyniad i Gyfathrebu yn y Cyfryngau Cyflwyno a Datgodio’r Newyddion

Yna byddwch yn dewis un modiwl dewisol ar gyfer Semester 1 ac un modiwl dewisol ar gyfer Semester 2.

SEMESTER 2 MODIWLAU DEWISOL

SEMESTER 1 MODIWLAU DEWISOL

Llwyfannau Cyfryngau Creadigol Hollywood: Hanes Ffilm Americanaidd

Cyflwyniad i Astudiaethau Ffilm

Goresgyniad Cae: Chwaraeon a’i Effaith ar Gymdeithas

Sgiliau Cyfryngau Allweddol

Dadwybodaeth, Ideoleg a Thuedd: Ymchwilio ac Archwilio Data Gwleidyddol Cysylltiadau Cyhoeddus: Cyfathredu Strategol

• Ewch i dudalen eich cwrs am restrau cyflawn o’r holl fodiwlau gorfodol a dewisol sydd ar gael: swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/cyfryngau-cyfathrebu- newyddiaduraeth-cysylltiadau-cyhoeddus/

Blwyddyn 2 (Lefel 5): 120 credyd yn cynnwys 6 modiwl 20 credyd. Byddwch yn astudio un modiwl gorfodol Yn Semester 1 – Damcaniaethu’r Cyfryngau. Yna byddwch yn dewis dau fodiwl dewisol yn Semester 1 a thri yn Semester 2.

Ymarfer Cyfryngau Creadigol SEMESTER 2 MODIWLAU DEWISOL

Astudio Cyfryngau Digidol SEMESTER 1 MODIWLAU DEWISOL Cyflwyniad i Gynhyrchu Ffilm

Addasiad: Adrodd Storïau Ar Draws y Cyfryngau

Datblygiad Proffesiynol: Paratoi ar gyfer Gwaith Diwylliannau Cyfryngau Cymdeithasol Camwybodaeth, Newyddion Ffug a Gwirio Ffeithiau Ymchwilio Testun, Proses a Chynulleidfaoedd Theori Cysylltiadau Cyhoeddus ar Waith Cyfraith y Cyfryngau Dulliau o Ddadansoddi Ffilm Diwylliant Pop a Genres Newyddion Amgen Datblygiad Proffesiynol: Paratoi ar gyfer Gwaith Testunau Trawsgyfryngol Sgiliau Cyfryngau Ymarferol Cyfathredu Digidol

Blwyddyn 3 (Lefel 6): 120 credyd yn cynnwys 6 modiwl 20 credyd. Byddwch yn astudio tri modiwl dewisol yn Semester 1 a Semester 2.

SEMESTER 1 MODIWLAU DEWISOL

SEMESTER 2 MODIWLAU DEWISOL

Cyfryngau a Hunaniaethau: Rhyw a Hil

Dyfodol Digidol

Paratoi Traethawd Hir

Technolegau Gwe Ymarferol

Ffilmiau Dogfen a Ffuglen Drama a Dogfen ar y Sgrin Adrodd ar yr 21ain Ganrif

Gwneud Newyddiaduraeth Ddigidol

Traethawd Hir

Ffuglen Wyddonol a’r Cyfryngau

Cysylltiadau Cyhoeddus Chwaraeon Cynllunio Cynhyrchiad Aml-blatfform

Ffilm a Theledu Cyfoes Testunau Trawsgyfryngol

Nofel Graffig

Creu Cynhyrchiad Aml-Blatfform

• Gallai dewis modiwlau dewisol fod yn amodol ar astudio gofynnol ar lefel is. • Gellir diweddaru cynnwys cyrsiau a modiwlau yn amodol ar newid – gweler ein Hymwadiad Rhaglen yn swansea.ac.uk/cy/astudio/ymwadiad-rhaglen .

BLWYDDYN DRAMOR Mae astudio dramor am flwyddyn yn gyfle i brofi diwylliannau newydd, cyfarfod â phobl newydd o bob cwr o’r byd a datblygu meddylfryd byd-eang i baratoi ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Mae gan Gyfadran Y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol nifer o sefydliadau partner rhyngwladol lle gall myfyrwyr astudio am flwyddyn academaidd lawn. Gallai cyrchfannau gynnwys Gogledd America, Ewrop neu Ddwyrain a De Ddwyrain Asia.

Mae ein graddau Blwyddyn Dramor yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn astudio dramor. Yn ystod eich blwyddyn dramor,

byddwch yn talu ffioedd dysgu â 15% o ostyngiad o ffioedd safonol Prifysgol Abertawe ac nid oes unrhyw ffioedd dysgu yn daladwy i’r brifysgol letyol. Mae cyfleoedd cyllid ar gael gan dîm Mynd yn Fyd-eang (Go Global), hefyd. Sylwer, nid yw cofrestru ar raglen gyda blwyddyn dramor yn rhoi sicrwydd i chi y byddwch yn cael lleoliad blwyddyn dramor. Os na fyddwch yn sicrhau lleoliad, byddwch yn cael eich trosglwyddo i amrywiolyn safonol eich cynllun gradd heb flwyddyn dramor. BETH YW MANTEISION BLWYDDYN DRAMOR? Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi graddedigion sydd â phrofiad rhyngwladol. Byddai gallu addasu i amgylchoedd newydd a dysgu sgiliau bywyd pwysig tra’n astudio dramor o bosibl yn eich rhoi ar frig y gystadleuaeth pan fyddwch yn graddio. Datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol Annibyniaeth Datblygiad iaith

Mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr at eich CV Astudio mewn lleoliad sy’n cael ei adnabod fel hyb dysgu yn eich maes diddordeb

Paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol Datblygiad proffesiynol a phersonol

Rwyf wedi gwneud ffrindiau am oes ac yn bwriadu ymweld â phob un ohonynt rywbryd yn y dyfodol, o’r Almaen yr holl ffordd i El Salvador. Ochr yn ochr â hyn darganfyddais lawer amdanaf fy hun, o ran fy ngallu i fod heb fy ffrindiau a fy nheulu a dal i fod yn gwbl fodlon. Fy nghyngor i ddarpar fyfyrwyr sydd am astudio dramor yn y dyfodol fyddai i achub ar y cyfle 100%. Nid wyf wedi difaru’r penderfyniad ar unrhyw adeg, a byddwn yn gwneud blwyddyn arall pe gallwn!

BETHAN WILLIAMS Blwyddyn Dramor: Ecole Superieure de Commerce de Rennes, Ffrainc

BLWYDDYN MEWN DIWYDIANT Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn swydd yn ystod eich astudiaethau, ac mae ar gael i fyfyrwyr israddedig sy’n astudio graddau Economeg yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Bydd yn rhoi profiad gwerthfawr i chi yn y byd gweithio go iawn, a bydd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau a fydd yn eich gwneud yn ymgeisydd deniadol ar gyfer swyddi ar ôl graddio. Mae ein graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni gradd pedair blynedd, lle byddwch yn treulio’ch trydedd flwyddyn yn gweithio mewn diwydiant.

Mae’r lleoliad 12 mis yn gysylltiedig â chredydau (yn werth 120 credyd), rhan asesedig o raglen gradd 4 blynedd. Mae hyn yn golygu y bydd eich perfformiad ar yr asesiad a chwblhau’r lleoliad yn effeithio ar eich dosbarthiad gradd terfynol, yn union fel y byddai blwyddyn o fodiwlau a addysgir. MAE EIN CYSYLLTIADAU Â CHYFLOGWYR YN CYNNWYS Er mai cyfrifoldeb y myfyriwr yw sicrhau lleoliad, rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau sy’n darparu ystod o gyfleoedd lleoli. Os na allwch chi sicrhau lleoliad erbyn diwedd ail flwyddyn eich astudiaethau, byddwch yn trosglwyddo i’r rhaglen radd gyfatebol.

Tra ar fy lleoliad gwaith yn ystod fy Mlwyddyn mewn Diwydiant, esblygais yn llwyr fel unigolyn ac fel gweithiwr proffesiynol. Datblygais gymaint o sgiliau gwerthfawr ac fe gynyddodd fy hyder! Newidiais yn llwyr o fod yn berson swil i fod yn fenyw hyderus, annibynnol a phenderfynol. Dysgais sgiliau craidd newydd fel rhwydweithio a chefais brofiad mewn amgylchedd proffesiynol fel: gweithio ar sesiynau tynnu lluniau, dod yn rhan o dîm, ac arwain cyfarfodydd ar draws Ewrop! Byddwn yn argymell y cwrs hwn i ddarpar fyfyrwyr. Mae’n radd mor hwyliog, ymarferol sy’n darparu cymaint o fewnwelediadau defnyddiol ac mae’r gefnogaeth gyson a ddarperir gan y darlithwyr mor galonogol.

CARYS EVANS Cyfryngau Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, Prif Swyddfa McArthurGlen Llundain

CYFLOGADWYEDD Mae ein myfyrwyr yn elwa ar allu troi at Dîm Cyflogadwyedd ymroddgar. Eir ati i hyrwyddo cyflogadwyedd ac mae’n ffocws pwysig trwy gydol eich astudiaethau. Mae gan y tîm hanes o gael swydd i fyfyrwyr ac yn cynnig cymorth am 5 mlynedd ar ôl graddio. Maent yn helpu â’r canlynol:

Ceisiadau Diwrnodau mewnwelediad Interniaethau

Technegau cyfweld Mentora Rhwydweithio

Swyddi rhan-amser Blwyddyn mewn Diwydiant

Mae nifer o gyfleoedd i ddatblygu’ch cyflogadwyedd trwy gydol eich profiad myfyriwr, er enghraifft:

• SPIN (Rhwydwaith Interniaeth am Dâl Abertawe), sy’n cynnig interniaethau am dâl o fewn y Brifysgol a gyda chyflogwyr allanol ar ystod o wahanol brosiectau. • Rolau Teilwredig Blwyddyn mewn Diwydiant ac i Raddedigion gyda chwmnïau lleol a ledled y wlad. • Ffug gyfweliadau gyda chyflogwyr go iawn sy’n darparu adborth personoledig. • Bwrsarïau sydd ar gael bob blwyddyn i ddarparu profiad gwaith am dâl i fyfyrwyr, fel Bwrsarïau Cyllid Santander.

GYRFAOEDD YN Y DYFODOL YN Y CYFRYNGAU, CYFATHREBU, NEWYDDIADURAETH A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS

Hysbysebu Busnes Marchnata Digidol

Newyddiaduraeth Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata

Cyhoeddi Teledu a Radio

Mwynheais yn fawr fy astudiaethau Israddedig ac Ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd y sgiliau a’r wybodaeth a gefais yn ystod fy amser yn Abertawe wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer fy ngyrfa i’r dyfodol. Mae llawer o gwmnïau angen gweithwyr cyflogedig i fod yn aml-sgil. Fe wnaeth y sgiliau fideo a dylunio a ddysgwyd ar fy nghwrs fy helpu i sicrhau rolau cynnar ac maent yn dal i fod yn werthfawr yn fy rôl bresennol.

HARRISON ANDREWS Graddedig o’r Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu. Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfathrebu, Rygbi’r Gweilch

CYFLEUSTERAU

Bydd gennych fynediad i ystod o gyfleusterau anhygoel yn yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu i gefnogi eich astudiaethau gan gynnwys: YSTAFELL A STIWDIOS CREADIGRWYDD CYFRYNGAU Mae ein Campysau yn gartref i ystafelloedd a stiwdios creu cynnwys fideo a digidol lluosog, gyda chyfleusterau cynhyrchu clyweledol gydag ystafelloedd golygu sgrin werdd a fideo. CANOLFAN CELFYDDYDAU TALIESIN Mae Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar y campws, sy’n cynnwys Creu Taliesin, yn darparu theatr ddeinamig, sinema, a gofodau creadigol cynhwysol. LABORDY REALITI RHITHWIR A GEMAU Datblygwch eich sgiliau Realiti Rhithwir a hapchwarae yn ein labordy pwrpasol sydd ag offer llawn.

SYLWADAU GAN FYFYRWYR

Fel myfyriwr rhyngwladol o Fietnam, rhoddodd y cwrs meistr blwyddyn unigryw hwn ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol i mi gan gynnwys gwneud fideos, dylunio graffeg,

ysgrifennu proffesiynol, a chyfryngau digidol, a bydd pob un ohonynt yn hynod ddefnyddiol yn y gweithle. Gwnaeth yr athrawon, yr adnoddau a’r offer sydd ar gael yn y brifysgol argraff ddofn arnaf, yn ogystal â’r llu o weithgareddau allgyrsiol diddorol a gynigir. Mwynheais bob eiliad o astudio yma yn Abertawe.

HILARY NGUYEN Cyfathrebu, Ymarfer Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, MA

Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd bod yn rhan o amgylchedd prifysgol mor wych a chefnogol yn ychwanegu at y profiad ac yn gwneud fy nhrosglwyddiad cyffredinol gymaint â hynny’n llyfnach. Fe wnes i ymdrochi’n llwyr yn y cwrs, y brifysgol a’r ddinas ac es ymlaen i gwblhau astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig yn adran y cyfryngau. Rwyf nawr yn defnyddio fy sgiliau a phrofiad, ac yn gweithio gyda Sefydliad Diwylliannol y brifysgol. Mae dewis Prifysgol Abertawe wedi rhoi rhai o gyfleoedd gorau fy mywyd i mi.

SIDARTH DAMODAR Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh)

Rhoddodd y radd Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Abertawe drosolwg i mi o’r diwydiant cyfryngau cyfan, ond yr allwedd i mi oedd y modiwl interniaeth yn fy mlwyddyn olaf, a alluogodd i mi weithio’n fewnol gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe i wneud interniaeth blwyddyn lawn, a arweiniodd at rôl amser llawn gyflogedig. Dewisais Brifysgol Abertawe oherwydd y rhagolygon gyrfa ac roedd y cyfleoedd a gyflwynwyd gan y brifysgol yn anhygoel.

SOPHIE DAVIS Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh)

Ni allaf fynegi pa mor wirioneddol hapus yr wyf fy mod wedi dod i Brifysgol Abertawe. Mae’r lle hwn wedi fy helpu i ddatblygu ar lefel bersonol, i fyfyrio ar fy nodau ac mae wedi fy mireinio fel person. Enillais hyder, annibyniaeth a deuthum yn berson gwell i mi fy hun a fy nheulu. Fe wnes i hefyd ffrindiau am oes a chefais brofiadau a fydd yn aros yn fy nghalon am byth.

VICTORIA FARROW Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh)

Mae gen i lawer o atgofion da o fy amser yn Abertawe. Gallaf wirioneddol ddweud fy mod wedi adeiladu cymuned gref o ffrindiau yn ystod fy amser yn Abertawe. Trwy fy rhaglen MA, roeddwn yn gallu ennill llawer o’r sgiliau caled a meddal y byddwn eu hangen ar gyfer gyrfa mewn cyfathrebu a marchnata brand. Rwy’n teimlo bod y cwrs wedi fy helpu i baratoi ar gyfer fy swydd gyntaf lefel mynediad mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a arweiniodd wedyn at fy rôl bresennol, Arbenigwr ar y Cyfryngau Cymdeithasol a Chreuwr Digidol ar yr Economi i Instagram.

CAMERON VEASEY Cyfathrebu, Ymarfer Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, MA

PROFIAD MYFYRWYR

Cymuned: Mae digonedd yn digwydd bob amser o fewn cymuned y Gyfadran. Yn ystod yr Wythnos Groeso, byddwch yn cael cyfleoedd i greu cysylltiadau a chymdeithasu â phobl ar eich cwrs. Yn ein digwyddiadau cymdeithasol, mae myfyrwyr wedi mwynhau rhyngweithio ag anifeiliaid ecsotig, dysgu am ddiwylliant Cymru, dawnsio trwy’r nos yn ein Dawnsfeydd Ysgol, a chymryd rhan mewn sesiynau crefft, nosweithiau gemau, chwaraeon, a mwy!

EFFAITH GYMDEITHASOL 100 YN Y UCHAF

IECHYD A LLES

Llais y Myfyriwr: Mae’r Bartneriaeth yn crynhoi ein gweledigaeth ar gyfer sut i weithio gyda’r holl fyfyrwyr

i wella’u profiad a’u helpu i wneud y gorau o’u cyfnod yn y Brifysgol; mae’r System Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn rhan allweddol o hyn. Fel Cynrychiolydd Myfyrwyr, rydych chi’n sefyll mewn etholiadau i gynrychioli eich carfan a gweithio gyda staff ar draws yr Ysgol i ddarparu adborth adeiladol a gwneud i newid ddigwydd. Cymuned Ddysgu: Fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, rydych chi’n ymuno â chymuned ddysgu gyfoethog ac amrywiol. Ein nod yw darparu cyfleoedd a fydd nid yn unig yn ymestyn dealltwriaeth o’ch maes pwnc eich hun, ond hefyd yn creu cysylltiadau â phynciau eraill, ac yn eu harchwilio. Fel rhan o hyn, rydym wedi cynnal cyfres o seminarau ymchwil integredig, nosweithiau ymchwil dan arweiniad myfyrwyr, a sesiynau blasu pynciau. Rydym hefyd yn hyrwyddo’r ffyrdd amrywiol y gall myfyrwyr gymryd rhan yn eu hymchwil eu hunain, a gwneud eu hymchwil eu hunain. Gofalu Amdanoch Chi’ch Hun: Mae gofalu amdanoch chi’ch hun yn hollbwysig ac rydym ni bob amser yn ceisio datblygu mentrau i dargedu lles myfyrwyr yn gyfannol. Trwy gydol y flwyddyn, rydym yn anfon gohebiaeth â themâu sy’n cyfeirio myfyrwyr at gymorth ac adnoddau pan fydd eu hangen arnynt fwyaf. Rydym yn cynnal ystod o ddigwyddiadau i helpu myfyrwyr i gael seibiant ac ymlacio, fel brecwastau ‘Cydio a Mynd’ yn ystod cyfnod arholiadau, a boreau coffi rheolaidd. Rydym hefyd yn cynnal sesiynau rhagweithiol fel Gweithdai Hunanwydnwch a Llwyddo mewn Arholiadau i helpu myfyrwyr i fod mor barod ag y bo modd wrth agosáu at gyfnodau mwy dwys a phrysur o’r flwyddyn.

CYMDEITHASAU SYDD AR GAEL YN CYNNWYS

CYFRYNGAU ASTUDIAETHAU

ABERTAWE CYFRYNGAU MYFYRWYR

FFILM

Am ragor o wybodaeth am gymdeithasau ewch i: swansea-union.co.uk/get_involved/societies

CYMORTH I FYFYRWYR

Mae gan y Gyfadran dîm dynodedig Profiad Myfyrwyr a Gwybodaeth i Fyfyrwyr wrth law, sydd wedi’i leoli ar draws Campysau Singleton a’r Bae i ddarparu arweiniad a chymorth proffesiynol, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, ar draws sawl maes allweddol, gan gynnwys:

Cynorthwyo myfyrwyr trwy’r Wythnos Groeso a’r Cyfnod Sefydlu Trefnu gweithgareddau ymgysylltu â myfyrwyr a digwyddiadau cymdeithasol

Cynorthwyo ag ymholiadau am amserlenni

Arwain a phrosesu ceisiadau newid mewn amgylchiadau, sy’n cynnwys: atal astudiaethau, trosglwyddiadau rhaglen a rhoi’r gorau i ddilyn rhaglenni Cysylltu â gwasanaethau cymorth canolog i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cynorthwyo’n effeithiol

Gweithio’n agos gyda myfyrwyr a mentoriaid academaidd

Cynorthwyo myfyrwyr trwy broses monitro ymgysylltu’r Brifysgol a mynd i’r afael â hyn i sicrhau bod y tîm yn gallu darparu cymorth proffesiynol a theilwredig pan fydd myfyrwyr yn wynebu heriau Cyfarfodydd 1:1 gyda myfyrwyr wyneb yn wyneb neu ar-lein ynglyn â materion personol neu academaidd Cynorthwyo myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol trwy’r broses ffurfiol, ar gyfer gwaith cwrs, profion dosbarth, profion ar-lein, arholiadau, ac ati Cynorthwyo myfyrwyr ag anableddau, a’u rhoi mewn cysylltiad â Swyddfa Anabledd y Brifysgol

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i: swansea.ac.uk/cy/astudio/adran- gwasanaethau-cymorth-i-fyfyrwyr

ARIAN A CHYNGOR

I gael mwy o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i chi, ewch i’n gwefan: swansea.ac.uk/cy/arian- bywydcampws At ei gilydd, mae angen disgyblaeth, trefn a pharodrwydd i ofyn am gymorth pan fydd angen wrth reoli arian fel myfyriwr israddedig. Gyda chymorth tîm Money@CampusLife Prifysgol Abertawe, gallwch chi gymryd rheolaeth dros eich cyllid a chanolbwyntio ar eich nodau academaidd a phersonol. Fel myfyriwr israddedig ym Mhrifysgol Abertawe, mae’n bwysig blaenoriaethu cynllunio a rheolaeth ariannol yn gynnar ar ddechrau eich taith academaidd. Yn ffodus, mae tîm Money@CampusLife arobryn y Brifysgol yma i helpu. Er nad oes sicrwydd o gael cymorth ariannol bob amser, dyma rai meysydd y gall ein tîm eich cynorthwyo â nhw: Cyllidebu Bwrsarïau a gwobrau arbennig Rhoi’r gorau / atal / trosglwyddo / ail-wneud cyrsiau gradd Caledi ariannol Gwybodaeth cyn cyrraedd a gwybodaeth i fyfyrwyr newydd Cyllid myfyrwyr Student+, sef cymorth ariannol ar gyfer myfyrwyr sydd ag ystyriaethau ychwanegol, fel bod yn ofalwr, rhywun sy’n gadael gofal neu rywun sydd wedi ymbellhau oddi wrth eu teulu

YMCHWIL

Ein nodau fel Cyfadran ac Ysgol yw cynhyrchu ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob cwr o’r byd. Mae gan yr adran Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus ddiwylliant ymchwil bywiog gyda meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar Ffilm, y Dyniaethau Digidol, Cyfryngau Digidol, y Cyfryngau a Chyfathrebu, Sgrinio a Llwyfannu a mwy.

SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Cynnal ymchwil sy’n helpu i ffurfio polisi Gwella Hygyrchedd Digidol Ymchwil i Ddylanwad y Cyfryngau ar Wleidyddiaeth Deall effaith technolegau newydd a datblygol

ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno i chi. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:

Darlledu yng Nghymru Hanesyddiaeth Ffilm Ffeminyddol Cyfathrebu mewn Argyfwng a Diwylliant Archifau Ffilm Hygyrchedd Digidol

Sylw yn y Cyfryngau ar Wleidyddiaeth ac Etholiadau Cyfryngau Digidol a’r Metafyd Moeseg Cysylltiadau Cyhoeddus Sinema Ewropeaidd, Dwyrain Ewrop a Phrydain Cyfathrebu Chwaraeon

SBOTOLAU AR YMCHWIL: DR YAN WU, ATHRO CYSWLLT YN Y CYFRYNGAU

Mae ymchwil Dr Yan Wu yn canolbwyntio ar ddau brif faes - cyfryngau a chyfathrebu Tsieineaidd a chynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae’r olaf yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau cyfathrebol i bobl â nam ar y synhwyrau yn yr oes ddigidol, gan gefnogi’r ymgyrch barhaus dros gydraddoldeb cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru, elusennau, a chymunedau â nam ar y synhwyrau, ac mae wedi cynhyrchu tystiolaeth gref o effaith uniongyrchol ar bolisi. Cymerodd Dr Yan Wu ran yng nghyfres dau o gyfres Podlediad Problemau Byd-eang Prifysgol Abertawe gan rannu ei hymchwil arloesol. Sganiwch y cod QR a gwrandewch ar Dr Yan yn trafod addysg ddigidol, gan gynnwys sut i ddod yn ddinasyddion digidol hyderus a galluog mewn byd cyfrifiadurol sy’n cael ei yrru gan ddata; sut mae addysg ddigidol yn cefnogi gwaith ehangach ar draws yr economi ddigidol, seilwaith, cymdeithas a diwylliant; a materion cynhwysiant a hygyrchedd, ac yn enwedig mynediad pobl â nam ar y synhwyrau at gyfryngau digidol yng Nghymru a’r defnydd ohonynt.

SUT I YSGRIFENNU DATGANIAD PERSONOL

STRWYTHUR YW POPETH Cyn i chi ddechrau, cofnodwch y strwythur ar gyfer y datganiad personol. Byddem ni bob amser yn awgrymu’r canlynol: • Paragraff agoriadol yn amlinellu’ch angerdd dros y pwnc a’ch ymdrech i lwyddo • Eich astudiaethau academaidd a phrofiad gwaith • Diddordebau / hobïau 1 PARAGRAFFAU AGORIADOL CRYF Mae paragraffau a brawddegau agoriadol yn bwysig iawn, ond byddwch yn ymwybodol ein bod yn gweld miloedd ohonynt, ac mae llawer o linellau agoriadol yn cael eu gorddefnyddio, gan gynnwys: • ‘O oedran ifanc, rwyf wedi cael diddordeb erioed mewn / wedi cael fy hudo gan…’ • ‘Rwy’n gwneud cais ar gyfer y cwrs hwn oherwydd…’ 2 CYFLAWNIADAU ACADEMAIDD Mae eich datganiad personol ynglyn ag amlygu pam mai chi yw’r ymgeisydd perffaith i gael lle yn ein Hysgol. Felly, byddwch yn hyderus pan fyddwch yn siarad am eich cyflawniadau a’ch uchelgeisiau academaidd. 3 4 GADEWCH I NI SIARAD AMDANOCH CHI Yn ogystal ag amlinellu eich cyflawniad academaidd a’ch dyheadau, hoffem ddod i’ch adnabod chi fel unigolyn. Beth yw eich diddordebau a’ch hobïau y tu allan i’r ystafell ddosbarth? Does dim angen iddynt fod yn rhai sydd wedi ennill gwobraun; byddant yn helpu creu delwedd gyflawn ohonoch chi fel unigolyn. 5 PEIDIWCH Â LLÊN-LADRATA Nid yw llên-ladrata yn dderbyniol o gwbl; yn y brifysgol nac o fewn eich datganiad personol. 6 MAE CYFYNGIAD Mae cyfyngiad o 4,000 o nodau neu 47 llinell – cadwch olwg ar faint rydych chi wedi’i ysgrifennu. 7 DIM JÔCS Mae hiwmor yn aml yn ffordd wych o sefyll allan, ond nid yn yr achos hwn. Rydym ni eisiau eich cymryd chi o ddifri ac efallai bydd synnwyr digrifwch yr asesydd yn wahanol iawn i’ch synnwyr digrifwch chi. 8 GORAU PO GYNTAF Peidiwch â’i gadael tan y funud olaf i ysgrifennu’ch datganiad personol. Byddwch yn gweld ei fod yn cymryd yn hirach nag yr ydych yn meddwl i’w gael yn union fel rydych chi eisiau. Nid nawr yw’r adeg i ruthro.

EICH CAMAU NESAF

MEDI UCAS YN AGOR Dechreuwch ar eich cais.

HYD - TACH DIWRNODAU AGORED Cwrdd â staff a myfyrwyr ar y campws.

TACH - RHAG ’ON TRACK’ Cwblhewch eich cais.

EBR CYLLID MYFYRWYR Dechrau gwneud cais am gymorth ariannol. £

CHWEF - MAW DIGWYDDIADAU I DDEILIAID CYNNIG Cadwch lygad ar eich e-byst!

ION DYDDIAD CAU UCAS Cyflwyno’ch cais ar amser.

MEH CWMNI AC YSWIRIANT Dyddiad cau ar gyfer gwneud eich dewisiadau.

AWS DIWRNOD CANLYNIADAU! Cadarnhad a Chlirio.

MAI LLETY

Gwnewch gais cyn y dyddiad cau ym mis Mehefin.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd gan Abertawe i’w gynnig ewch i: abertawe.ac.uk

YSGOLORIAETHAU A BWRSARÏAU Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig ystod eang o ysgoloriaethau a bwrsarïau a allai fod ar gael i helpu ariannu eich astudiaethau. Gellir dyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg neu fyfyrwyr rhyngwladol, neu ar gyfer myfyrwyr sy’n rhagori mewn arholiadau, cerddoriaeth neu chwaraeon. Mae ein bwrsarïau yn gysylltiedig ag incwm yn helpu myfyrwyr o gefndiroedd incwm is. swansea.ac.uk/cy/israddedig/ ysgoloriaethau

CHWARAEON

Rydym yn ymfalchïo yn ein hymroddiad a’n hymrwymiad i chwaraeon a byw yn egnïol ar gyfer pawb o ddechreuwr i’r athletwr elitaidd. Manteisiwch i’r eithaf ar y cyfleusterau canlynol:

•Pwll 50m Cenedlaethol Cymru, Abertawe •Trac Athletau Awyr Agored •Ardal Gemau Aml-ddefnydd •Ystafelloedd Cardio a Phwysau •Llogi Beiciau a Llwybrau Loncian

DARPARIAETH GYMRAEG

DIWYLLIANT

Efallai bydd rhai modiwlau a seminarau ar gael yn Gymraeg. Byddwch yn gallu troi at tiwtoriaid personolsy’n siarad Cymraeg hefyd, ac yn gallu cyflwyno’ch gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg. swansea.ac.uk/cy/safonaur-gymraeg CYMDEITHASAU MYFYRWYR Ceir rhestr helaeth o gymdeithasau sydd ar gael i gymryd rhan ynddynt yn ein Hundeb Myfyrwyr. Yn ogystal â bod yn llawn hwyl, mae ymuno â chymdeithas yn cynnig cymunedau cymorth ar gyfer myfyrwyr a sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer swydd yn y dyfodol os byddwch yn ymgymryd â rôl arwain ar y pwyllgor.

Mae Prifysgol Abertawe yn cynnal a chefnogi ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a chreadigol, gyda nifer sylweddol o gymdeithasau cerddoriaeth a’r celfyddydau perfformiadol ffyniannus ar gyfer myfyrwyr. Mae Canolfan y Celfyddydau Taliesin yng nghanol Campws Parc Singleton ac yn cynnal cynyrchiadau rheolaidd, sgriniadau sinema prif ffrwd ac amgen, ac mae casgliad o dros 6,000 o hen greiriau o’r Aifft yn y Ganolfan Eifftaidd. Mae’r Neuadd Fawr ar Gampws y Bae, lle mae Awditoriwm Syr Stanley Clarke â 700 o seddi, sy’n cynnig acwsteg o’r radd flaenaf, yn lleoliad anhygoel i fwynhau perfformiadau, digwyddiadau, arddangosfeydd diwylliannol, a mwy.

DILYNWCH @PRIFABERTAWE AR INSTAGRAM I WELD MWY O LUNIAU GAN EIN MYFYRWYR

I gael gwybod mwy am ein rhaglenni, mynd ar daith o amgylch y Brifysgol a chyfarfod â’n staff a’n myfyrwyr, dewch i’n gweld ar un o’n Diwrnodau Agored!

Archebwch le trwy: swansea.ac.uk/cy/diwrnodau- agored

CYSYLLTWCH Â NI

Yr Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu, Campws Singleton, Abertawe SA2 8PP Cymru, y DU

E-bost: StudyFHSS@abertawe.ac.uk

www.swansea.ac.uk/cy/diwylliant- cyfathrebu

DILYNWCH NI AR Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL

Chwiliwch am Prifysgol Abertawe

Page 1 Page 2 Page 3 Page 4 Page 5 Page 6 Page 7 Page 8 Page 9 Page 10 Page 11 Page 12 Page 13 Page 14 Page 15 Page 16 Page 17 Page 18 Page 19 Page 20 Page 21 Page 22 Page 23 Page 24 Page 25 Page 26 Page 27 Page 28

www.swansea.ac.uk

Made with FlippingBook HTML5