SYLWADAU GAN FYFYRWYR
Fel myfyriwr rhyngwladol o Fietnam, rhoddodd y cwrs meistr blwyddyn unigryw hwn ystod eang o sgiliau academaidd ac ymarferol i mi gan gynnwys gwneud fideos, dylunio graffeg,
ysgrifennu proffesiynol, a chyfryngau digidol, a bydd pob un ohonynt yn hynod ddefnyddiol yn y gweithle. Gwnaeth yr athrawon, yr adnoddau a’r offer sydd ar gael yn y brifysgol argraff ddofn arnaf, yn ogystal â’r llu o weithgareddau allgyrsiol diddorol a gynigir. Mwynheais bob eiliad o astudio yma yn Abertawe.
HILARY NGUYEN Cyfathrebu, Ymarfer Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, MA
Fel myfyriwr rhyngwladol, roedd bod yn rhan o amgylchedd prifysgol mor wych a chefnogol yn ychwanegu at y profiad ac yn gwneud fy nhrosglwyddiad cyffredinol gymaint â hynny’n llyfnach. Fe wnes i ymdrochi’n llwyr yn y cwrs, y brifysgol a’r ddinas ac es ymlaen i gwblhau astudiaethau israddedig ac ôl-raddedig yn adran y cyfryngau. Rwyf nawr yn defnyddio fy sgiliau a phrofiad, ac yn gweithio gyda Sefydliad Diwylliannol y brifysgol. Mae dewis Prifysgol Abertawe wedi rhoi rhai o gyfleoedd gorau fy mywyd i mi.
SIDARTH DAMODAR Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh)
Made with FlippingBook HTML5