Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a CC

YMCHWIL

Ein nodau fel Cyfadran ac Ysgol yw cynhyrchu ymchwil cydweithredol, arloesol ac amlddisgyblaethol trwy weithio gyda rhai o’r ymchwilwyr disgleiriaf a gorau o bob cwr o’r byd. Mae gan yr adran Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus ddiwylliant ymchwil bywiog gyda meysydd ymchwil yn canolbwyntio ar Ffilm, y Dyniaethau Digidol, Cyfryngau Digidol, y Cyfryngau a Chyfathrebu, Sgrinio a Llwyfannu a mwy.

SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH Cynnal ymchwil sy’n helpu i ffurfio polisi Gwella Hygyrchedd Digidol Ymchwil i Ddylanwad y Cyfryngau ar Wleidyddiaeth Deall effaith technolegau newydd a datblygol

ARBENIGEDD YMCHWIL Mae ymchwil yn allweddol i’n haddysgu, ac mae gennym arbenigedd mewn meysydd amrywiol i helpu i lywio’r arferion a’r cwricwlwm diweddaraf a mwyaf arloesol i’w cyflwyno i chi. Mae ein harbenigedd yn cwmpasu:

Darlledu yng Nghymru Hanesyddiaeth Ffilm Ffeminyddol Cyfathrebu mewn Argyfwng a Diwylliant Archifau Ffilm Hygyrchedd Digidol

Sylw yn y Cyfryngau ar Wleidyddiaeth ac Etholiadau Cyfryngau Digidol a’r Metafyd Moeseg Cysylltiadau Cyhoeddus Sinema Ewropeaidd, Dwyrain Ewrop a Phrydain Cyfathrebu Chwaraeon

SBOTOLAU AR YMCHWIL: DR YAN WU, ATHRO CYSWLLT YN Y CYFRYNGAU

Mae ymchwil Dr Yan Wu yn canolbwyntio ar ddau brif faes - cyfryngau a chyfathrebu Tsieineaidd a chynhwysiant digidol yng Nghymru. Mae’r olaf yn codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o hawliau cyfathrebol i bobl â nam ar y synhwyrau yn yr oes ddigidol, gan gefnogi’r ymgyrch barhaus dros gydraddoldeb cyfathrebu gan Lywodraeth Cymru, elusennau, a chymunedau â nam ar y synhwyrau, ac mae wedi cynhyrchu tystiolaeth gref o effaith uniongyrchol ar bolisi. Cymerodd Dr Yan Wu ran yng nghyfres dau o gyfres Podlediad Problemau Byd-eang Prifysgol Abertawe gan rannu ei hymchwil arloesol. Sganiwch y cod QR a gwrandewch ar Dr Yan yn trafod addysg ddigidol, gan gynnwys sut i ddod yn ddinasyddion digidol hyderus a galluog mewn byd cyfrifiadurol sy’n cael ei yrru gan ddata; sut mae addysg ddigidol yn cefnogi gwaith ehangach ar draws yr economi ddigidol, seilwaith, cymdeithas a diwylliant; a materion cynhwysiant a hygyrchedd, ac yn enwedig mynediad pobl â nam ar y synhwyrau at gyfryngau digidol yng Nghymru a’r defnydd ohonynt.

Made with FlippingBook HTML5