Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a CC

CYFRYNGAU, CYFATHREBU, NEWYDDIADURAETH A CHYSYLLTIADAU CYHOEDDUS Mae adran Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a Chysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe yn cynnig rhaglenni gradd sy’n cwmpasu ystod lawn o lwybrau cyfryngau a chyfryngau digidol, gyda hyfforddiant gan weithwyr proffesiynol y diwydiant a staff academaidd o fri byd-eang. Mae hefyd yn cynnig cyfleoedd lleoliad gwaith a rhaglen weithredol o weithdai a seminarau gyda siaradwyr gwadd. EIN GRADDAU

P300 P304 P407 P302

Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Ar y cwrs hwn, cewch archwilio ymarfer cyfryngau creadigol, cynhyrchu radio a fideo, cyfryngau digidol a chymdeithasol, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus, brandio a marchnata, gan agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous i chi yn y sector hwn sy’n datblygu’n gyflym. Rydym yn cynnig strwythur gradd hyblyg gydag ystod eang o fodiwlau arbenigol, gan gynnwys: ysgrifennu ffuglen, cynhyrchu ffilmiau, cysylltiadau cyhoeddus digidol a strategaeth, marchnata a brandio. Mae’r rhaglenni hyn yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i’ch nodau gyrfa yn y dyfodol tra’n datblygu eich diddordebau unigol.

Made with FlippingBook HTML5