Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a CC

P500 P502 P50I

Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

Nod y rhaglen hon yw eich arfogi â set o sgiliau dadansoddol, ymarferol a chyflogadwyedd tair-ffordd, a fydd yn eich helpu i ymuno â’r farchnad swyddi graddedigion yn haws. Y tu hwnt i thema graidd newyddiaduraeth, byddwch yn cael cyfleoedd i archwilio arfer y cyfryngau creadigol, cyfryngau digidol a chymdeithasol, cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, theori cyfryngau, cyfraith y cyfryngau, chwaraeon a ffilm.

PP23 PP24 PP47 PP22

Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Archwiliwch fydoedd Cysylltiadau Cyhoeddus ac ymarfer cyfryngau creadigol ar y cwrs hwn, sy’n achrededig gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus, gan agor ystod o gyfleoedd gyrfa cyffrous i chi yn y sector hwn sy’n datblygu’n gyflym. Mae ein staff addysgu yn cynnwys ymchwilwyr rhyngwladol arbenigol ynghyd â staff sydd â phrofiad proffesiynol ar draws meysydd cysylltiadau cyhoeddus, marchnata, brandio, cynhyrchu fideos, dylunio gwe a chreadigol a newyddiaduraeth, gan roi cymysgedd heb ei ail i chi o brofiad academaidd a diwydiannol.

P360 P36A P36I P36F

Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant Chwaraeon, y Cyfryngau a Diwylliant, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Sylfaen

Mae’r rhaglen radd hon yn eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol fel crëwr a chyfathrebwr cynnwys chwaraeon proffesiynol, ar draws y cyfryngau chwaraeon cyfoes.

Mae’r cwrs hynod ymarferol hwn yn eich galluogi i astudio pynciau fel newyddiaduraeth chwaraeon, sylwebaeth chwaraeon, a hyrwyddo chwaraeon. Trwy’r astudiaeth ddamcaniaethol o ffandom, newyddiaduraeth chwaraeon, hunaniaeth genedlaethol a naratifau chwaraeon, byddwch yn gweld sut mae ein diddordeb parhaus mewn chwaraeon wedi llywio’r dirwedd gyfryngol.

Made with FlippingBook HTML5