Cyfryngau, Cyfathrebu, Newyddiaduraeth a CC

Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg, BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QP33 QP34 QP31

Bydd ein rhaglen BA Cyfryngau a Llenyddiaeth Saesneg yn cyfuno sgiliau cyfryngol ymarferol ynghyd ag archwilio llenyddiaeth ac ysgrifennu.

Byddwch yn archwilio theori a thechnegau sy’n berthnasol i gyfryngau modern ac ymarfer digidol, gan gynnwys cynhyrchu radio a fideo, newyddiaduraeth, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, theori’r cyfryngau, cyfraith y cyfryngau a ffilm. Byddwch hefyd yn astudio ystod eang o genres llenyddiaeth sy’n ymestyn o’r Oesoedd Canol i ffuglen gyfoes, ysgrifennu proffesiynol creadigol, rhywedd a diwylliant, barddoniaeth, a llenyddiaethau cenedlaethol a byd-eang.

Y Cyfryngau a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) Y Cyfryngau a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn Dramor Y Cyfryngau a’r Gymraeg (Llwybr ar gyfer myfyrwyr Ail Iaith), BA (Anrh) gyda Blwyddyn mewn Diwydiant

QP53 QP54

QP55

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio’r gwahanol agweddau ar iaith, llenyddiaeth, bywyd a diwylliant Cymru ochr yn ochr ag astudio’r Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus, yna hon yw’r radd i chi. Mae ein rhaglen radd Cyfryngau a Chymraeg yn cynnig y cyfle i chi ennill sylfaen gadarn mewn iaith a llenyddiaeth gyda chyfle i arbenigo mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol ac ieithyddiaeth gymdeithasol.

Byddwch hefyd yn datblygu dealltwriaeth gref o hanes a theori ym meysydd y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o arferion cyfredol ac esblygol a’r effaith y maent yn ei chael ar gymdeithas a byd busnes.

swansea.ac.uk/cy/israddedig/cyrsiau/diwylliant-chyfathrebu/cyfryngau- cyfathrebu-newyddiaduraeth-cysylltiadau-cyhoeddus/ I gael rhagor o wybodaeth, sganiwch y côd QR neu ewch i’n gwefan.

Made with FlippingBook HTML5