Blwyddyn Sylfaen - Yn amodol ar eich graddau disgwyliedig a’ch dewis o gwrs, efallai y byddwn yn cynnig lle i chi ar flwyddyn sylfaen fel dewis arall - a bydd cwblhau’r cwrs yn arwain at Flwyddyn 1 o’ch dewis gwrs. Dysgir y flwyddyn sylfaen hefyd ar Gampws Singleton. Bagloriaeth Cymru Uwch - bydd ymgeiswyr yn gallu bodloni ein gofynion, sef tri chymhwyster Safon Uwch neu ddau gymhwyster Safon Uwch a’r Dystysgrif Her Sgiliau.
Cymhwyster Prosiect Estynedig - bydd ymgeiswyr y disgwylir iddynt gael gradd B neu’n uwch mewn EPQ yn cael cynnig gostyngiad o un radd, e.e. byddai cynnig o AAB yn dod yn ABB, yn ogystal ag EPQ B.
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn adolygu pob cais fesul achos ac yn derbyn amrywiaeth o gymwysterau. Byddwn yn ystyried cyflwyno cynigion pwyntiau tariff i fyfyrwyr sy’n astudio cyfuniad o wahanol gymwysterau. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein proses dderbyn, anfonwch neges e-bost at ein tîm recriwtio cyfeillgar: studyFHSS@swansea.ac.uk .
ACHREDU PROFFESIYNOL
Mae ein graddau Cysylltiadau Cyhoeddus wedi’u hachredu gan y Sefydliad Siartredig Cysylltiadau Cyhoeddus ac yn cael eu haddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y diwydiant.
Made with FlippingBook HTML5