Swansea University Postgraduate Prospectus 2023

CYMRAEG CAMPWS SINGLETON

100 % AMGYLCHEDD YMCHWIL SY'N ARWAIN Y BYD AC YN RHAGOROL YN RHYNGWLADOL Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2021) YSYRIR BOD

RHAGLENNI YMCHWIL

• Cymraeg, MA drwy Ymchwil/PhD/MPhil ALl RhA

RHAGLENNI A ADDYSGIR

PAM ABERTAWE? • Mae'r holl fyfyrwyr ymchwil yn rhan o'n Canolfan y Graddedigion, sy'n darparu cymorth bugeiliol a gweinyddol. Mae hefyd yn gyfrifol am hyfforddiant a chymorth sgiliau ymchwil, yn ogystal â hwyluso amgylchedd deallusol bywiog i'r gymuned ymchwil ôl-raddedig. • Mae gennym labordai â'r feddalwedd ddiweddaraf yn y diwydiant cyfieithu, ynghyd ag ystafell sy'n efelychu cyfieithu ar y pryd mewn cynhadledd a'r cyfarpar diweddaraf i olrhain symudiadau'r llygad. • Byddi di'n astudio ar ein campws Parc Singleton llawn bwrlwm, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe.

• Cyfieithu Proffesiynol, MA ALl RhA

Mae staff yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn cynnwys ysgolheigion nodedig y mae parch mawr atynt yn eu meysydd penodol. Maent hefyd wedi cyfrannu'n sylweddol at fywyd diwylliannol Cymru. Mae'r Adran yn cynnig rhaglenni ôl-raddedig a addysgir arloesol mewn Cyfieithu Proffesiynol yn ogystal â'i graddau ymchwil yn Gymraeg. Gall gynnig goruchwyliaeth ymchwil ardderchog mewn amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys polisi dwyieithog a chynllunio iaith, ysgrifennu creadigol, hanes diwylliannol a chymdeithasol, y cyfryngau a ffilm, llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol, ieithyddiaeth gymdeithasol, technegau a thechnoleg cyfieithu.

YR HYN Y GELLI DI EI DDISGWYL • Mae MA drwy Ymchwil yn yr Adran Gymraeg yn dy alluogi i ymgymryd â phrosiect sylweddol yn seiliedig ar dy frwdfrydedd a dy ddiddordebau personol mewn diwylliant Cymraeg. • Bydd y radd MA alwedigaethol mewn Cyfieithu Proffesiynol yn rhoi hwb sylweddol i dy ragolygon gyrfa ym maes cyfieithu.

• Gall y rhaglenni gynnig llwybr i yrfa academaidd, neu ehangu dy gyfleoedd i ddod o hyd i swydd mewn meysydd megis addysg, y llywodraeth neu'r sector preifat.

HEFYD, GELLI DY YSTYRIED • Cymraeg, TAR

ARIANNU Mae'r Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o ysgoloriaethau ar gael. Cer i: abertawe.ac.uk/ol-raddedig/ ysgoloriaethau



Ysgoloriaethau Cymraeg ar gael, gweler tudalen 44

82

Made with FlippingBook Online newsletter maker