Postgraduate Prospectus - WELSH

CYFLE AM LEOLIAD GWAITH YM MAES MARCHNATA Strategol

Mae’r cyfle lleoliad gwaith hwn yn ddewis amgen yn lle’r modiwl traethawd estynedig traddodiadol. Bydd myfyrwyr yn cael profiad ymarferol o weithio ar brosiect marchnata mewn amgylchedd proffesiynol heb estyn hyd eu gradd nac aberthu credyd academaidd. Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â lleoliad gwaith di-dâl, tri mis o hyd, gyda menter fach i ganolig leol, gan weithio ar brosiect marchnata penodol. Ar ôl cwblhau’r prosiect hwn sy’n seiliedig ar waith, yn ogystal â chymhwyso cysyniadau damcaniaethol a ddysgwyd yn yr ystafell ddosbarth yn feirniadol mewn sefyllfa fusnes go iawn, bydd myfyrwyr wedi cael cyfle i werthuso’r heriau sydd

ynghlwm wrth weithio yn y byd go iawn, gan ysgwyddo cyfrifoldebau ac achub ar gyfleoedd i lunio cynlluniau am ddatblygiad personol yn y maes hwn yn y dyfodol. Yn ogystal â chyfarfodydd gyda’u goruchwylwyr drwy gydol y cyfnod, disgwylir i fyfyrwyr dreulio o leiaf 300 o oriau yn ymgymryd â’r prosiect marchnata hwn ar lefel raddedig. Mae hyn gyfwerth ag o leiaf 25 awr yr wythnos yn ystod y cyfnod tri mis, sy’n caniatáu i fyfyrwyr neilltuo 10 awr yr wythnos i gynnal ymchwil ac astudiaethau angenrheidiol i baratoi i gyflwyno’r adroddiad diwydiannol i’w asesu.

Made with FlippingBook HTML5