Postgraduate Prospectus - WELSH

MYNEDIAD MEDI AC IONAWR AR GAEL

GWEINYDDU BUSNES, MBA

Bydd ein rhaglen MBA yn eich galluogi i feithrin gwybodaeth uwch am arferion busnes allweddol, gan roi eich gyrfa ar y llwybr carlam i fod yn arweinydd busnes effeithiol. Dyma raglen wahanol sy’n cynnig ymagwedd wahanol at reoli. Gyda’i phwyslais ar gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, mae’r rhaglen hon yn addas ar gyfer ymarferwyr proffesiynol sydd â thair blynedd o brofiad proffesiynol perthnasol. Y nod yw eich galluogi i feithrin sgiliau i drefnu, cystadlu a chydweithredu yn y sectorau cyhoeddus, preifat, y trydydd sector ac ar eu traws. Bydd y rhaglen hon yn sicrhau eich bod yn barod i fynd i’r afael â heriau’r dyfodol. Bydd y rhaglen uchelgeisiol a heriol hon yn eich paratoi ar gyfer cam nesaf eich proffesiwn, beth bynnag yw eich uchelgais – newid swyddogaeth eich swydd, newid sector neu gynyddu eich gallu i ennill mwy o gyflog.

Llawn Amser (12 mis) Rhan Amser (24 mis)

FfioeddDysgu’r Flwyddyn y DU/UE: £20,000 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn GofynionMynediad: gradd 2:1 neu uwch mewn unrhyw ddisgyblaeth ynghyd ag o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol. gynnwys o leiaf 5.5 ym mhob elfen, neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Sylwer: Fel rhan o’r broses ymgeisio, disgwylir i chi ddarparu manylion am eich tair blynedd (isafswm) o brofiad proffesiynol perthnasol ynghyd â geirdaon. Gofynion iaith Saesneg: IELTS 6.5 neu uwch gan

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GYRFAOEDD POSIB:

ENGHREIFFTIAU O FODIWLAU:

• Entrepreneur • Cyfarwyddwr • Prif Swyddog Gweithredu • Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol

• Llywio Arloesedd a Newid • Arwain ag Uniondeb • Archwilio Diben Sefydliadol • Dadansoddi Data a Gwneud Penderfyniadau • Creu Gwerth Cynaliadwy • Deall Cyllid

49

Made with FlippingBook HTML5