Postgraduate Prospectus - WELSH

EIN CYRSIAU YMCHWIL CYLLID GOFYNION MYNEDIAD PhD: Gradd israddedig 2.1 a gradd meistr ag o leiaf radd gyffredinol o Deilyngdod. GOFYNIAD IAITH SAESNEG IELTS 6.5 yn gyffredinol (ac o leiaf 6.5 ym mhob cydran unigol) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Amser llawn £4,400/Rhan-amser - £2,200 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: Amser Llawn £16,100/Rhan-amser - £8,100 Dyddiadau dechrau: 1 Hydref, 1 Ionawr. 1 Ebrill, 1 Gorffennaf *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Rydym yn gwahodd ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau o safon uchel a chanddynt ddiddordebau ymchwil sy’n berthnasol i’n meysydd arbenigedd. Anogir ymgeiswyr i archwilio arbenigedd ymchwil yr Ysgol i sicrhau bod cynigion PhD yn cydweddu’n dda â darpar oruchwylwyr. PHD CYLLID Amser llawn (3 blynedd) Rhan-amser (6 blynedd) Ffioedd Addysgu’r Flwyddyn Academaidd, y DU/UE: Bydd gennych ryddid i ymchwilio i’r pynciau cyllid sydd o ddiddordeb i chi. Gallwch benderfynu archwilio dynameg y farchnad tai yn y DU neu ymchwilio i fodelu anwadalrwydd marchnadoedd ariannol gan ddefnyddio data amledd uchel rhyngwladol; beth bynnag yw eich maes pwnc, byddwn yn eich cefnogi. I gael gwybodaeth am gyfadran a grwpiau ymchwil presennol yr Ysgol, ewch i: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil

SUT RYDYM YN GWNEUD GWAHANIAETH

• Addysgu diwydiant am ymddygiad moesegol a chyfrifoldeb cymdeithasol • Gwella ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud â marchnadoedd datblygol • Dylanwadu ar drafodaethau sy’n llunio polisi • Hyrwyddo ymchwil i arferion darbodus

Mae’r prosbectws hwn yn amlinellu’r rhaglenni meistr ôl-raddedig a addysgir sydd ar gael. Os oes gennych ddiddordeb mewn rhaglen ymchwil, sylwer y gallwch ganolbwyntio ar bwnc academaidd, sy’n rhoi i chi’r hyblygrwydd a’r rhyddid i ddewis pwnc sydd o ddiddordeb neu berthnasedd penodol i chi. Yr unig amod yw rhaid bod gennym yr arbenigedd academaidd i’ch cynghori ac arwain eich astudiaethau. I gael rhagor o wybodaeth am ymchwil yn yr Ysgol Reolaeth, ewch i’r wefan: swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth/ymchwil

56

Made with FlippingBook HTML5