Postgraduate Prospectus - WELSH

EIN CYRSIAU YMCHWIL

BUSNES

CYSYLLTWCH Â NI E-bost: astudio@abertawe.ac.uk Ffôn: +44 (0)1792 295358 swansea.ac.uk/cy/ysgol-reolaeth

GOFYNION MYNEDIAD MPhil: Fel arfer, gradd gyntaf neu 2:1 mewn rheoli busnes neu bwnc cysylltiedig. PhD: Fel arfer, bydd Gradd Meistr mewn rheoli busnes yn ofynnol. Ystyrir ymgeiswyr heb radd Meistr ar sail unigol. Bydd ymgeiswyr â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf o’r DU (neu gymhwyster rhyngwladol cyfwerth a ddiffinnir gan Brifysgol Abertawe) sydd heb radd meistr, yn cael eu hystyried ar sail unigol. GOFYNIAD IAITH SAESNEG IELTS 6.5 (o leiaf 6.5 ym mhob cydran) neu gymhwyster cyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe.

Dyddiadau dechrau 1Hydref, 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1Gorffennaf.

MSc DRWY YMCHWIL Amser llawn (1 flwyddyn)/Rhan-amser (2 flynedd) Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, y DU/UE Amser llawn £4,400/Rhan-amser - £2,200 Ffioedd Dysgu’r Flwyddyn, Rhyngwladol: Amser llawn £16,100/Rhan-amser - £8,100 *Sylwer y gall y ffigurau hyn amrywio o flwyddyn i flwyddyn Mae’r MSc drwy Ymchwil mewn Rheoli Busnes yn radd ymchwil un flwyddyn (amser llawn) sy’n cynnig hyblygrwydd llawn drwy ei dull astudio sy’n seiliedig yn gyfan gwbl ar ymchwil. Bydd gennych ryddid i ddewis eich maes ymchwil eich hun mewn rheoli busnes gyda chymorth academyddion o safon ryngwladol yr Ysgol. Gan gyfuno ymchwil

annibynnol â goruchwyliaeth academaidd gan arbenigwyr, mae’r cwrs hwn yn darparu dealltwriaeth uwch o dueddiadau a materion cyfoes ym maes Rheoli a meysydd cysylltiedig. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ymddygiad defnyddwyr, strategaethau busnes byd-eang neu reoli adnoddau dynol, cewch gyfle i lunio gwaith ymchwil a allai gael effaith sylweddol ar faes busnes penodol.

57

Made with FlippingBook HTML5